Hepatitis B
Haint llym yr iau yw hepatitis B. Fe’i lledaenir fel rheol drwy waed sydd wedi’i halogi drwy gyfathrach rywiol, rhannu nodwyddau, trallwysiadau gwaed a phigiadau. Gellir trosglwyddo’r firws ymlaen hefyd o fam i fabi. Mae tatwio, tyllu’r corff ac aciwbigo’n ffyrdd eraill y gellir lledaenu’r firws.
Gall hepatitis B fod un ai’n “llym” neu’n “gronig”.
Mae haint firws hepatitis B aciwt yn salwch tymor byr sy’n digwydd o fewn y 6 mis cyntaf wedi i rywun gael ei amlygu i’r firws hepatitis B. Gall haint aciwt arwain at haint cronig – ond nid bob amser.
Mae haint firws hepatitis B cronig yn salwch tymor hir sy’n digwydd pan fydd y firws hepatitis B yn aros yng nghorff person.
A yw hepatitis B yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
Mae Hepatitis B yn llai cyffredin yn y DU na rhannau eraill o’r byd, ond mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl o’i ddal. Mae hyn yn cynnwys pobl sy’n wreiddiol o wledydd risg uchel, pobl sy’n chwistrellu cyffuriau, a phobl sy’n cael rhyw heb ddiogelwch gyda phartneriaid rhywiol lluosog.
Pwy sy’n cael hepatitis B yng Nghymru?
Gan y gellir trosglwyddo’r firws drwy gysylltiad â gwaed neu hylifau corff person sydd wedi’i heintio, gallai pobl arbennig fod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y rheini sy’n cael cysylltiad â chynhyrchion gwaed h.y. gweithwyr gofal iechyd, swyddogion carchar;
- Partneriaid rhywiol a theulu agos a chysylltiadau cartref person sydd wedi’i heintio;
- Defnyddwyr cyffuriau sy’n chwistrellu ac sy’n rhannu nodwyddau;
- Pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml;
- Pobl sy’n ymweld â gwledydd lle mae hepatitis B yn gyffredin;
- Babanod sydd wedi’u geni i famau sydd wedi’u heintio.
NI ledaenir hepatitis B drwy gusanu, gafael mewn dwylo, cofleidio, pesychu, tisian, na rhannu llestri ac offer.
Sut allaf i ddweud a yw rhywun â hepatitis B?
Ni fydd llawer o bobl sydd â haint hepatitis B yn gwybod eu bod wedi’u heintio gan na fydd ganddyn nhw unrhyw symptomau o gwbl. Gallai eraill brofi ystod o symptomau o gael eu heintio y tro cyntaf.
Gallai’r rhain gynnwys:
- Salwch fel y ffliw;
- Blinder eithafol;
- Colli archwaeth;
- Y croen a’r llygaid yn melynu (clefyd melyn);
- Wrin tywyll.
Gall unrhyw un sydd â’r haint ei roi i eraill, hyd yn oed pe na fyddent ag unrhyw symptomau neu heb wybod eu bod wedi’u heintio. Fe nodir haint hepatitis B â phrawf gwaed fel rheol.
Does yna ddim gwellhad i hepatitis B hyd yma ond mae yna beth triniaeth a allai helpu i atal y difrod i’r iau rhag gwaethygu a’r firws rhag lluosogi. Bydd effeithiolrwydd y driniaeth hon yn wahanol rhwng unigolion.
Sut allaf i ddiogelu fy hun rhag hepatitis B?
Mae ffyrdd o leihau eich risg o gael haint hepatitis B yn cynnwys:
- Osgoi cyfathrach rywiol heb ddiogelwch, yn enwedig os byddwch yn newid partneriaid yn aml;
- Gofalu fod nodwyddau a ddefnyddir ar gyfer cyffuriau, tyllu a thatwio’n ddi-haint – peidiwch â rhannu;
- Peidiwch â rhannu raseli, brwshys dannedd neu emwaith tyllu â neb;
- Gwisgwch fenig wrth gyffwrdd â gwaed/hylifau corff pobl eraill neu eu glanhau;
- Golchwch eich dwylo ac unrhyw groen sydd wedi cyffwrdd ag unrhyw waed/croen;
- Gorchuddiwch bob toriad neu archoll agored;
- Mynnwch y brechlyn hepatitis B os byddwch yn meddwl eich bod mewn perygl o gael haint hepatitis B.
Sut ddylwn i ddiogelu eraill rhag cael hepatitis B?
Os ydych chi â hepatitis B, mae’n bwysig hefyd ceisio lleihau’r perygl i eraill gael yr haint gennych chi
Dylech:
- Osgoi rhyw heb ddiogelwch – yn cynnwys rhyw yr anws a’r geg, oni bai eich bod yn sicr fod eich partner wedi cael brechiad rhag hepatitis B;
- Osgoi rhannu nodwyddau a ddefnyddir i chwistrellu cyffuriau â phobl eraill;
- Bod yn ofalus i osgoi lledaeniad haint – fel peidio â rhannu brwshys dannedd neu raseli â phobl eraill; mae’n bosib y bydd angen i aelodau’r teulu gael eu brechu;
- Bwyta diet sy’n iach ac yn gytbwys yn gyffredinol – nid oes yna ddiet arbennig ar gyfer pobl sydd â hepatitis B;
- Osgoi yfed alcohol – gall alcohol gynyddu eich risg o ddatblygu problemau difrifol yn yr iau;
- Siaradwch â’ch meddyg os byddwch yn ystyried cael babi.
Gellid cynghori unrhyw gysylltiadau agos, fel pobl sy’n byw yn yr un tŷ â chi, i gael y brechlyn hepatitis B i leihau eu risg o gael eu heintio.
Cynigir sgrinio am hepatitis B
Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio am hepatitis B i bob menyw. Ystyrir bod rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn risg arbennig o uchel oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed ar ôl 12 mis i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Mae GIG 111 Cymru â gwybodaeth eang am hepatitis B ar eu gwefan. Gellir cael cyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am hepatitis B a’i symptomau, ewch i wefan British Liver Trust.
Gallwch archebu pecyn hunan-brofi am ddim a fydd yn profi am hepatitis B ymaTabl cynnwys:
- A yw hepatitis B yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
- Pwy sy’n cael hepatitis B yng Nghymru?
- Sut allaf i ddweud a yw rhywun â hepatitis B?
- Sut allaf i ddiogelu fy hun rhag hepatitis B?
- Sut ddylwn i ddiogelu eraill rhag cael hepatitis B?
- Cynigir sgrinio am hepatitis B
- Dysgwch mwy
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Adroddiadau
Data
-
Adroddiadau labordy o firws Hepatitis B fesul wythnos
Ffynhonnell ddata’r dangosfwrdd hwn yw’r adroddiadau am achosion cadarnhaol o organebau heintus o labordy IBID…