Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Goroesi canser yng Nghymru

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddi, Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru

Cyhoeddwyd ar: 26ain Mawrth 2026

Cyheoddiad nesaf: 2027

Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth

Cyflwyniad

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar oroesiad pob canser ar gyfer y blynyddoedd cofrestru rhwng 2002 a 2022. Lle bo hynny’n bosibl, cyflwynir goroesiad net ac a arsylwir blwyddyn, pum mlynedd a deng mlynedd yn ôl cyfnodau treigl blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer dynion, menywod a phersonau 15-99 oed yng Nghymru, byrddau iechyd a phumedau amddifadedd ardal. Cyflwynir goroesiad canser yn ôl cam ar adeg diagnosis ar gyfer diagnosisau rhwng 2011 a 2022.

Prif bwyntiau

O ran y bobl a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru rhwng 2018 a 2022, goroesodd 75% flwyddyn ar ôl y diagnosis a goroesodd 60% bum mlynedd ar ôl y diagnosis, ar ôl cymryd achosion marwolaethau eraill i ystyriaeth.

Bu gwelliant cyson o ran goroesiad canser o ddechrau’r 2000au i ganol y 2010au. Rhwng cyfnodau diagnosis 2002-2006 a 2014-2018, bu cynnydd o 8 pwynt canran o blith y rhai a oroesodd am flwyddyn a chynnydd o 9 pwynt canran o blith y rhai a oroesodd am bum mlynedd (Ffigur 1).

Ffigur 1: Tueddiadau goroesi canser am flwyddyn ac am bum mlynedd yng Nghymru

Goroesiad net am flwyddyn ac am bum mlynedd wedi’i safoni yn ôl oedran (%), pob canser ac eithrio CCNF, unigolion 15-99 oed, Cymru, 2002-2006 i 2018-2022

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), marwolaethau iechyd y cyhoedd (PHM) ac amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (MYE) (Swyddfa Ystadegau Gwladol) a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) (Llywodraeth Cymru)

Siart llinell o dueddiadau goroesi canser un flwyddyn a phum mlynedd yng Nghymru, cyfeiriwch at y sylwebaeth ar y dudalen hon am fanylion.

Fodd bynnag, ni fu cynnydd yn y gwelliannau ers hynny, ac arhosodd y tueddiadau’n gyffredinol wastad hyd at 2018-2022. Dechreuodd y sefydlogi hwn cyn y pandemig, o’r cyfnod 2015-2019. 

Mae cyfraddau goroesi canser am flwyddyn wedi gwella’n sylweddol yn dilyn pandemig COVID-19.

O edrych ar ddiagnosisau mewn blynyddoedd sengl, bu gostyngiad o 4 pwynt canran o blith y rhai a oroesodd canser am flwyddyn rhwng 2019 a 2020, tua dechrau pandemig COVID-19. Erbyn 2022, roedd wedi dod yn ôl i’r lefelau cyn y pandemig (Ffigur 2).

Ffigur 2: Tueddiadau goroesi canser am flwyddyn yng Nghymru

Goroesiad net am flwyddyn wedi’i safoni yn ôl oedran (%), pob canser ac eithrio CCNF, unigolion 15-99 oed, 2002-2022, Cymru

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), PHM a MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Siart llinell o oroesi canser un flwyddyn yng Nghymru, cyfeiriwch at y sylwebaeth ar y dudalen hon am fanylion.

Y canserau sydd, yn nodweddiadol, yn cael diagnosis hwyrach – fel y colon a’r rhefr a’r ysgyfaint – brofodd y gostyngiad dros dro mwyaf o ran goroesi am flwyddyn, ond mae wedi gwella’n fawr ers hynny. I’r gwrthwyneb, roedd llai o effaith ar y canserau sy’n cael diagnosis cynharach yn aml – yn cynnwys canser y brostad a chanser y fron. 

Mae’r gyfradd goroesi canser yn gwaethygu wrth i amddifadedd ardal gynyddu. Yn 2018-2022, roedd goroesi pum mlynedd yn sylweddol uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Er gwaethaf gwelliannau eang mewn goroesiad canser, mae’r bwlch rhwng amddifadedd ardaloedd wedi aros yn sefydlog, ac mae’r amcangyfrifon tua 10-13 pwynt canran yn uwch yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (Ffigur 3).

Ffigur 3: Tueddiadau goroesi canser am bum mlynedd yng Nghymru yn ôl pumed amddifadedd ardal

Goroesiad net pum mlynedd heb ei safoni (%) yn ôl pumed amddifadedd, pob canser ac eithrio CCNF, unigolion 15-99 oed, Cymru, 2002-2006 i 2018-2022

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), PHM a MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Siart llinell o dueddiadau goroesi canser pum mlynedd yng Nghymru yn ôl amddifadedd, cyfeiriwch at y sylwebaeth ar y dudalen hon am fanylion.

O blith y canserau mwyaf cyffredin, canser y colon a’r rhefr sydd wedi bod â’r bwlch amddifadedd ehangaf yn gyson. Lleihaodd y gwahaniaeth hwn hyd at gyfnod diagnosis 2017–2021 ond mae wedi cynyddu eto ers hynny, wedi’i sbarduno gan oroesiad pum mlynedd gwell yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig ochr yn ochr â newid bach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (Ffigur 4).

Ffigur 4: Tueddiadau goroesi canser y colon a’r rhefr (y coluddyn) am bum mlynedd yng Nghymru yn ôl pumed amddifadedd ardal

Goroesiad net am bum mlynedd heb ei safoni (%) yn ôl pumed amddifadedd, canser y colon a’r rhefr, unigolion 15-99 oed, Cymru, 2002-2006 i 2018-2022

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), PHM a MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Siart llinell o dueddiadau goroesi canser y colon a'r rhefr pum mlynedd yng Nghymru yn ôl amddifadedd, cyfeiriwch at y sylwebaeth ar y dudalen hon am fanylion.

Mae’r bwlch amddifadedd ardal mewn goroesiad net pum mlynedd heb ei safoni bron ddwywaith mor fawr ar gyfer diagnosis cam hwyr nag ar gyfer diagnosis cam cynnar.

Ar gyfer pob canser y gellir pennu cam iddo, mae anghydraddoldebau amddifadedd yn sylweddol ar gyfer y ddau grŵp camau, er yn sylweddol fwy ar gyfer diagnosis cam hwyr (Ffigur 5).

Ffigur 5: Goroesi am bum mlynedd ar ddiagnosisau camau cynnar a chamau hwyr o ganserau y gellir pennu cam iddynt yng Nghymru yn ôl pumed amddifadedd ardal yn ystod y cyfnod diagnosis 2018-2022

Goroesiad net am bum mlynedd heb ei safoni (%) yn ôl cam adeg diagnosis a phumed amddifadedd, pob canser y gellir pennu cam iddo, unigolion 15-99 oed, Cymru, 2018-2022

Cynhyrchwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio data cofrestru canser (UGGCC), PHM a MYE (SYG) a MALlC (LlC)

Siart bar goroesi pum mlynedd yng Nghymru yn ôl cam ac amddifadedd, cyfeiriwch at y sylwebaeth ar y dudalen hon am fanylion.

Mae perthnasoedd sy’n benodol i safle yn llai cyson. Ar gyfer goroesiad pum mlynedd canser y colon a’r rhefr a goroesiad blwyddyn canser yr ysgyfaint, mae’r bylchau amddifadedd yn sylweddol ar gyfer diagnosisau cam hwyr, ond nid ar gyfer diagnosisau cam cynnar. I’r gwrthwyneb, mae canser y brostad a chanser y fron ymhlith benywod yn dangos gwahaniaethau llai yn gyffredinol, heb unrhyw berthynas glir na chyson ag amddifadedd ar draws y grŵp camau.

Dylid dehongli drwy ystyried bod COVID-19 wedi tarfu ar fynediad at sgrinio, atgyfeiriadau gan feddygon teulu a diagnosteg, a gallai hyn fod wedi effeithio’n wahanol ar y cam adeg diagnosis ar draws y grwpiau amddifadedd.

Tablau data

Cyrchu’r data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn

Gwybodaeth dechnegol

Rhestr cyn cyhoeddi

Dr Tracey Cooper, Cadeirydd Bwrdd Canser GIG Cymru a Prif Weithredydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Anthony Davies, Uwch Reolwr Polisi, Tîm Polisi Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Llywodraeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus yr Alban: Thomas Godfrey, Greig Stanners, Callum Rintoul, Gemma Turner

Adroddiadau perthnasol

  • Partneriaeth Macmillan-UGGCC gan gynnwys mynychder canser, cyfrifiad canser a chydafiachedd

    Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Ffurfiodd Cymorth Canser Macmillan ac Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) Iechyd Cyhoeddus Cymru bartneriaeth yn Ebrill 2017. Y nod yw rhoi […]

    Cyhoeddwyd: 27ain Mawrth 2019

  • Mynychder canser y croen nad yw’n felanoma yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Y cyhoeddiad yma yw’r Ystadegau Swyddogol diweddaraf ar gyfer mynychder canser y croen nad yw’n felanoma (NMSC) yng Nghymru. Mae ystadegau […]

    Cyhoeddwyd: 30ain Mai 2024

  • Samplau patholeg yn nodi achosion newydd o ganser yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: 18 Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen […]

    Cyhoeddwyd: 26ain Mawrth 2026

  • Marwolaethau canser yng Nghymru

    Cyheoddiad nesaf: 15 Gorffennaf 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mehefin 2025

  • Offeryn Adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd

    Cyhoeddiad nesaf: 17th Mehefin 2026 Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Prif bwyntiau Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Dyma’r negeseuon allweddol ar gyfer y dangosyddion […]

    Cyhoeddwyd: 18fed Mawrth 2026

  • Mynychder canser yng Nghymru

    Cyhoeddiad nesaf: I’w gadarnhau (2026) Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Cyflwyniad Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n […]

    Cyhoeddwyd: 23ain Hydref 2025

Yn ôl i'r brig