Neidio i'r cynnwys

Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Brechlyn RSV ar gyfer oedolion hŷn

Mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd RSV wedi cynyddu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Ym mis Medi 2023, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) raglen imiwneiddio RSV i amddiffyn oedolion hŷn a gwasanaethau’r GIG yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r JCVI yn grŵp o arbenigwyr yn y DU sy’n cynghori’r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio. 

Gwybodaeth:

Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi.

Am y brechlyn

Sut byddaf yn cael fy mrechiad?

Pan fyddwch yn dod yn gymwys, bydd y GIG yn rhoi gwybod i chi pryd i gael y brechlyn ac ymhle. Os nad ydych yn clywed gan y GIG, neu os credwch y gallech fod wedi methu’r gwahoddiad, siaradwch â’ch darparwr gofal iechyd. 

Gallwch gael y brechlyn RSV ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’r brechlyn yn cael ei roi trwy chwistrelliad yn rhan uchaf y fraich.

Brechiad dal i fyny ar gyfer pobl 75 i 79 oed:

Dros y 12 mis nesaf, bydd y brechlyn hefyd yn cael ei gynnig i bawb rhwng 75 a 79 oed fel rhan o raglen dal i fyny.

Dylai cleifion cymwys gadw llygad am lythyr apwyntiad ar gyfer eu brechiad RSV, neu drefnu apwyntiad mewn clinig sy’n cael ei hysbysebu gan eu meddygfa teulu pan gânt eu gwahodd i wneud hynny. Dylai pob person cymwys gael cynnig y brechlyn erbyn 31 Awst 2025.

A ellir rhoi’r brechlyn RSV ar yr un pryd â brechlynnau eraill?

Gallwch gael y brechlyn RSV ar yr un pryd â’r brechlyn ar gyfer yr eryr neu’r brechlyn niwmococol. Ni fydd y brechlyn RSV fel arfer yn cael ei roi gyda’r brechlyn COVID-19 neu’r ffliw.

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn

Eich oedran Pryd y gallaf gael y brechlyn RSV?
74 oed Ar eich pen-blwydd yn 75 oed neu ar ôl hynny 
Rhwng 75 a 79 oed Unrhyw adeg yn ystod yr ystod oedran hon
80 oed neu drosodd (wedi’ch geni ar ôl mis Medi 1944)  Unrhyw adeg 

Brechiad dal i fyny ar gyfer pobl 75 i 79 oed:

Dros y 12 mis nesaf, bydd y brechlyn hefyd yn cael ei gynnig i bawb rhwng 75 a 79 oed fel rhan o raglen dal i fyny.

Dylai cleifion cymwys gadw llygad am lythyr apwyntiad ar gyfer eu brechiad RSV, neu drefnu apwyntiad mewn clinig sy’n cael ei hysbysebu gan eu meddygfa teulu pan gânt eu gwahodd i wneud hynny. Dylai pob person cymwys gael cynnig y brechlyn erbyn 31 Awst 2025.

Yn ogystal â’r rhaglen ar gyfer oedolion hŷn, mae rhaglen frechu RSV hefyd ar gael ar gyfer menywod beichiog.

A oes angen i mi gael y brechlyn bob blwyddyn?

Na. Mae treialon yn dangos bod y brechlyn yn rhoi amddiffyniad da am o leiaf dwy flynedd a’i fod yn debygol o bara’n hirach.

Pa frechlynnau eraill y gallaf fod yn gymwys i’w cael?

Mae brechlynnau arferol eraill sydd ar gael i oedolion hŷn yn cynnwys: 

  • rhag y ffliw 
  • niwmococol, a’r 
  • eryr. 

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen imiwneiddio a brechlynnau.

Gallwch hefyd weld yr amserlenni imiwneiddio arferol cyflawn ar gyfer Cymru.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn. Fel gyda phob meddyginiaeth a brechlyn, caiff unrhyw adroddiadau o sgîl-effeithiau eu monitro a’u hadolygu’n agos.

A oes unrhyw sgîl-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Dim ond diwrnod neu ddau ddylai’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin bara.  

Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yw:  

  • poen, cochni neu chwyddo lle rhoddwyd y pigiad. 

Mae sgil-effeithiau prin neu brin iawn o’r brechlyn yn cynnwys: 

  • adweithiau alergaidd, megis chwydd yn y wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster llyncu, a theimlo’n benysgafn, a 
  • syndrom Guillain-Barré, cyflwr nerfol sy’n gallu achosi gwendid yn y cyhyrau.  

Mae sgîl-effeithiau difrifol yn brin. Yn gyffredinol, mae’r brechlyn yn fwy diogel na’r risg o salwch difrifol oherwydd haint RSV.  

I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau’r brechlyn, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein:  

Os bydd eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n poeni, cysylltwch â GIG Cymru drwy ffonio 111 neu ffoniwch eich practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Dylech roi gwybod am sgil effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn,  neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).   

Ffoniwch 999 ar unwaith os ydych wedi cael y brechlyn ac yn profi unrhyw un o’r canlynol. 

  • Anhawster anadlu 
  • Llewygu am gyfnod hir, dryswch neu anymwybyddiaeth 
  • Chwydd yn yr wyneb, y gwddf neu’r tafod. 

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o adwaith alergaidd difrifol ac fel arfer maent yn ymddangos o fewn 15 munud i gael eich brechu. 

A allaf gael RSV os ydw i wedi cael fy mrechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o RSV. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau RSV, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich brechu.  

I gael rhagor o wybodaeth am symptomau heintiau ar y llwybr anadlol, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).

A oes unrhyw un na ddylai gael brechlyn RSV?

Ychydig iawn o bobl sydd ddim yn gallu cael y brechlyn RSV. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unrhyw un sydd wedi cael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis) i:  

  • unrhyw un o gynhwysion y brechlynnau, neu 
  • dos blaenorol o’r un brechlyn RSV.  

Mwy o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9fed Hydref 2025