Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Marwolaethau canser yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru

Cyhoeddwyd ar: 18fed Mehefin 2025

Cywiriad

18 Mehefin 2025: Cywiriad Marwolaethau Canser yng Nghymru, Cyhoeddiad 2002-2024

Mae gwall wedi’i ganfod yn nifer y marwolaethau o ganser a gofnodwyd ar gyfer y blynyddoedd 2002-2010. Cywirwyd y gwall erbyn 4pm ar yr un diwrnod â’i gyhoeddi.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi. Gweler Datganiad Cywiriadau Mehefin 2025 yn yr adran Gwybodaeth dechnegol am ragor o wybodaeth.

Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phumedau amddifadedd ardal.

Prif bwyntiau

Canser yw prif achos marwolaethau yng Nghymru o hyd, ac mae’n cyfrif am chwarter yr holl farwolaethau yn 2024. Roedd 9,123 o farwolaethau newydd o ganser yn 2024.

Roedd canser yr ysgyfaint, canser y coluddyn (y colon a’r rhefr), canser y prostad a chanser y fron ymhlith benywod yn cyfrif am 4 o bob 10 marwolaeth o ganser yng Nghymru yn 2024, ac roedd canser yr ysgyfaint yn unig yn cyfrif am 2 o bob 10 marwolaeth o ganser.

Mae dros hanner yr holl farwolaethau o ganser yng Nghymru ymhlith pobl 75 oed a hŷn (Ffigur 1). Mae’r ffigur hwn wedi bod yn codi’n gyson o 48% yn 2002 i 57% yn 2024, wrth i boblogaeth Cymru fynd yn fwy oedrannus.

Ffigur 1: Marwolaethau o ganser yn ôl grŵp oedran, pob canser ac eithrio NMSC, cyfrif, personau, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd (PHM) o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Mae dros hanner yr holl farwolaethau o ganser yng Nghymru ymhlith pobl 75 oed a hŷn. Mae’r ffigur hwn wedi bod yn codi'n gyson o 48% yn 2002 i 57% yn 2024, wrth i boblogaeth Cymru fynd yn fwy oedrannus.

Mae cyfraddau marwolaethau o ganser yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru (Ffigur 2), heb welliant gwirioneddol dros y cyfnod a adroddwyd. Roedd y gyfradd 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2024.

Ffigur 2: Marwolaethau o ganser yn ôl pumed amddifadedd, pob canser ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, personau, pob oedran, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac Amcangyfrifon Canol Blwyddyn (MYE) o’r ONS

Mae cyfraddau marwolaethau o ganser yn parhau i fod yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'u cymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, heb welliant gwirioneddol dros y cyfnod a adroddwyd. Roedd y gyfradd 52% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2024.

Mae’r darlun o farwolaethau o ganser ar ôl y pandemig yn dal yn aneglur. Gall effeithiau parhaol y pandemig – yn enwedig ymhlith y rhai sydd bellach yn cyflwyno â chlefyd mwy datblygedig – barhau i ddylanwadu ar dueddiadau marwolaethau yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i’w monitro ac adrodd arnynt.

Canfyddiadau allweddol eraill

Cyn y pandemig, cynyddodd nifer y marwolaethau o ganser yng Nghymru yn raddol rhwng 2002 a 2019. Fodd bynnag, prif achos hyn yw bod y boblogaeth yn heneiddio a’r gyfradd marwolaethau wedi disgyn yn ystod y cyfnod hwn (Ffigur 3).

Ar ôl y pandemig, mae nifer y marwolaethau blynyddol o ganser wedi aros yn ei unfan, ac mae’r niferoedd bellach ychydig yn is na’r lefel cyn y pandemig yn 2019.  Mae’r gyfradd marwolaethau o ganser hefyd wedi aros yn ei hunfan (Ffigur 3). Mae hyn yn wir ar gyfer dynion a menywod.

Mae marwolaethau o ganser yn dal yn uwch ymhlith dynion na menywod yng Nghymru (4,895 o farwolaethau vs. 4,228 o farwolaethau yn 2024), er bod y bwlch yn y gyfradd marwolaethau yn lleihau (Ffigur 3).

Ffigur 3: Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, pob canser ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Ar ôl y pandemig, mae nifer y marwolaethau blynyddol o ganser wedi aros yn ei unfan, ac mae’r niferoedd bellach ychydig yn is na'r lefel cyn y pandemig yn 2019. Mae’r gyfradd marwolaethau o ganser hefyd wedi aros yn ei hunfan.

Mae canser yr ysgyfaint yn gyfrifol am tua un rhan o bump o’r holl farwolaethau o ganser yng Nghymru, sy’n ei wneud yn brif achos marwolaethau o ganser. Mae hanner yr holl farwolaethau o ganser yr ysgyfaint yn digwydd ymhlith pobl 75 oed a hŷn, gan amlygu cysylltiad y clefyd ag oedran a chyswllt â ffactorau risg fel ysmygu.

Bu gostyngiad hirdymor mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint, wedi’i yrru’n bennaf gan gyfraddau sy’n disgyn ymhlith dynion (Ffigur 4). Rhwng 2002 a 2024, disgynnodd y gyfradd marwolaethau ymhlith dynion 38%. Yn achos menywod, arhosodd cyfraddau marwolaethau yn gymharol sefydlog dros yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu darlun cymhleth — er bod y digwyddedd ymhlith menywod wedi cynyddu rhwng 2002 a 2016, cafwyd gwelliant yn y gyfradd goroesi hefyd, a wrthbwysodd y cynnydd posibl yn nifer y marwolaethau.

Ffigur 4: Marwolaethau o ganser yn ôl rhyw, canser yr ysgyfaint, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Bu gostyngiad hirdymor mewn marwolaethau o ganser yr ysgyfaint, wedi'i yrru'n bennaf gan gyfraddau sy'n disgyn ymhlith dynion. Rhwng 2002 a 2024, disgynnodd y gyfradd marwolaethau ymhlith dynion 38%.

Mae canser yr ysgyfaint yn dangos yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ehangaf o ran marwolaethau o’r pedwar canser mwyaf cyffredin (Ffigur 5). Yn 2024, roedd cyfraddau marwolaethau 2.5 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’u cymharu â’r rhai lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn adlewyrchu’r cyfraddau ysmygu, sydd 3 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Arolwg Cenedlaethol Cymru).

Ffigur 5: Marwolaethau o ganser yn ôl pumed amddifadedd, canser yr ysgyfaint, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, personau, pob oedran, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Yn 2024, roedd cyfraddau marwolaethau 2.5 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o'u cymharu â'r rhai lleiaf difreintiedig.

Yn 2024, canser y coluddyn oedd â’r nifer uchaf ond un o farwolaethau o ganser, a hynny ar ôl canser yr ysgyfaint. Fodd bynnag, hwn oedd â’r bedwaredd gyfradd marwolaethau uchaf yng Nghymru ar ôl canser yr ysgyfaint, y prostad a chanser y fron ymhlith benywod, ar ôl addasu ar gyfer oedran. Yn 2024, digwyddodd 59% o farwolaethau o ganser y coluddyn ymhlith pobl 75 oed a hŷn.

Mae canser y fron ymhlith benywod hefyd yn dangos bod y cyfraddau marwolaethau wedi aros yn eu hunfan yn y blynyddoedd ar ôl y pandemig o’u cymharu â gostyngiad cyffredinol cyn y pandemig, er bod amrywiadau i’w gweld o flwyddyn i flwyddyn (Ffigur 6). Gellir gweld cynnydd bach yn 2024. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i ddweud a yw hyn yn ddechrau ar duedd gynyddol.

Ffigur 6: Marwolaethau o ganser, canser y fron ymhlith benywod, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, pob oedran, Cymru, 2002-2024

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio PHM ac MYE o’r ONS

Mae canser y fron ymhlith benywod hefyd yn dangos bod y cyfraddau marwolaethau wedi aros yn eu hunfan yn y blynyddoedd ar ôl y pandemig o’u cymharu â gostyngiad cyffredinol cyn y pandemig, er bod amrywiadau i'w gweld o flwyddyn i flwyddyn.

Yn 2024, roedd canserau’r prostad yn cyfrif am 7% o’r holl farwolaethau o ganser (13% o ganserau ymhlith dynion), sy’n ei wneud yn drydydd prif achos marwolaethau o ganser yn gyffredinol ac yn ail brif achos marwolaethau ymhlith dynion. Mae gan farwolaethau o ganser y prostad broffil oedran hŷn, ac mae 77% o’r marwolaethau yn digwydd ymhlith pobl 75 oed a hŷn.

Tablau data

Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn

Gwybodaeth dechnegol

Rhestr cyn cyhoeddi

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru

Adroddiadau perthnasol

  • Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd

    Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]

    Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019

  • Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]

    Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024

  • Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]

    Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026

  • Goroesi canser yng Nghymru

    Cyheoddiad nesaf: 2027 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo […]

    Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026

  • Mynychder canser yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau (2026) Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n […]

    Cyhoeddwyd: 23ain Hydref 2025

Yn ôl i'r brig