Mynychder canser yng Nghymru
Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Cyhoeddwyd ar: 23ain Hydref 2025
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau (2026)
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth
Cyflwyniad
Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a phumedau amddifadedd ardal. Cyflwynir digwydded canser yn ôl cam adeg diagnosis ar gyfer diagnosisau rhwng 2011 a 2022 yn ôl cyfnodau sengl a chyfnodau treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod a phobl ar gyfer Cymru a phumedau amddifadedd ardal.
Prif bwyntiau
Am y tro cyntaf, rydym yn adrodd ar y cam adeg ddiagnosis canser yn ôl amddifadedd ardal. Rydym hefyd yn adrodd ar ganserau niwroendocrin (NENs) a chanserau’r ysgyfaint o fath celloedd bach (SCLC).
Cynyddodd achosion newydd o ganser 18% yn 2022 (21,006 o achosion) o’u cymharu â blwyddyn gyntaf y pandemig (17,858 o achosion yn 2020). Erbyn 2022, roedd nifer yr achosion newydd yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig (cyfartaledd blynyddol o 20,472 o achosion ar gyfer 2018-2019). Gallai hyn awgrymu dechrau dychwelyd i dueddiadau a welwyd cyn y pandemig (Ffigur 1), ynghyd ag adlamiad rhai o’r achosion na chanfuwyd yn ystod y pandemig.
Cynyddodd nifer yr achosion newydd o ganser yn agos at draean (31%) mewn ychydig dros ddau ddegawd (sef o 2002 i 2022). Roedd hwn yn gynnydd blynyddol cyfartalog o 1.5% (Ffigur 1).
Ffigur 1: Tueddiadau yn nifer blynyddol yr achosion newydd o ganser
Pob canser ac eithrio NMSC, cyfrif, unigolion, pob oedran, Cymru, 2002-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC)

Roedd y gyfradd mynychder canser 20% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i chymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2022 (Ffigur 2). Mae’r bwlch hwn o 20% wedi parhau ers 2006.
Ffigur 2: Tueddiadau mewn cyfraddau mynychder canser yn ôl pumed amddifadedd ardal
Pob canser ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, unigolion, pob oedran, Cymru, 2002-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), amcangyfrifon canol-blwyddyn (MYE) (SYG) a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) (LlC)

Roedd dros hanner yr holl achosion o ganser yn 2022 mewn pobl 70 oed a hŷn. Mae’r patrwm hwn wedi parhau drwy gydol y blynyddoedd yr ydym yn adrodd arnynt (2002-2022). Mae proffil poblogaeth Cymru sy’n heneiddio yn egluro ein canfyddiadau; mynd yn hŷn yw’r prif ffactor risg ar gyfer datblygu’r rhan fwyaf o ganserau.
Gall effeithiau parhaol y pandemig barhau i ddylanwadu ar dueddiadau o ran mynychder canser yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn parhau i fonitro ac adrodd ar y datblygiadau hyn wrth iddynt esblygu.
Cam adeg diagnosis yn ôl amddifadedd ardal
Wrth i amddifadedd gynyddu o’r pumed lleiaf i’r pumed mwyaf (20%) o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru, cynyddodd cyfran y diagnosisau cam hwyr hefyd, gyda chyfran uwch o ddiagnosisau cam hwyr o’u cymharu â diagnosisau cam cynnar yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig rhwng 2011 a 2022 (Ffigur 3).
Ffigur 3: Tueddiadau yng nghyfran y diagnosisau cynnar a hwyr yn ôl pumed amddifadedd ardal
Pob canser y gellir neilltuo cam iddo, cyfran (%), unigolion, pob oedran, Cymru, 2011-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Gostyngodd cyfradd mynychder y diagnosisau o ganser cam cynnar yn ystod y pandemig yn 2020 ar draws pob lefel o amddifadedd ardal, tra bod cyfradd y diagnosisau cam hwyr wedi aros ychydig yn fwy sefydlog. Ymddengys fod hyn yn dechrau adfer yn y blynyddoedd wedi hynny (2021-2022), gyda chyfradd y diagnosisau o ganser cam cynnar a cham hwyr yn cynyddu ar draws bron pob lefel o amddifadedd ardal, gydag adferiad cryfach yn y cyfraddau cam cynnar.
Canser yr ysgyfaint a’r colon a’r rhefr (y coluddyn)
Roedd y gyfradd mynychder ar gyfer canser yr ysgyfaint 2.4 gwaith yn uwch yn y pumed (20%) o ardaloedd mwyaf difreintiedig, o’i chymharu â’r pumed (20%) o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2022. Mae cyfradd yr achosion o ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint cam hwyr yn sylweddol uwch nag achosion cam cynnar ar draws pob lefel o amddifadedd ardal (Ffigur 4).
Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, roedd cyfradd mynychder canser yr ysgyfaint cam hwyr 2.3 gwaith yn uwch nag ar gyfer achosion cam cynnar yn 2022. Mewn cymhariaeth, yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, dim ond 2 waith yn uwch oedd cyfradd mynychder achosion cam hwyr nag achosion cam cynnar. Wrth gymharu cyfradd mynychder achosion cam hwyr yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig â chyfradd yr achosion cam hwyr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2022, mae 2.6 gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Ffigur 4).
Ffigur 4: Tueddiadau mewn cyfraddau mynychder canser yr ysgyfaint yn ôl cam adeg diagnosis canser a phumedau amddifadedd ardal
Canser yr ysgyfaint, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, unigolion, pob oedran, Cymru, 2011-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Yn yr un modd â chanser yr ysgyfaint, roedd gan ganser y colon a’r rhefr gyfradd uwch o ddiagnosisau cam hwyr o’i chymharu ag achosion cam cynnar ar draws pob lefel o amddifadedd ardal yng Nghymru drwy gydol 2011-2022 (Ffigur 5). Ehangodd y bwlch yn y cyfraddau rhwng diagnosisau cam cynnar a cham hwyr wrth i lefel amddifadedd ardaloedd gynyddu yn 2022.
Ffigur 5: Tueddiadau mewn cyfraddau achosion canser y colon a’r rhefr yn ôl cam adeg diagnosis canser a phumedau amddifadedd ardal
Canser y colon a’r rhefr, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, unigolion, pob oedran, Cymru, 2011-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Canser y fron mewn menywod a chanser y prostad
Mewn cyferbyniad â phroffil cam hwyr diagnosisau o ganser yr ysgyfaint a chanser y colon a’r rhefr, mae canserau’r fron mewn menywod a chanserau’r prostad yn tueddu i gael eu diagnosio yn gynharach.
Yn 2022, cafodd 72% o’r menywod a gafodd ddiagnosis o ganser y fron ddiagnosis yn gynnar. Roedd hyn yn debyg ar draws pob pumed (20%) o lefelelau amddifadedd ardal drwy gydol y cyfnod adrodd (2011-2022) (Ffigur 6).
Ffigur 6: Cyfran y diagnosisau cynnar a hwyr o ganser y fron mewn menywod yn ôl pumed amddifadedd ardal yn 2022
Canser y fron, cyfran (%), menywod, pob oedran, Cymru, 2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Gostyngodd nifer y canserau prostad a gafodd eu diagnosio 23% yn ystod y pandemig cyn iddynt ddechrau cynyddu o 2021 ymlaen ar draws pob cam diagnosis, a phob pumed (20%) o lefel amddifadedd ardal. Fodd bynnag, roedd cyfradd y dynion a gafodd ddiagnosis yn hwyrach yn uwch nag ar gyfer achosion cam cynharach yn y pumed (20%) o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2021 a 2022, tra bod gan ddynion yn y pedwar lefel arall o ardaloedd gynyddol llai difreintiedig gyfraddau uwch o ddiagnosisau cam cynnar (Ffigur 7).
Ffigur 7: Tueddiadau mewn cyfraddau mynychder canser y prostad yn ôl cam adeg diagnosio canser a phumedau amddifadedd ardal
Canser y prostad, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, dynion, pob oedran, Cymru, 2011-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Canserau niwroendocrin (NENs) a chanser yr ysgyfaint o fath celloedd bach (SCLC)
Yn 2022, roedd 359 o achosion o ganserau niwroendocrin epithelaidd (ac eithrio canser yr ysgyfaint o fath celloedd bach) a 231 o achosion o ganser yr ysgyfaint o fath celloedd bach yng Nghymru. Mae hyn yn gyfateb i gyfraddau mynychder o 11 achos a 7 achos fesul 100,000 o bobl, yn y drefn honno.
Rhwng 2016 a 2022, roedd canser yr ysgyfaint o fath celloedd bach yn cyfrif am 9.5% ar gyfartaledd o holl achosion canser yr ysgyfaint yng Nghymru bob blwyddyn.
Dilynodd cyfradd y canserau niwroendocrin epithelaidd duedd debyg i fathau eraill o ganser yn ystod y pandemig, gyda’r gyfradd yn gostwng cyn dechrau adfer yn y blynyddoedd canlynol (Ffigur 8).
Ffigur 8: Tueddiadau yng nghyfradd mynychder canser niwroendocrin epithelaidd (ac eithrio canser yr ysgyfaint math celloedd bach)
NEN epithelaidd ac eithrio SCLC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, unigolion, pob oedran, Cymru, 2016-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Yn debyg i rai mathau eraill o ganser, roedd cyfradd mynychder canserau niwroendocrin epithelaidd yn uwch yn y pumed (20%) o ardaloedd mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed (20%) lleiaf difreintiedig rhwng 2016 a 2022 (Ffigur 9).
Ffigur 9: Tueddiadau yng nghyfradd mynychder canser niwroendocrin epithelaidd (ac eithrio canser yr ysgyfaint math celloedd bach) yn ôl pumed amddifadedd ardal
NEN epithelaidd ac eithrio SCLC, cyfradd Ewropeaidd wedi’i safoni yn ôl oedran, unigolion, pob oedran, Cymru, 2016-2022
Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Tablau data
Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn
Gwybodaeth dechnegol
Rhestr cyn cyhoeddi
Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru
Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru
Adroddiadau perthnasol
-
Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd
Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]
Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019
-
Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]
Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024
-
Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Goroesi canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: 2027 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo […]
Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026
-
Marwolaethau canser yng Nghymru
Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2025
-
Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]
Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026
Setiau data cysylltiedig
-
Data mynychder canser a chyfrifiad canser ar gyfer Rhwydweithiau Clwstwr yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Gorffennaf 12, 2018
-
Data mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mai 30, 2024
-
Data Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 18, 2026
-
Data samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mawrth 26, 2026
-
Data marwolaethau canser yng Nghymru
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 18, 2025