Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant - Am y newidiadau i'r amserlen imiwneiddio i blant
Mae’r amserlen imiwneiddio (brechu) reolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei diweddaru.
Mae’r newid hwn yn cynnig amddiffyniad i blant rhag brech yr ieir, a gwell amddiffyniad fyth rhag clefydau fel y frech goch.
Pa newidiadau fydd yn digwydd yn 2026?
Apwyntiad 18 mis oed:
- Ar 1 Ionawr 2026, ychwanegir apwyntiad brechu newydd at yr amserlen imiwneiddio i blant yng Nghymru yn 18 mis oed.
- Bydd babanod yn cael y brechlyn MMRV yn yr apwyntiad 18 mis hwn. Gweler yr adran ‘Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela)’ isod. Bydd babanod hefyd yn cael dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1.
- Mae’r dos ychwanegol o’r brechlyn 6 mewn 1 yn helpu i amddiffyn rhag Hib (Haemophilus influenzae math b). Math o germ yw Hib sy’n gallu achosi afiechydon difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys llid yr ymennydd (haint o amgylch yr ymennydd) a niwmonia (haint ar y frest). Yn y gorffennol, roedd amddiffyiad rhag Hib yn cael ei roi fel rhain o’r brechlyn Hib/MenC.
Cyflwyno’r brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela)
Ar 1 Ionawr 2026, cafodd brechlyn newydd o’r enw MMRV ei ychwanegu at yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae MMRV yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir (farisela).
Rhoddir y brechlyn MMRV i fabanod yn rhad ac am ddim gan y GIG fel rhan o’u brechiadau rheolaidd. Mae’r brechlyn MMRV wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus mewn gwledydd eraill ers blynyddoedd lawer.
- Rhoddir y dos cyntaf i fabanod pan fyddant yn 12 mis oed.
- Rhoddir yr ail ddos pan fyddant yn 18 mis oed (gweler ‘Apwyntiad 18 mis oed’ isod).
Mae’r brechlyn MMRV yn cael ei roi i rai plant ifanc eraill hefyd. Mae hyn yn dibynnu ar oedran plant ac a ydyn nhw wedi cael haint brech yr ieir neu frechlyn brech yr ieir o’r blaen.
Mae’r brechlyn MMR yn dal i gael ei roi i rai plant hŷn neu oedolion. Mae’n cael ei roi i bobl a fethodd un neu’r ddau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR, neu bobl sydd ddim yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.
Mae’n bwysig cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Gallwch ddysgu rhagor am y brechlyn MMRV yn brechlynnau MMRV a MMR.
Rhaglen dal i fyny brech yr ieir
Mae rhaglen dal i fyny brech yr ieir ar gyfer plant cymwys rhwng 3 blwydd a 4 mis oed i ychydig o dan 6 oed. Bydd y rhaglen hon yn cynnig un dos o’r brechlyn MMRV ac yn rhedeg rhwng 1 Tachwedd 2026 a 31 Mawrth 2028. Mae ar gyfer plant nad ydynt wedi cael haint brech yr ieir neu ddau ddos o frechlyn brech yr ieir yn y gorffennol.
Mae atebion i gwestiynau cyffredin ar gael yn yr adran ‘Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau‘ isod.
Pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi a phryd?
Gan fod yr amserlen imiwneiddio yn newid, bydd cyfnod byr o addasu.
Bydd yr hyn y disgwylir i’ch plentyn gael yn dibynnu ar ei oedran ar 1 Ionawr 2026, pan fydd y rhaglen newydd yn dechrau.
Mae’r canllaw cymhwysedd ar gyfer brechu isod yn dangos pa frechlynnau sy’n cael eu rhoi i blant a phryd. Bydd eich nyrs practis neu’ch meddyg teulu yn cadarnhau cymhwysedd eich plentyn.
Mae’n bwysig bod plant yn cael eu brechlynnau cyn gynted â phosib ar ôl cael cynnig
Gweler y rhaglen frechu gyflawn ar gyfer Cymru.
Cwestiynau cyffredin am y newidiadau
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Awst 2025