Hyfforddiant imiwneiddio ac asesu cymhwysedd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (GCGI) – (Saesneg yn unig)
Prif nod y datganiadau canllaw hyn yw sicrhau diogelwch cleifion, cefnogi’r defnydd effeithiol o’r gweithlu a galluogi darparu gwasanaethau’n effeithlon drwy ddull Cymru gyfan. Mae’r datganiadau canllaw wedi’u datblygu yn unol â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Chwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant Brechu – GOV.UK¹, ac yn adlewyrchu argymhellion cydweithredol Grŵp Tasg a Gorffen Imiwneiddio Cymru Gyfan a’r grŵp arweinwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer y Grŵp Datblygu Gweithwyr Cefnogi Gofal Iechyd (HCSW). Maent hefyd wedi cael eu hadolygu gan grŵp gweithlu a hyfforddi Rhaglen Frechu Cymru i’w cymeradwyo ac fel rhan o drefniadau llywodraethu i Gymru.