Neidio i'r cynnwys

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddiant imiwneiddio

Safonau hyfforddi

Hyfforddiant imiwneiddio – cefnogi gweithlu cymwys

Cydnabyddir yn eang fod lefel uchel o wybodaeth ac agwedd gadarnhaol tuag at imiwneiddio ymhlith ymarferwyr gofal iechyd yn benderfynyddion pwysig wrth sicrhau bod nifer uchel o bobl yn cael eu brechu, a bod y nifer hwnnw’n cael ei gynnal. Felly mae’n hanfodol bod y sawl sy’n gwneud yr imiwneiddio yn hyderus, yn wybodus ac yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf. I gyflawni hyn, rhaid darparu a chynnal hyfforddiant sylfaenol da a diweddariadau rheolaidd. Mae’r dull hwn hefyd yn cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) a gweithgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) sy’n edrych ar betruster brechu.  

Cyhoeddwyd Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant Brechu (safle allanol, Saesneg yn unig) gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).  

Mae’r ddogfen hon yn gosod y safonau ac yn rhestru’r pynciau hanfodol y dylid eu hymgorffori mewn hyfforddiant imiwneiddio.  

Gan mai dogfen gan UKHSA yw’r canllaw hwn, mae unrhyw faterion penodol sy’n ymwneud â GIG Cymru nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn Lloegr, neu a allai fod yn wahanol yn Lloegr, wedi’u cyhoeddi yn y canlynol: Dogfen gynghori i gefnogi cyflwyno’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r Cwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant brechu yn GIG Cymru (Saesneg yn unig).

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

Hyfforddiant imiwneiddio ac asesu cymhwysedd ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (GCGI) – (Saesneg yn unig) – datganiadau canllaw Cymru gyfan   

Nod y datganiadau canllaw hyn yw sicrhau diogelwch cleifion, cefnogi defnydd effeithiol o’r gweithlu a galluogi darparu gwasanaethau brechu effeithlon drwy ddull Cymru Gyfan. 

Argymhellion hyfforddiant imiwneiddio rhag y ffliw i Gymru

Datganiad hyfforddiant Feirws Syncytial Anadlol (RSV) 

eDdysgu

eDdysgu Imiwneiddio

Mae Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP) Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu hyfforddiant ar-lein mewn partneriaeth â Rhaglen Systemau Gwybodaeth y Gweithlu (WfIS) y Bartneriaeth Cydwasanaethau. Mae’r dudalen hon yn cynnig cymorth ar ddechrau arni gydag e-ddysgu ac mae’n cynnwys modiwlau e-ddysgu ar imiwneiddio a ddatblygwyd gan adran VPDP Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â modiwlau e-ddysgu imiwneiddio cenedlaethol a gynhyrchwyd gan e-ddysgu ar gyfer gofal iechyd. 

Setiau sleidiau hyfforddi penodol i frechlynnau

Cwrs cywyd yn ystod beichiogrwydd

Cwrs bywyd babanod a chyn-ysgol 

Cwrs bywyd oed ysgol 

Cwrs bywyd oedolion

Rhaglenni ar draws cwrs bywyd 

 Setiau sleidiau penodol i glefydau

Y frech goch: y clefyd, cymhlethdodau a brechu yn ei erbyn

Cyflwyno brechlynnau rhag brech yr ieir (farisela) i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant.   

Gweminarau

Gweminar holi ac ateb ar y brechiad farisela (brech yr ieir) a newidiadau eraill i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant o 1 Ionawr 2026  

Gweminar holi ac ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio plant a’r rhaglen imiwneiddio farisela – set sleidiau [4 Rhagfyr 2025]
Gweminar holi ac ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio plant a’r rhaglen imiwneiddio farisela – recordiad [4 Rhagfyr 2025 ] (gweithwyr y GIG yn unig) 

Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol

Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol – set sleidiau [4 Mawrth 2026] (Saesneg yn unig)
Gweminar Holi ac Ateb – Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol – recordiad [4 Mawrth 2026] Hyfforddiant (sharepoint.com) – (Saesneg yn unig) 

**Nodwch: Yn y weminar a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, disgrifiwyd y broses o asesu, cydsynio i’r brechlyn a’i weinyddu fel 4 cam. Ers hynny mae hyn wedi’i ddiwygio i 3 cham, mae cam 2 bellach wedi cyfuno paratoi a gweinyddu fel un cam: Cam 1: Asesu a Chydsynio; Cam 2: Paratoi a Gweinyddu a Cham 3: Cadw Cofnodion.**

Datblygwyd y cwestiynau ac atebion canlynol i gefnogi’r weminar Holi ac Ateb: Paratoi ar gyfer y diweddariad i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 4 Mawrth 2026 (Saesneg yn unig)

Gweminar Holi ac Ateb yn amlinellu’r newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant a’r rhaglen Hep B newyddenedigol ddewisol:

Gweminar Holi ac Ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant rhaglen – cyfres sleidiau [17 Mehefin 2025]
Gweminar Holi ac Ateb – newidiadau i’r rhaglen imiwneiddio i blant rhaglen – Recordiad [17 Mehefin 2025] Hyfforddiant (sharepoint.com) 

Adnoddau fideo

Fideo rhoi brechlyn ffliw FLUENZ trwy’r trwyn – Addysg GIG yr Alban (NES); Iechyd Cyhoeddus yr Alban (PHS) (safle allanol, Saesneg yn unig) 

Mae Get Immunised (safle allanol, Saesneg yn unig) yn fideo am frechu mewn ysgolion. Mae hefyd ar gael yn y Gymraeg: Cael Imiwneiddio (safle allanol).

Cynhadledd Imiwneiddio Cymru

Hyfforddiant ar dechneg Cyfweld Ysgogiadol – cynnal sgyrsiau cadarnhaol i wella’r nifer sy’n cael eu brechu.

Cyflwynodd yr Uned Gwyddor Ymddygiad mewn cydweithrediad â’r Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy (VPDP), sesiwn weminar ar Sgiliau Cyfweld Ysgogiadol wrth gael sgyrsiau am frechlynnau  

Gellir gweld y sleidiau a gwrando ar recordiad o’r sesiwn hon ar SharePoint.