Brechlyn ffliw - Adnoddau ffliw ar gyfer weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
Cefndir
Mae’r ffliw yn hynod heintus ac yn achosi haint feirol acíwt ar y llwybr anadlol. Mae’r feirws hwn yn cael ei ledaenu drwy ddafnau, aerosol neu gyswllt uniongyrchol â hylifau anadlol gan unigolyn sydd wedi’i heintio. Y cyfnod deor arferol yw un i dri diwrnod.
Ar gyfer unigolion iach, mae’r ffliw yn annymunol ond fel rheol yn bosib ei reoli, gydag adferiad rhwng dau a saith diwrnod. Mae rhai pobl mewn mwy o berygl iddo achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth. Gall cymhlethdodau’r ffliw gynnwys y canlynol:
- Broncitis
- Niwmonia bacterol eilaidd
- Otitis media (mewn plant)
- Llid yr ymennydd
- Enceffalitis neu
- Meningoenceffalitis
Ymhlith y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol oherwydd y ffliw mae:
- Babanod
- Pobl hŷn
- Y rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol
- Pobl ag imiwnoddiffygiant
- Merched beichiog
Brechlynnau’r ffliw
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi’u gwanhau a’u haddasu’n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu.
Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy’n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau’r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Darllenwch yr Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Cyfansoddiad a argymhellir o frechlynnau feirws y ffliw ar gyfer tymor ffliw hemisffer y gogledd 2025–2026 (Saesneg yn unig).
Crynodeb o’r nodweddion cynnyrch
Mae nifer o frechlynnau ffliw wedi’u hanactifadu ar gael. Gallwch ddysgu rhagor am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch (SmPC) (Saesneg yn unig) sydd i’w gael yn y ddolen crynodeb meddyginiaethau electronig (emc) (Saesneg yn unig) isod drwy nodi enw’r brechlyn: Fluenz Trivalent.
Brechlynnau sy’n cael eu argymell
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saesneg yn unig) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Adnoddau hyfforddi
Modiwlau e-Ddysgu am y ffliw
Diweddariad ffliw clinigol i Gymru
Mae’r modiwl e-ddysgu hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n imiwneiddio rhag y ffliw neu’n rhoi cyngor ar imiwneiddio rhag y ffliw. Dyma’r diweddariad clinigol ar gyfer Cymru ac mae wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor y ffliw 2025-26. Mae’r modiwl hwn ar gael ar ESR ac ar y platfform Dysgu@Cymru.
Modiwl e-ddysgu gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae’r modiwl hwn yn egluro pam mae’r brechlyn ffliw blynyddol mor bwysig i bob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi trosolwg o’r ffliw a’i gymlethdodau ac yn rhoi manylion am bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn a sut i’w gael. Mae’n addas ar gyfer holl weithwyr GIG Cymru, gweithwyr gofal iechyd nad ydynt yn gweithio i’r GIG, pobl sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, y maes gofal cymdeithasol a’r trydydd sector/sector gwirfoddol. Nid yw’r modiwl hwn yn ddiweddariad clinigol.
Mae rhagor o wybodaeth am y modiwlau hyn a sut i gael mynediad iddynt ar gael ar y dudalen E-ddysgu imiwneiddio.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant brechu ar y dudalen Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio .
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Y ffliw: the green book, pennod 19 (Saesneg yn unig)
- Rhaglen brechu rhag y ffliw: gwybodaeth i ymarferwyr gofal iechyd (Saesneg yn unig)
Cofiwch fod gwybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir cael mynediad at dempledi PGD ar gyfer y brechlyn ffliw o’r dudalen Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar wefan Gwasanaeth Cyngor Meddyginiaethau Cymru.
Adnoddau clinigol pellach a gwybodaeth
- Brechlynnau’r ffliw sy’n cael eu marchnata yn y DU (Saesneg yn unig)
- Cwestiynau cyffredin am y ffliw i weithwyr iechyd proffesiynol (mae angen cysylltiad â rhwydwaith GIG Cymru)
- Siart rheoli brechu rhag y ffliw ar gyfer unigolion ag alergedd i wyau
- Canllawiau ar wahodd gweithwyr gofal iechyd i gael brechiad ffliw
- Uchafu brechiad ffliw ymhlith staff gofal cymdeithasol – Canllawiau gwahoddiad – Dwyieithog
- Brechiad y ffliw: cynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechiad (Canllaw NICE) (Saesneg yn unig)
- Crynodeb o ganllawiau NICE ar cynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechiad
- Amserlen imiwneiddio rheolaidd gyflawn
- Poster proffesiynol gofal iechyd
- Poster ei ddal, ei binio, lladd
- Mae eich brechlyn ffliw yn barod i chi
Y niferoedd sy’n cael y brechiad
Mae gwybodaeth am yr oruchwyliaeth ar y ffliw, gan gynnwys y niferoedd sy’n cael y brechiad, i’w gweld yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adroddiad wythnosol y ffliw a haint anadlol acíwt.
Mae posib defnyddio ‘cyflymderometr’ i ddangos data am y niferoedd sy’n cael brechiad y ffliw. Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a hoffai greu eu cyflymderometr eu hunain ar gyfer y niferoedd sy’n cael y brechiad, dyma dempled sy’n cynnwys cyfarwyddiadau.
Adnoddau templed ffliw
- Templed adroddiad ffliw diwedd tymor ar gyfer practisau cyffredinol – Dwyieithog – O dan adolygiad ar hyn o bryd.
- Llythyr cyffredinol hysbysu ffliw i feddyg teulu – Dwyieithog
- Llythyr hysbysu am y ffliw cyflogwr – Dwyieithog
- Templed llythyr gwahoddiad brechiad ffliw
- Templed llythyr gwahoddiad brechiad COVID-19 a ffliw i oedolion – Dwyieithog
- Negeseuon testun banc dwyieithog SMS yn gwahodd pobl i gael brechlyn ffliw
Anoddau hyrwyddwyr brechu
Data a goruchwyliaeth
- Data a goruchwyliaeth
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- Adroddiad wythnosol y ffliw a heintiau anadol aciwt
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29ain Ebrill 2026