Brechlyn Hepatitis B - Am brechlyn hepatitis B
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bobl y credir eu bod mewn mwy o berygl o gael hepatitis B neu o gael cymhlethdodau. Mae hefyd yn cael ei gynnig i blant fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio reolaidd.
Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei roi i helpu i’ch amddiffyn chi neu eich babi rhag hepatitis B.
Mae dau ddosbarth o gynhyrchion ar gael ar gyfer imiwneiddio rhag Hepatitis B. Mae imiwnoglobwlin Hepatitis B yn rhoi imiwnedd dros dro a goddefol wrth aros i’r brechlyn ymateb, a’r brechlyn Hepatitis B, sy’n rhoi imiwnedd gweithredol.
Nid yw’r brechlyn hepatitis B yn cynnwys organebau byw (mae’n anweithredol) ac ni all achosi’r afiechyd. Mae’n cael ei baratoi o gelloedd burum ac yn cael ei weithgynhyrchu gan dechnoleg DNA ailgyfunol.
Er bod y risg o ddal hepatitis B yn isel yn y DU, mae plant ac oedolion sydd mewn grwpiau sydd â risg uwch o ddal hepatitis B hefyd yn cael cynnig y brechlyn. Os oes gennych chi’r haint pan rydych yn feichiog, mae eich babi mewn perygl o ddatblygu hepatitis B a rhoddir dosau ychwanegol o’r brechlyn iddo.
Mae’n bosibl dod o hyd i ragor o wybodaeth am hepatitis B a’r brechlyn trwy fynd i wefan GIG 111 Cymru.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025