Brechiad y pas (pertwsis) - Ynglŷn â brechlyn y pas
Mae brechiad y pas yn ffordd ddiogel ac effeithiol o warchod merched beichiog, babanod heb eu geni, babanod a phlant rhag yr haint yma.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechiad a’r afiechyd mae’n gwarchod yn ei erbyn yn GIG 111 Cymru.
Cymhwysedd ar gyfer brechiad
Ynglŷn â’r brechlyn
Nid oes brechiad sy’n gwarchod rhag y pas yn unig. Yn lle hynny, mae’r brechiadau sy’n cael eu cynnig yn frechiadau cyfunol sy’n gwarchod rhag gwahanol afiechydon, gan gynnwys y pas.
Nid yw’r brechiadau’n fyw ac ni allant achosi’r pas.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am frechiad y pas ar y tudalennau canlynol.
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i GIG 111 Cymru.
Gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechiad neu’r afiechydon mae’n gwarchod rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Rhagor o wybodaeth
- Gwybodaeth i’r cyhoedd gan Royal College of Obstetricians and Gynaecologists (Saesneg yn unig)
- GIG 111 Cymru – Brechiadau
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Ebrill 2026