Neidio i'r cynnwys

Heintiau niwmococol

Clefyd niwmococol yw’r enw ar grŵp o heintiau a achosir gan germ o’r enw niwmococws. Gall yr heintiau hyn fod yn ysgafn, fel heintiau sinws neu haint yn y glust, ond mae rhai yn ddifrifol iawn ac yn gallu arwain at:   

  • Niwmonia - haint yn eich ysgyfaint   
  • Sepsis – ymateb i haint sy’n peryglu bywyd ac yn gallu niweidio’ch corff cyfan   
  • Llid yr ymennydd -  chwydd o amgylch eich ymennydd a llinyn asgwrn y cefn, sy’n gallu achosi problemau iechyd hirdymor neu farwolaeth   

Sut mae heintiauniwmococolyn lledaenu? 

Mae’r germau sy’n achosi haint niwmococol yn lledaenu’n hawdd trwy beswch a thisian, neu drwy gysylltiad agos â phoer neu fwcws. 

Pam fod angen rhaglen brechu niwmococol?  

Mae arbenigwyr brechu yn argymell rhoi’r brechlyn niwmococol i bobl sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol o ganlyniad i glefyd niwmococol. Mae hyn yn cynnwys:  

  • Babanod 
  • Pobl 65 oed neu hŷn  
  • Pobl dwy oed neu hŷn gyda chyflyrau iechyd hirdymor penodol 
  • Pobl sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â mwg metel yn eu Gwaith 

Cymhwystra 

Mae babanod, pobl 65 oed neu hŷn a’r rhai sydd â rhai cyflyrau iechyd penodol yn fwy tebygol o fod yn sâl gyda haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o gael problemau iechyd difrifol hirdymor a gallant hyd yn oed farw. Cynigir brechiad niwmococol am ddim i’r bobl hyn drwy’r GIG.

Dylech hefyd gael y brechlyn os ydych chi’n gweithio mewn swydd lle rydych chi’n anadlu mwg metel yn rheolaidd. Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio fel weldiwr. Mae hyn oherwydd mae yna gysylltiad rhwng dod i gysylltiad â mwg fetel a niwmonia.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn