Brechiad y pas (pertwsis) - Gwybodaeth brechlyn y pas i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal
Cefndir
Mae Pertussis (y pas) yn glefyd hysbysadwy. Mae canllawiau ar adrodd am glefydau hysbysadwy ar gael ar y Gwefan UKHSA (Saeseng yn unig).
Mae gwybodaeth am hysbysu am glefydau hysbysadwy yng Nghymru ar gael yng ngwasanaeth Ymateb Acíwt Cymru Gyfan (AWARe).
Mae’r pas yn glefyd anadlol hynod heintus a achosir gan y bacteriwm Bordetella pertussis. Mae’r haint yn cael ei drosglwyddo gan ddefnynnau anadlol. Mae achosion yn fwyaf heintus yn ystod y cyfnod o gatâr. Mae’r cyfnod magu rhwng chwech ac 20 diwrnod.
Gall y clefyd hwn achosi salwch difrifol a marwolaeth. Mae unigolion sydd â risg uwch o gymhlethdodau difrifol yn cynnwys babanod cynamserol, babanod o dan bum mis oed a’r rhai o dan flwyddyn nad ydynt wedi cael eu cwrs cyflawn o imiwneiddiadau sylfaenol.
Mae cymhlethdodau difrifol y pas yn cynnwys niwmonia, seibiannau dros dro mewn anadlu (apnoea cwsg) oherwydd anawsterau anadlu difrifol, a hypocsia ymennydd yn ystod ffitiau peswch, a all arwain at niwed i’r ymennydd. Mae cymhlethdodau ychwanegol yn cynnwys chwydu dro ar ôl tro gan arwain at golli pwysau, trawiadau ac enseffalitis (llid acíwt yr ymennydd).
Mae mân gymhlethdodau o heintiad y pas yn cynnwys gwaedu trwyn, oedema ar yr wyneb, gwaedlifau, briwio’r tafod neu’r ardal gyfagos, a chrawnbair llid y glust.
Cyflwynwyd brechiad y pas i’r rhaglen imiwneiddio mamau yn 2012. Ers ei gyflwyno, mae’r brechlyn wedi bod yn effeithiol iawn wrth amddiffyn babanod rhag y salwch difrifol hwn, hyd nes y gallant gael eu brechiad plentyndod arferol cyntaf yn wyth wythnos oed. Mae’r brechlyn yn helpu i amddiffyn babanod trwy drosglwyddiad o wrthgyrff mamol yn y groth. Mae’r brechlyn hefyd yn helpu i amddiffyn y fam rhag cael y pas ac yn lleihau’r risg y bydd y fam yn ei drosglwyddo i’w baban.
Mae brechlynnau sy’n cynnwys y pas yn cael eu cynnig i blant ar adegau priodol fel rhan o’r amserlen imiwneiddio plant arferol ar gyfer Cymru.
Y brechlyn
Imiwneiddiadau yn ystod beichiogrwydd
Am y brechlyn
Mae ADACEL® a’r pedwarfalent (4-mewn-1) yn anweithredol (nid brechlynnau byw) ac yn rhydd o thiomersal. Gan nad yw brechlynnau anweithredol yn cynnwys unrhyw organebau byw, ni allant ddyblygu ac ni allant achosi haint i’r fam na’r ffetws. Mae’r brechlynnau hyn fel arfer yn hynod effeithiol ac mae ganddynt gofnodion diogelwch rhagorol.
Bydd y 4-mewn-1 yn parhau i fod y brechlyn a ddefnyddir ar gyfer y brechiad atgyfnerthu cyn-ysgol i blant, ac ar gyfer brechu cyn-geni menywod beichiog y mae ADACEL® wedi’i wrtharwyddio ar eu cyfer (e.e. oherwydd hanes o alergedd anaffylactig i latecs).
Crynodeb o nodweddion y cynnyrch
- Brechlynnau’r pas yn ystod beichiogrwydd: ADACEL® (Saeseng yn unig) / Boostrix-IPV® (Saeseng yn unig) / REPEVAX® (Saeseng yn unig)
- Brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 cyn ysgol: Boostrix-IPV® (Saeseng yn unig)/ REPEVAX® (Saeseng yn unig)
- Brechlyn babanod 6 mewn 1 (brechiadau babanod): Infanrix Hexa® (Saeseng yn unig)/Vaxelis® (Saeseng yn unig)
Mae’r atodlen canllawiau yn y Llyfr Gwyrdd pennod 24 Y Pas (Saeseng yn unig) yn disodli’r SmPC.
Arweiniad
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saeseng yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI: chwilio e.e., y pas.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Adnoddau hyfforddi a digwyddiadau
Gellir cyrchu cyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau a chlefydau drwy’r dudalen E-ddysgu.
Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar gael yma:
Adnoddau a gwybodaeth clinigol
- Llyfr Gwyrdd pennod 24 y pas (Saeseng yn unig)
- Rhaglen frechu Pertwsis (y pas) UKHSA ar gyfer merched beichiog: gwybodaeth i ymarferyddion gofal iechyd (Saesneg yn unig)
- Poster A4 y Pas a Beichiogrwydd
Cyfarwyddyd Grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau
- Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Adnoddau
- Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
- Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr: Gwybodaeth i glinigwyr (Saesneg yn unig)
Data a goruchwyliaeth
Mae gwybodaeth gwyliadwriaeth brechu ar gael ar y tudalennau isod:
- Gwyliadwriaeth imiwneiddio
- Gwyliadwriaeth y pas
- COVER – Data cenedlaethol ar y nifer sy’n imiwneiddio plant
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Ebrill 2026