Neidio i'r cynnwys

Brechiad y pas (pertwsis) - Brechiad y pâs yn ystod beichiogrwydd

Mae brechlyn y pas (pertwsis) yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd er mwyn amddiffyn eu babanod rhag y clefyd difrifol hwn.

Gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos o feichiogrwydd, ond efallai na fydd yn cynnig yr un lefel o amddiffyniad. Mae angen cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd.  

Mae babanod sy’n rhy ifanc i gael eu brechu rhag y pas yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd difrifol fel heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia) neu, mewn achosion prin, marwolaeth. Mae hyn yn cynnwys babanod dan ddau fis oed, yn enwedig y rhai na chafodd eu mamau eu brechu rhwng 16 a 32 wythnos o’u beichiogrwydd. 

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau’r pas, ewch i GIG 111 Cymru.

Mae cael eich brechu yn ystod beichiogrwydd yn bwysig. 

Mae’r amddiffyniad a gewch o frechlyn y pas yn cael ei drosglwyddo i’ch baban heb ei eni. Yn ogystal â helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd, nes iddo gael ei imiwneiddiad arferol cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed.  

Mae’r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i’ch baban.   

Nid oes brechlyn sy’n diogelu rhag y pas yn unig. Mae’r brechlyn a roddir i chi yn frechlyn cyfun sy’n diogelu rhag gwahanol glefydau, gan gynnwys y pas. Nid yw’r brechlyn yn fyw, ac ni all achosi’r pas. Byddwch yn cael cynnig un dos o’r brechlyn, a roddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. 

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Beichiogrwydd

Gall pob menyw feichiog gael y brechlyn o wythnos 16 o’u beichiogrwydd. Mae’n well cael y brechlyn rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Er y gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos, efallai na fydd yn rhoi’r un lefel o amddiffyniad i’ch baban. Mae hyn oherwydd ei bod yn cymryd amser i’r brechlyn weithio. Mae’n bwysig cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.

Os na chawsoch chi frechlyn y pas tra’r oeddech chi’n feichiog, gallwch chi ei gael o hyd yn yr wyth wythnos ar ôl yr enedigaeth (hyd nes y bydd eich plentyn yn cael ei ddos ​​arferol cyntaf). Bydd hyn yn eich amddiffyn a gall eich atal rhag trosglwyddo’r pas i’ch baban, er na fydd yn amddiffyn y baban yn uniongyrchol. Os ydych yn bwydo ar y fron, nid oes tystiolaeth o unrhyw risg i’r baban o ganlyniad i gael y brechlyn.

Imiwneiddio babanod

Yn wyth wythnos oed, bydd angen i’ch baban ddechrau cael brechiadau ar gyfer y pas fel rhan o gynllun imiwneiddio plentyndod arferol y GIG. Cynigir brechlyn y pas i bob baban fel rhan o amserlen frechu arferol y GIG.

Mae’r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn rhoi manylion ynghylch pryd y disgwylir i’ch plentyn gael ei frechiadau.

Ynglŷn â’r brechlyn

Beth yw brechlyn y pas?

Nid oes brechlyn sy’n diogelu rhag y pas yn unig. Byddwch yn cael brechlyn cyfun sy’n amddiffyn rhag gwahanol glefydau, gan gynnwys y pas. Nid yw’r brechlyn yn fyw, ac ni all achosi’r pas. Byddwch yn cael cynnig un dos o’r brechlyn, a roddir fel pigiad yn rhan uchaf y fraich.

Pam ddylwn i gael brechlyn y pas yn ystod beichiogrwydd?

Os ydych chi’n feichiog, gallwch helpu i ddiogelu eich baban rhag y clefyd difrifol hwn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd drwy gael eich brechu.

Mae’r rhaglen frechu wedi bod ar waith ers 2012 ac mae’n effeithiol iawn o ran amddiffyn babanod rhag y pas o’u geni.

Mae’n bwysig eich bod yn cael brechlyn y pas cyn gynted â phosibl ar ôl i chi ddod yn gymwys o wythnos 16 eich beichiogrwydd.

Bydd yr amddiffyniad y bydd eich baban yn ei gael o ganlyniad i chi’n cael y brechlyn yn pylu, felly mae’n bwysig eich bod yn mynd â’ch baban i gael ei frechiadau arferol.

Mae babanod yn cael cynnig brechlyn y pas fel rhan o’u hamserlen imiwneiddio plant sy’n dechrau pan fyddant yn wyth wythnos oed. Mae’n bwysig eu bod yn cael cynnig yr holl frechiadau ar gyfer y pas er mwyn cwblhau’r amserlen lawn i gael lefel dda o amddiffyniad.

Mae’n bwysig cael eich brechu rhag y pas bob tro y byddwch yn feichiog.

Sut mae cael brechiad yn ystod beichiogrwydd yn diogelu fy maban?

Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth. Bydd yr imiwnedd hwn yn helpu i ddiogelu eich baban yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf o fywyd pan fydd fwyaf agored i niwed, hyd nes ei fod yn ddigon hen i gael brechlyn y pas cyntaf pan fydd yn wyth wythnos oed.

Mae’r brechlyn hefyd yn eich amddiffyn rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y byddwch yn ei drosglwyddo i’ch baban.

Pam na all fy maban gael ei frechu cyn gynted ag y bydd wedi cael ei eni?

Hyd yn oed pe bai eich baban yn cael ei frechu ar unwaith, ni fyddai’n cael ei amddiffyn o’i enedigaeth gan ei bod yn cymryd hyd at bythefnos i ddatblygu ymateb i’r brechlyn. Hefyd, mae angen i fabanod gwblhau’r rhestr lawn o frechiadau sy’n cynnwys brechlyn y pas er mwyn iddo gael lefel dda o amddiffyniad rhag y pas.

Pryd fydda i’n cael cynnig brechlyn y pas?

Mae brechlyn y pas yn cael ei gynnig i bob menyw feichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos o feichiogrwydd hyd at yr adeg y bydd eich baban yn cael ei eni. Fodd bynnag, gall fod yn llai effeithiol os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn eich beichiogrwydd.

Pa frechlyn y pas fydda i’n ei gael?

Nid oes brechlyn unigol sy’n atal babanod rhag cael y pas. Mae pob brechlyn y pas hefyd yn cynnwys difftheria a thetanws. Yn dibynnu ar ba frechlyn a gynigir i chi, gall rhai gynnwys polio hefyd. Dyma’r brechlynnau sy’n cael eu rhoi yn ystod beichiogrwydd:

Sut alla i gael brechlyn y pas?

Bydd practisiau meddygon teulu a rhai clinigau cyn-geni yn rhoi’r brechlyn. Os ydych yn 16 wythnos yn feichiog ac nad ydych wedi cael cynnig y brechlyn, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch practis meddyg teulu i wneud apwyntiad i gael eich brechu.

Mae gen i blant eraill – a oes angen iddyn nhw gael y brechlyn hefyd?

Os oes gennych chi blant ifanc eraill, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gyfredol o ran eu brechiadau. Bydd hyn yn helpu i’w hatal rhag cael y pas a’i drosglwyddo i’ch baban newydd.

Mae’r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn rhoi manylion ynghylch pryd y disgwylir i’ch plentyn gael ei frechiadau.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

A yw brechlyn y pas yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Nid oes tystiolaeth bod y brechlyn a gynigir yn ystod beichiogrwydd yn risg i fenywod beichiog, y beichiogrwydd neu’r baban. Nid yw’n frechlyn byw, felly ni allwch gael y pas ohono.

Mae’r brechlyn a gewch wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae astudiaethau’n dangos nad oes unrhyw risgiau i feichiogrwydd yn cael eu hachosi gan y brechlyn. Mae cyfraddau babanod normal, iach yr un fath ar gyfer menywod sydd wedi’u brechu a heb eu brechu.

Mae’r brechlyn yn hynod effeithiol ac mae ganddo hanes diogelwch rhagorol. Rhoddir miliynau o ddosau ledled y byd.

Rwy’n poeni am gael fy mrechu yn ystod beichiogrwydd. A oes ffordd arall o ddiogelu fy maban rhag y pas?

Nid oes ffordd well na’r brechiad o amddiffyn eich baban rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.

Efallai bod eich amddiffyniad (trwy naill ai gael y pas neu gael eich brechu pan oeddech yn ifanc) wedi pylu. Hyd yn oed os ydych yn bwriadu bwydo ar y fron, nid oes digon o amddiffyniad rhag y pas yn cael ei drosglwyddo yn llaeth y fron i amddiffyn eich baban.

Mae cael eich brechu yn lleihau eich risg o gael eich heintio â’r pas a’r risg o drosglwyddo’r pas i’ch baban.

A allaf gael brechlynnau eraill yr un pryd yn ystod beichiogrwydd?

Efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlynnau eraill a argymhellir ar yr un pryd ag y byddwch yn cael eich brechlyn y pas. Siaradwch â’ch bydwraig neu nyrs practis am ragor o fanylion am y brechlynnau sydd eu hangen arnoch.

A alla i ddal y pas os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i GIG 111 Cymru.

A allaf gael y brechlyn y pas os oes gennyf alergedd?

Ychydig iawn o resymau sydd pam na allwch chi gael brechlyn y pas. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n bygwth bywyd) i ddos ​​blaenorol o’r brechlyn, neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. Dywedwch wrth eich darparwr gofal iechyd os oes gennych alergedd i latecs, gan fod brechlyn amgen addas ar gael ar gyfer y rhai ag alergedd i latecs.

A oes unrhyw sgîl-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Dim ond diwrnod neu ddau ddylai’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin bara.

Sgîl-effeithiau cyffredin: 

Rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yw:

  • chwyddo, cochni neu dynerwch lle cawsoch y brechlyn
  • pen tost/cur pen
  • dolur rhydd
  • poenau yn y corff neu wendid yn y cyhyrau
  • blinder, a
  • theimlo’n sâl.

Sgîl-effeithiau prin iawn  

Mae adweithiau alergaidd difrifol yn brin iawn. Gall y rhain gynnwys:

  • brech a all gosi neu ffurfio pothelli
  • tafod neu wefusau glas
  • llygaid ac wyneb chwyddedig
  • anhawster wrth anadlu neu lyncu, a
  • phendro neu golli ymwybyddiaeth.

Gall adweithiau fel hyn ddigwydd cyn i chi adael eich practis meddyg teulu. Fodd bynnag, os cewch unrhyw un o’r symptomau hyn ar unrhyw adeg ar ôl cael y brechiad, dylech gysylltu â meddyg ar unwaith.

Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i:

Os bydd eich symptomau chi neu eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â’ch practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio llinell gymorth y cynllun ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Ebrill 2026