Brechlyn dTaP/IPV (4 mewn 1) - Gwybodaeth brechlyn 4 mewn 1 i weithwyr iechyd proffesiynol
Cefndir
Mae difftheria, tetanws, pertwsis (y pas) a pholiomyelitis yn afiechydon hysbysadwy.
Ynglŷn â’r brechlyn 4-mewn-1
Cynigir y brechlyn 4-mewn-1 fel mater o drefn yn dair blwydd a phedwar mis oed, ac i blant hyd at ddeng mlwydd oed nad ydynt wedi’i dderbyn.
Mae’r brechlyn 4-mewn-1 yn cael ei farchnata i’w ddefnyddio yn y DU o dan yr enwau brand REPEVAX® a Boostrix-IPV®. Mae’r ddau frechlyn yn gyfwerth yn glinigol.
Mae REPEVAX® a Boostrix-IPV® yn frechlynnau i’w chwistrellu a ddaw ar ffurf chwistrell wedi’i llenwi ymlaen llaw. Maent yn cynnwys swm llai o antigenau difftheria, tetanws a phertwsis anghellog ac antigenau poliomyelitis wedi’u hanactifadu.
Noder: Erbyn hyn y prif frechlyn a ddefnyddir ar gyfer y brechiad atgyfnerthu cyn-ysgol yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis anghellog a pholio (dTaP/IPV) yw REPEVAX®.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael ym mhenodau’r Llyfr Gwyrdd ar gyfer pob clefyd. Gweler yr adran adnoddau a gwybodaeth glinigol.
Mae canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd yn disodli’r Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC).
Rhoi gwybod am sgîl-effeithiau
Mae adrodd am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl brechu yn bwysig. Mae’n helpu i fonitro diogelwch a manteision y feddyginiaeth. Dylech roi gwybod am adweithiau niweidiol posibl o frechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saesneg yn unig) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. polio.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrai Llywodraeth Cymru
- Rhaglen dal i fyny polio brys ar gyfer plant dan 5 oed (WHC/2022/027)
- Cyngor dilynol am y rhaglen dal i fyny’r brechlyn polio i blant dan 5 oed (WHC/2022/029)
- Brechiad pertwsis i weithwyr gofal iechyd (WHC/2024/043)
- Plant ac oedolion sydd wedi methu brechiadau rheolaidd: manyleb gwasanaeth cenedlaethol atodol
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau rheolaidd a’r rhai sydd ddim yn rheolaidd.
Adnoddau a hyfforddi
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi trwy’r E-ddysgu dudalen.
Rhoddir rhagor o wybodaeth am hyfforddiant imiwneiddio ac adnoddau ar y Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio dudalen.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Llyfr Gwyrdd, pennod 15 – Difftheria (Saesneg yn unig)
- Llyfr Gwyrdd, pennod 30 – Tetanws (Saesneg yn unig)
- Llyfr Gwyrdd, pennod 24 – Pertwsis (Saesneg yn unig)
- Llyfr Gwyrdd, pennod 26 – Polio (Saesneg yn unig)
- Mae cyfarwyddyd ar drin achosion o detanws a rheoli briwiau sy’n agored i detanws (Saesneg yn unig) ar gael.
- Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn (Saesneg yn unig)
- Iechyd Cyhoeddus Cymru (SharePoint) – Cwestiynau cyffredin (Saesneg yn unig)
Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.
Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth
Rhagor o wybodaeth
Data a goruchwyliaeth
Mae gwybodaeth goruchwyliaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod:
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- COVER – Data cenedlaethol ar imiwneiddio i blant
- Clefyd difftheria: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
- Tetanws: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
- Pertwsis: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
- Polio: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ebrill 2026