Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd
Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Cyhoeddwyd ar: 27ain Mawrth 2019
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi dadansoddiad craff o ddata canser i gefnogi dyluniad a phrofion gwell a gweithredu modelau gofal gwell. Bydd yn gwneud hyn trwy ddefnyddio data i wella’r ddealltwriaeth o effaith a chostau canser a’i driniaeth ar draws llwybrau gofal iechyd sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Bydd hyn o gymorth i ni nodi bylchau a chyfleoedd i gasglu data a gwybodaeth iechyd o safon fyd-eang i wella canlyniadau ar gyfer pobl sy’n byw gyda a thu hwnt i ganser.
Mae mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r bartneriaeth ar gael yma (Saesneg yn unig).
Tabl cynnwys:
- Prif bwyntiau
- Mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
- Cleifion canser yng Nghymru gyda chyflyrau iechyd hir dymor eraill: Mynychder a chyfrifiad o achosion yn ôl Rhwydwaith Clwstwr Meddygon Teulu, a goroesi Cymru gyfan
- Data
- Gwybodaeth dechnegol
- Adroddiadau perthnasol
- Setiau data cysylltiedig
Prif bwyntiau
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys nifer o brosiectau:
- Mynychder a nifer yr achosion o ganser yn ôl rhwydwaith clwstwr meddygon teulu (neu ofal sylfaenol) yng Nghymru
- Cydforbidrwydd yn ôl rhwydwaith clwstwr meddygon teulu (neu ofal sylfaenol) yng Nghymru
I lywio gwaith y bartneriaeth ac ymchwilwyr eraill yng Nghymru, cynhyrchwyd papur Tirwedd i grynhoi’r prif setiau data a’r cyhoeddiadau mewn perthynas â data canser yng Nghymru. Mae’r papur tirwedd ar gael yn yr adran Gwybodaeth dechnolegol isod.
Mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
Ar 12 Gorffennaf 2018, fe wnaethom gyhoeddi ein hystadegau mynychder a chyfrifiad o ganser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr Meddygon Teulu (gofal sylfaenol) yng Nghymru ar gyfer diagnosis hyd at 2015. Dyma’r tro cyntaf yr ydym wedi cyhoeddi’r ystadegau hyn ar lefel Rhwydwaith Clwstwr ar gyfer sawl math o ganser. Caiff y data ei ddadansoddi yn ôl band oedran, amddifadedd oed, natur wledig, rhyw a chyfnod y canser yn ystod diagnosis. Caiff y wybodaeth ei harddangos ar ddangosfwrdd rhyngweithiol.
Cleifion canser yng Nghymru gyda chyflyrau iechyd hir dymor eraill: Mynychder a chyfrifiad o achosion yn ôl Rhwydwaith Clwstwr Meddygon Teulu, a goroesi Cymru gyfan
Ar 27 Mawrth 2019, cyhoeddwyd yr ystadegau diweddaraf oedd ar gael ar gyfer nifer yr achosion a chyfrifiad canser yn ôl grŵp cydforbidrwydd (sgôr Charlson) ar gyfer y Rhwydweithiau Clwstwr ymarfer cyffredinol (gofal sylfaenol) yng Nghymru ar gyfer diagnosis hyd at 2015. Dyma’r tro cyntaf rydym wedi cyhoeddi’r ystadegau hyn yn ôl grŵp ar gyfer nifer o fathau o ganser. Mae’r data wedi ei rannu yn ôl band oed, amddifadedd ardal, gwledigrwydd a rhyw (a hefyd cyfnod y canser yn ystod diagnosis ar gyfer mynychder). Mae goroesi net am flwyddyn yn ôl grŵp cydforbidrwydd hefyd wedi cael ei gyfrifo ar lefel Cymru gyfan. Caiff y wybodaeth ei dangos mewn dangosfwrdd rhyngweithiol.
Data
Gwybodaeth dechnegol
Adroddiadau perthnasol
-
Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]
Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024
-
Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Goroesi canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: 2027 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Marwolaethau canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2025
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026
-
Mynychder canser yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau (2026) Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n […]
Cyhoeddwyd: 23ain Hydref 2025
Setiau data cysylltiedig
-
Data mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 12, 2018
-
Data mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 30, 2024
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 18, 2026
-
Data samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 26, 2026
-
Data marwolaethau canser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2025