Neidio i'r cynnwys

Newid iaith y wefan

Atal clefydau cardiofasgwlaidd

Cynllun Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd Cymru: Dull ABCD Plus

Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn cyfeirio at ystod o gyflyrau sy’n effeithio ar y galon a’r pibellau gwaed ac mae’n broblem iechyd sylweddol yng Nghymru. Mae clefyd cardiofasgwlaidd yn gyfrifol am ddigwyddiadau difrifol a all beryglu bywydau, gan gynnwys trawiadau ar y galon a strôc.

Dyma rai o brif achosion Clefyd Cardofasgwlaidd:

Ffibriliad Atriaidd (problemau â rhythm y galon)
Pwysedd gwaed uchel (hypertension)
Colesterol uchel (hyperlipidemia)
a Diabetes

YN OGYSTAL AG ymddygiadau allweddol megis smygu, diet, anweithgarwch corfforol, yfed alcohol, ochr yn ochr â phenderfynyddion ehangach iechyd, megis llesiant ariannol.

Delwedd Cynllun Atal Clefydau Cardiofasgwlaidd Cymru: Dull ‘ABCD Plus’

Daw rhywfaint o’r dystiolaeth gryfaf o ran atal clefyd cardiofasgwlaidd o ymyriadau sy’n nodi pobl sydd â risg uchel ac yn defnyddio meddyginiaeth i leihau eu perygl ABCD Plus, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth sy’n seiliedig ar risg. 

Mae Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru yn ffrwyth cydweithrediad rhwng sefydliadau partner ledled Cymru, a bydd yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r her hon gyda’n gilydd. Darllenwch Gynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru.

Gallwch weld poster Cynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd Cymru yma.