Brechlyn ffliw - Ynglŷn â’r brechlyn ffliw
Mae achosion o ffliw bob gaeaf. Mae’n bwysig iawn cael eich brechlyn ffliw bob blwyddyn os ydych chi’n gymwys.
Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn a gallent atal wythnosau o salwch difrifol.
Fideo Nawr mewn munud: Ffliw
Oedolion
A fydd brechlyn rhag y ffliw yn fy amddiffyn?
Mae brechu rhag y ffliw yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i amddiffyn rhag dal a lledaenu’r ffliw. Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn.
Mae feirysau ffliw yn newid yn gyson. Bob blwyddyn mae brechlynnau ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â’r feirysau ffliw sy’n debygol o fod yn cylchredeg.
Fel pob meddyginiaeth, nid oes unrhyw frechlyn yn gwbl effeithiol. Efallai y byddwch chi’n dal i gael y ffliw, ond mae’ch symptomau’n debygol o fod yn ysgafnach. Nid yw brechlynnau ffliw yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill, neu salwch gaeaf arall.
Pryd ddylwn i gael brechiad y ffliw?
Mae brechlynnau ffliw ar gael fel arfer tua diwedd mis Medi neu ddechrau mis Hydref bob blwyddyn. Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd. Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl i chi gael brechlyn ffliw.
Os ydych chi mewn grŵp sydd â risg uwch o fynd yn sâl iawn os ydyn nhw’n dal y ffliw, dylech chi gael brechiad ffliw bob blwyddyn.
Pwy sydd angen amddiffyniad rhag y ffliw?
Gallwch weld pwy sy’n gymwys i gael y brechlyn ffliw.
A ellir rhoi’r brechlyn ffliw ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Gallwch gael y brechlyn ffliw ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Gall y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi drafod hyn gyda chi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi.
A fyddaf yn cael unrhyw sgîl-effeithiau o frechiad y ffliw?
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.
Mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- Poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwyddo lle cawsoch y pigiad
- poenau yn y cyhyrau neu’r cymalau
- blinder
- diffyg archwaeth
- dolur rhydd, a
- cur pen/pen tost.
Ni fydd y brechlyn ffliw yn rhoi ffliw i chi.
Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n pryderu, cysylltwch â GIG 111Cymru drwy ffonio 111 neu ffoniwch eich practis meddygon teulu. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw pa frechlynnau rydych chi wedi’u cael fel y gallan nhw eich asesu’n llawn.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl y brechiad, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Dylech roi gwybod am unrhyw sgîl-effeithiau’r brechlyn drwy gynllun y Cerdyn Melyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yp).
Ar gyfer pob sgil-effaith ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gweler y daflen wybodaeth berthnasol i gleifion isod:
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Os ydych chi’n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu’n 65 oed neu’n hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich practis meddygon teulu neu mewn rhai fferyllfeydd lleol. Mewn rhai ardaloedd o Gymru, gall menywod beichiog gael y brechlyn gan eu bydwragedd hefyd.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi methu’r gwahoddiad i gael brechlyn ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllfa leol.
Os yw’ch plentyn yn gymwys i gael brechlyn ffliw, gweler yr wybodaeth yn yr adran ‘Plant a phobl ifanc’ ymhellach i lawr y dudalen.
Os ydych chi’n gweithio mewn cartref gofal, yn weithiwr gofal cartref (yn darparu gofal yng nghartrefi pobl) neu’n weithiwr gofal iechyd, ewch i’r dudalen we Y Ffliw – Gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gymwys ar gyfer y brechiad i ddarganfod sut i gael eich brechlyn.
A allaf gael y ffliw os ydw i wedi cael fy mrechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o helpu i atal salwch difrifol o’r ffliw. Nid oes yr un brechlyn yn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r ffliw, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am y ffliw ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Sut byddaf yn gwybod a oes ffliw arnaf?
Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf.
Nid yw tua hanner y bobl sydd wedi’u heintio â’r ffliw hyd yn oed yn sylweddoli hynny, ac eto gallant ledaenu’r feirws i eraill o hyd. Gall hyn weithiau achosi salwch difrifol gan arwain at ofal ysbyty, ac mewn achosion prin, marwolaeth.
Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i’r ffliw, felly gwiriwch y cyngor diweddaraf a dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl bod gen i’r ffliw?
Os oes gennych chi dymheredd neu beswch, dilynwch y canllawiau cyfredol.
Fel arfer rheolir y ffliw trwy orffwys gartref, cadw’n gynnes ac yfed digon o ddŵr. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir), i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poenau os oes angen.
Fodd bynnag, os ydych chi mewn grŵp risg uchel, dylech siarad â’ch practis meddyg teulu neu’ch fferyllfa leol ar unwaith os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych chi’r ffliw, gan y gallent argymell cwrs o feddyginiaeth gwrthfeirol.
Er mwyn helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch:
Daliwch e
Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi’n tisian neu’n peswch.
Biniwch e
Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.
Lladdwch e
Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.
Plant a phobl ifanc
Pa blant all gael brechiad y ffliw am ddim?
Pam mae angen brechlyn ffliw ar blant a rhai pobl ifanc?
Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond plant oedran ysgol sydd â’r gyfradd uchaf o haint a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddyn nhw. Mae gan blant dan bump oed un o’r cyfraddau derbyn i’r ysbyty uchaf oherwydd y ffliw o’i gymharu â grwpiau oedran eraill.
Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint) a heintiau clust.
Mae rhai plant yn mynd mor sâl fel bod angen iddynt fynd i’r ysbyty.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau broncitis, niwmonia a heintiau clust, ewch i’r dolenni isod.
Sut mae brechiad y ffliw yn helpu?
Bydd cael brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw.
Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn. Mae’r brechlyn fel arfer yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw.
Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, oedolion hŷn, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae rhai pobl yn dal i gael y ffliw hyd yn oed ar ôl cael brechlyn ffliw, ond yn aml gyda symptomau ysgafnach. Nid yw brechlynnau ffliw yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill neu salwch gaeaf arall.
Pa mor effeithiol yw brechlynnau ffliw a roddir i blant?
Mae brechlynnau ffliw yn helpu i amddiffyn pobl rhag y ffliw a’r cymhlethdodau posibl a achosir gan y ffliw.
Mae nifer o frechlynnau ffliw ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Mae’r brechlynnau sy’n cael eu hargymell ar hyn o bryd wedi’u profi i fod yn effeithiol trwy dreialon clinigol ac astudiaethau o’u defnydd yn y DU dros sawl blwyddyn.
Dyma’r ddau brif fath o frechlynnau ffliw i blant yn y DU.
- Y brechlyn ffliw gwanedig byw (LAIV), a roddir fel chwistrell i fyny’r trwyn.
- Os na ellir rhoi’r chwistrell trwyn am resymau meddygol, neu oherwydd ei fod yn anaddas fel arall, gall plant gael y brechlyn ffliw chwistrelladwy sy’n seiliedig ar gelloedd (IIVc) yn lle hynny. Rhoddir y brechlyn hwn fel pigiad.
Mae’r ddau frechlyn yn cynnig amddiffyniad da iawn i blant ac oedolion ifanc.
Feirysau ffliw gwahanol
Mae gwahanol fathau o feirysau ffliw yn cylchredeg ac yn achosi haint bob blwyddyn. Mae’r rhain yn newid dros amser. Oherwydd hyn, mae’n anodd cymharu’r brechlynnau’n uniongyrchol a dweud pa un sydd fwyaf effeithiol ar y cyfan.
Y tri phrif fath o feirysau ffliw, sy’n cylchredeg y rhan fwyaf o flynyddoedd, yw:
- ffliw A(H1)
- ffliw A(H3), a
- ffliw B.
Yn ystod gaeaf 2024 i 2025, gwnaeth y chwistrell trwyn a’r pigiad a gynigiwyd i blant eu hamddiffyn rhag y tri math o feirws ffliw. Ar gyfer y ddau feirws ffliw mwyaf cyffredin y tymor hwnnw, gweithiodd y chwistrell trwyn yn well ar gyfer un math a gweithiodd y pigiad yn well ar gyfer y llall. Roedd y lefel gyffredinol o effeithiolrwydd yn debyg ar gyfer y ddau frechlyn.
Mae feirysau ffliw yn newid (mwtadu) weithiau. Mae hyn yn eu gwneud yn anoddach i ymladd yn eu herbyn, gan eu bod yn wahanol i’r rhai y mae brechlynnau’n amddiffyn yn eu herbyn. Gallai’r chwistrell trwyn roi gwell amddiffyniad yn erbyn y feirysau wedi mwtadu hyn oherwydd sut mae’n helpu’r corff i ddatblygu imiwnedd.
Argymhelliad terfynol
Yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, y chwistrell trwyn yw’r brechlyn ffliw a argymhellir o hyd ar gyfer plant rhwng dwy a 17 oed, oni bai nad ydynt yn gallu ei gael am resymau meddygol neu resymau eraill.
Oes gan frechiadau’r ffliw unrhyw sgîl-effeithiau?
Chwistrelliad trwyn rhag y ffliw
Ar ôl y brechiad chwistrelliad trwyn rhag y ffliw, mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yn cynnwys:
- trwyn yn rhedeg neu wedi’i blocio
- llai o archwaeth
- gwendid
- twymyn
- cur pen, a
- phoenau yn y cyhyrau.
Chwistrelliad brechlyn rhag y ffliw
Os yw plentyn neu berson ifanc yn cael y brechiad ffliw trwy chwistrelliad, mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwydd lle rhoddwyd y pigiad
- cur pen /pen tost
- poen yn y cyhyrau
- blinder
- newid mewn arferion bwyta, gan gynnwys colli archwaeth
- tymer flin
- teimlo’n gysglyd, a
- dolur rhydd.
Mae brechlynnau rhag y ffliw yn ddiogel iawn.
Ni fydd y brechlyn ffliw yn achosi ffliw.
Ar gyfer pob sgil-effeithiau ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gweler y daflen wybodaeth berthnasol i gleifion:
Plant dwy oed a phobl ifanc o dan 18 oed
Plant dwy oed a phobl ifanc o dan 18 oed
Sylwer: Gellir cynnig y brechlyn ffliw fel pigiad i blant rhwng dwy a 17 oed na allant gael y brechlyn chwistrell trwyn, er enghraifft, oherwydd rhai cyflyrau iechyd neu oherwydd ei fod yn cynnwys gelatin porc.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau a amheuir o’r brechlyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i yp).
Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?
Os yw’ch plentyn yn chwe mis oed neu’n hŷn a bod ganddo rai cyflyrau iechyd, mae’n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn gan ei fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r ffliw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gofalwyr ifanc
Dylai plant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun a allai fynd yn sâl iawn o’r ffliw, fel person hŷn neu rywun â phroblemau iechyd, gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Gall helpu i’w hamddiffyn nhw a’r person maen nhw’n gofalu amdano.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Yn gyffredinol, gwahoddir plant sy’n ddwy neu dair oed (ar 31 Awst 2025) i gael eu brechlyn ffliw yn eu practis meddygon teulu.
Mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed a rhai pedair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa.
Os yw eich plentyn yn y grŵp oedran hwn ac nad yw wedi cael gwahoddiad i gael y brechlyn erbyn canol mis Tachwedd, cysylltwch â’i bractis meddygon teulu.
Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol yn cael eu brechlyn ffliw yn yr ysgol. Bydd rhieni’n cael gwybodaeth am y brechlyn, ynghyd â ffurflen gydsynio bapur neu ddigidol. Darllenwch yr wybodaeth, yna llenwch a dychwelwch y ffurflen gydsynio cyn gynted â phosibl.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd pobl ifanc o dan 16 oed yn gallu cydsynio eu hunain, os ydyn nhw’n ddigon aeddfed i ddeall yn llawn yr hyn sy’n cael ei gynnig. Bydd y sawl sy’n rhoi’r brechiad yn gallu ateb cwestiynau.
Gall plant a phobl ifanc pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol nac addysg brif ffrwd gael eu brechlyn ffliw yn eu practisiau meddygon teulu neu ganolfan frechu gymunedol. Bydd angen i chi wneud apwyntiad a gofyn i’ch bwrdd iechyd lleol beth i’w wneud nesaf.
Os yw’ch plentyn o dan ddwy oed, neu’n 16 neu 17 oed, ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r ffliw oherwydd cyflwr iechyd, dylai ei bractis meddygon teulu ei wahodd i gael ei frechlyn.
Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw yn gynnar yn yr hydref cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.
Os bydd eich plentyn yn methu cael ei frechlyn ffliw, siaradwch â’i ymwelydd iechyd (os yw’r plentyn o dan bump oed), nyrs yr ysgol neu bractis meddygon teulu am gael y brechlyn.
Pa fath o frechiad ffliw sy’n cael ei roi i blant a phobl ifanc?
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol. Mae’n anwedd mân wedi’i chwistrellu i fyny’r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed. Mae’r brechlyn yn ddi-boen ac yn ddiogel, ac nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc fel rheol yn ofidus ar ôl ei gael.
Gall plant a phobl ifanc yn yr oedrannau uchod sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt mewn addysg brif ffrwd gael y brechlyn ffliw hefyd.
Os bydd eich plentyn yn methu cael ei frechlyn ffliw, siaradwch â’i ymwelydd iechyd (os yw’r plentyn o dan bump oed), nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am gael y brechlyn.
Ni ellir rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn i blant a phobl ifanc sydd:
- o dan ddwy flwydd oed
- yn cael triniaeth aspirin (salicylate) hirdymor
- wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n peryglu bywyd i’r brechlyn neu ei gynhwysion
- â system imiwnedd wan oherwydd clefyd neu driniaeth
- sy’n feichiog
- â brest wichiog ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tridiau blaenorol, neu
- wedi cynyddu’r defnydd o’u hanadlyddion asthma yn ystod y tridiau blaenorol.
Mae pigiad brechlyn ffliw ar gael o bractisiau meddygon teulu ar gyfer plant a phobl ifanc na allant gael y brechlyn chwistrell trwyn.
Mae rhai sefyllfaoedd lle dylech chi gael cyngor ynglŷn â rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn i’ch plentyn. Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs ymarfer i gael rhagor o gyngor cyn i’ch plentyn gael y brechlyn ffliw.
- Mae gan eich plentyn asthma ac mae angen steroidau geneuol rheolaidd arno neu mae wedi bod angen
triniaeth gofal dwys ar gyfer ei asthma arno yn y gorffennol. Yn yr achos hwn, dylai gael cyngor am y brechlyn chwistrell trwyn gan arbenigwr. Efallai y cynigir pigiad brechlyn ffliw iddo yn lle hynny neu efallai y bydd angen iddynt gael y brechlyn chwistrelliad trwyn yn yr ysbyty. - Mae eich plentyn yn cael mewnblaniad yn y cochlea yn yr wythnos cyn ei apwyntiad brechu chwistrell trwyn, mae i gael y brechiad yn y pythefnos ar ôl cael ei fewnblaniad, neu mae problemau sy’n gysylltiedig â’r mewnblaniad.
- Mae gan eich plentyn annormaleddau’r wyneb a’r penglog heb eu trwsio (gwahaniaeth yn siâp yr wyneb neu’r benglog nad yw wedi’i gywiro gyda llawdriniaeth).
- Ni all eich plentyn osgoi cysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar.
Yn y sefyllfaoedd hyn, gall eich plentyn gael y brechlyn ffliw trwy bigiad yn lle hynny. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud asesiad cyn rhoi’r brechlyn.
A all fy mhlentyn gael y brechlyn os yw’n sâl ar ddiwrnod apwyntiad y brechlyn?
Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw. Os yw’ch plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel, mae’n well gohirio ei frechiad nes ei fod yn teimlo’n well.
Cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau COVID-19.
Oes posib i fy mhlentyn gael y brechiad os oes ganddo alergedd i wyau?
Gellir rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn yn ddiogel i’r rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau. Os yw eich plentyn wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i wy a oedd angen triniaeth gofal dwys, dylid cynnig brechlyn ffliw priodol iddo drwy bigiad.
Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am ragor o gyngor.
A ellir rhoi’r brechlyn ffliw ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Gallwch chi gael y brechlyn ffliw ar yr un pryd â’r rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Gall y person sy’n rhoi’r brechlyn i chi drafod hyn gyda chi.
Ydi’r brechiad drwy chwistrell trwyn yn cynnwys gelatin?
Mae brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn cynnwys olion bach o gelatin porc wedi’i buro’n dda.
Dyma’r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc.
Ni fydd rhai pobl yn bwyta gelatin porc oherwydd eu ffydd. Mae cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig wedi cymeradwyo defnyddio’r brechlyn chwistrell drwynol ffliw. Mae hyn oherwydd bod y chwistrell trwyn ffliw yn gynnyrch nad yw drwy’r geg ac yn feddyginiaeth.
Os penderfynwch nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael y chwistrell trwyn, gallant gael pigiad yn lle hynny. Nid yw hyn yn cynnwys gelatin porc. Gallwch amlygu hyn ar eich ffurflen gydsynio. Neu gallwch gysylltu â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r meddyg teulu i drafod gyda nhw sut i gael y pigiad.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gelatin porc.
Adnoddau Beth yw’r brechlyn ffliw?
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i GIG 111 Cymru, siarad â’ch meddyg neu nyrs, neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.
Cael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys ei gynnwys a sgîl-effeithiau posib (Saesneg yn unig). Bydd angen i chi nodi enw’r brechlyn yn y blwch chwilio.
Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yp).
Mae’r amserlen sy’n dangos pa frechiadau sy’n cael eu cynnig yn rheolaidd yng Nghymru ar gael.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ebrill 2026