Brechlyn y rotafeirws - Gwybodaeth brechlyn rotafeirws i weithwyr iechyd
Cefndir
Mae haint y rotafeirws yn achosi gastroenteritis acíwt. Mae’n lledaenu yn bennaf ar ffurf ysgarthol-geneuol o berson i berson. Er bod nifer y marwolaethau’n isel gyda thriniaeth gefnogol ddigonol, gall fod yn angheuol lle nad oes ailhydradu ar gael.
Y brechlyn
Mae brechlyn y rotafeirws, Rotarix, yn frechlyn byw wedi’i wanhau sy’n cael ei roi drwy’r geg.
Mae Rotarix yn amddiffyn rhag gastroenteritis oherwydd seroteipiau rotafeirws G1P, G2P, G3P, G4P, G9P, sy’n cyfrif am 97% o’r mathau o rotafeirws sy’n cylchredeg yn y DU.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Mae’r canllawiau amserlennu yn y Llyfr Gwyrdd, pennod 27b: Rotafeirws (Saesneg yn unig), yn disodli’r SmPC.
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy’n rheolaidd a’r rhai sydd ddym yn rheolaidd.
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (Saesneg yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. rotafeirws.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- Brechlynnau Byw Wedi’u Gwanhau: Osgoi Defnydd gyda’r rhai ag Imiwnoddiffygiant Clinigol, gan gynnwys Newydd-anedig (Mai 2016)
- Rhaglenni Imiwneiddio Cenedlaethol Newydd a Chyflwyno Rhaglen y Rotafeirws (Mawrth 2013)
Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Rotafeirws: y llyfr gwyrdd, pennod 27b (Saesneg yn unig)
- Rhaglen frechu’r rotafeirws: Gwybodaeth i ymarferwyr gofal iechyd (Saesneg yn unig)
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer y brechlyn rotafeirws ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Mwy o adnoddau a gwybodaeth clinigol
Data a goruchwyliaeth
- Data a goruchwyliaeth
- COVER – Data cenedlaethol am nifer y plant sy’n cael eu himiwneiddio
- Rotafeirws: Cyfarwyddyd, data a dadansoddiad
- Norofeirws a rotafeirws: Crynodeb o oruchwyliaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Ebrill 2026