Brechlynnau ar gyfer beichiogrwydd - Gwybodaeth brechu yn ystod beichiogrwydd
Byddwch yn cael cynnig brechlynnau yn ystod eich beichiogrwydd. Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o’ch amddiffyn chi a’ch baban rhag salwch difrifol.
Diogelu chi a’ch baban
Yn ystod beichiogrwydd, mae eich system imiwnedd yn naturiol yn wannach nag arfer. Mae hyn yn golygu eich bod yn llai tebygol o frwydro yn erbyn heintiau a all fod yn niweidiol i chi a’ch baban.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal afiechyd neu wneud salwch yn llai difrifol i chi, ac i’ch babi. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo i’ch babi heb ei eni, gan helpu i’w amddiffyn yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd.
Cyn neu ar ôl beichiogrwydd
Mae’r brechlyn MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Brechlyn byw yw’r MMR ac felly ni argymhellir ei ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd. Fodd bynnag, fe’i hargymhellir ar gyfer menywod nad ydynt wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn naill ai cyn neu ar ôl beichiogrwydd. Gallwch gael y brechlyn MMR hyd at fis cyn beichiogi neu ar ôl i’ch baban gael ei eni. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch gyda’ch bydwraig neu’ch practis meddyg teulu. Ewch i dudalen brechlyn MMR am ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR.
Pa frechlynnau sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd?
Argymhellir brechiadau i amddiffyn rhag y pas (pertwsis), feirws syncytiol anadlol (RSV) a’r ffliw yn ystod beichiogrwydd i helpu i’ch cadw chi a’ch baban yn ddiogel.
| Brechlyn | Pryd i gael y brechlyn |
| Brechiad y pas (pertwsis) |
Wedi’i gynnig o 16 wythnos. Yr amser gorau i gael brechlyn y pas yw rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i’ch baban gael ei amddiffyn o adeg ei eni, gan y byddwch yn trosglwyddo’ch gwrthgyrff iddo cyn iddo gael ei eni. Argymhellir y brechlyn pas bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. |
| Brechlyn RSV (feirws syncytiol anadlol) |
Wedi’i gynnig o 28 wythnos. Yr amser gorau i gael y brechlyn RSV yw rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Gallwch ei gael hyd nes y caiff eich babi ei eni, ond gall fod yn llai effeithiol yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd. Fe’i cynigir drwy gydol y flwyddyn. Argymhellir yn ystod pob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae’r brechlyn RSV yn ystod beichiogrwydd yn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch babi rhag RSV. |
| Ffliw (firws ffliw) |
Wedi’i gynnig yn ystod tymor y ffliw (a all fod ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd). Dylech gael y brechlyn ffliw cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi. Mae’r brechlyn ffliw ar gael rhwng mis Medi a mis Mawrth, ac fe’i argymhellir bob tro y byddwch yn feichiog, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen. Mae cael eich brechu bob tymor ffliw yn eich amddiffyn rhag mathau newydd o’r feirws ac yn lleihau’r risg o ledaenu’r ffliw i’ch babi. |
| Brechlyn COVID-19 |
Gellir rhoi’r brechlyn COVID-19 ar unrhyw adeg o’ch beichiogrwydd. Mae’n bwysig bod menywod beichiog yn cael yr holl ddosau a argymhellir o’r brechlyn COVID-19 cyn gynted â phosibl. Mae adroddiadau o bob cwr o’r byd yn dangos bod brechlynnau Pfizer a Moderna yn ddiogel i’w defnyddio yn ystod beichiogrwydd. |
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau hyn, siaradwch â’ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu nyrs practis. I drefnu apwyntiad ar gyfer eich brechlynnau, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu siaradwch â’ch bydwraig.
Cael mynediad i’r llyfryn dwyieithog am wybodaeth am frechu yn ystod beichiogrwydd.
Brechlynnau eraill i’w trafod gyda’ch bydwraig
Mae’n bosibl y cewch gynnig brechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd os oes gennych gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes.
Er enghraifft, os oes gennych system imiwnedd wan, efallai y cynigir y brechlyn COVID-19 i chi i helpu i leihau eich risg o salwch difrifol o haint COVID-19. Am ragor o wybodaeth, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.
Mae’n bosibl y bydd brechlynnau eraill yn cael eu hargymell ar gyfer rhai babanod yn fuan ar ôl genedigaeth, gan gynnwys:
- hepatitis B, a
- BCG.
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael brechlynnau ychwanegol, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.
Ar ôl i’ch babi gael ei eni
Am wybodaeth am frechlynnau i blant rhwng 0 a 5 oed, ewch i dudalen cyn ysgol.
Adnoddau pellach
- Mae amserlen sy’n dangos pa frechiadau sy’n cael eu cynnig yn rheolaidd yng Nghymru ar gael.
- Mae adnoddau Pob Plentyn Cymru yn rhoi gwybodaeth i rieni am eu hiechyd eu hunain ac iechyd eu plant. Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i’r dechrau gorau mewn bywyd a chymorth ar hyd y ffordd.
- Nod Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) (Saesneg yn unig) yw gwella gofal iechyd menywod ledled y byd drwy ei wneud yn fwy hygyrch a gwella ansawdd addysg.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Awst 2025