Difftheria
Mae difftheria yn glefyd difrifol sydd fel arfer yn dechrau gyda dolur gwddf a thymheredd uwch (twymyn).
Gall arwain yn fuan wedyn at broblemau anadlu a gall niweidio’r galon a’r system nerfol. Mewn achosion difrifol, gall achosi marwolaeth. Mae difftheria yn lledaenu drwy beswch a thisian neu drwy gysylltiad agos â pherson heintiedig.
Mae difftheria yn anghyffredin yn y DU. Fodd bynnag, mae’n bosibl ei ddal wrth deithio i wledydd eraill.
Cyn i’r brechlyn difftheria gael ei gyflwyno yn y DU, roedd hyd at 70,000 o achosion o ddifftheria a hyd at 5,000 o farwolaethau’r flwyddyn.
Symptomau difftheria
- Gorchudd llwyd-gwyn trwchus a all orchuddio cefn eich gwddf, trwyn a thafod
- Tymheredd uchel (twymyn)
- Dolur gwddf
- Chwarennau chwyddedig yn eich gwddf
- Anhawster anadlu a llyncu
Gall difftheria croenol achosi:
- pothelli llawn crawn ar eich coesau, eich traed a’ch dwylo, ac
- wlserau mawr wedi’u hamgylchynu gan groen coch, â golwg dolurus.
Dysgwch mwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn