Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff
Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy’n ceisio gwella iechyd a lles oedolion llonydd ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd ag un eisoes.
Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy’n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i wreiddio arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
Ar ôl eu hatgyfeirio, gwahoddir cleifion sy’n bodloni’r meini prawf i’w canolfan hamdden leol i gael asesiad cychwynnol gyda gweithiwr proffesiynol atgyfeirio ymarfer corff cymwysedig. Byddant yn cael cynnig rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra am 16 wythnos a bydd eu cynnydd yn cael ei adolygu ar adegau allweddol.
Sut ydw i’n cael mynediad at y gwasanaeth?
Bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig y GIG (fel arfer eich Meddyg Teulu, Nyrs Practis neu Ffisiotherapydd/Nyrs sy’n benodol i gyflwr) a fydd â mynediad at wefan atgyfeirio NERS.
Os ydych chi’n Weithiwr Iechyd Proffesiynol sy’n atgyfeirio, gweler yr adran ar gyfer Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am sut i atgyfeirio.
Ydw i’n gymwys i gael mynediad at NERS?
Mae’r Cynllun ar gyfer unigolion 16 oed neu’n hŷn sy’n dioddef o gyflwr cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr o’r fath. Mae meini prawf cynhwysiant ac eithrio penodol a bydd angen i’ch gweithiwr iechyd proffesiynol wirio eich bod yn bodloni’r rhain.
Beth mae’r cynllun yn ei gynnwys?
Mae NERS yn rhaglen 16 wythnos o hyd lle mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael asesiad cychwynnol a rhaglen ymarfer ar lefel addas a gaiff ei goruchwylio gan Weithiwr Proffesiynol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Gall gweithgareddau gynnwys dosbarth ymarferion cylch dwysedd isel neu’r gampfa ac yn dibynnu ar amserlenni lleol, efallai y bydd mynediad hefyd at weithgareddau fel Tai Chi, sesiynau dŵr neu weithgareddau awyr agored megis teithiau cerdded dan arweiniad.
Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael adolygiad ar ôl 4 wythnos ac 16 wythnos ac ar ddiwedd y rhaglen maent yn cael eu cyfeirio at ddosbarthiadau priodol/cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn y gymuned leol i annog y rhai sy’n cymryd rhan i gadw’n brysur.
Sylwch fod darpariaeth leol neu amseroedd aros ar ôl atgyfeirio yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd staff cymwys. Cysylltwch â’r Cydlynydd NERS lleol os oes gennych ymholiadau.
Faint fydd yn ei gostio?
Mae’r asesiad cychwynnol a’r apwyntiadau adolygu am ddim a’r argymhelliad cenedlaethol yw £3.15 am bob sesiwn ymarfer yn ystod yr 16 wythnos. Gall y ffioedd hyn amrywio ychydig yn lleol.
Am ba hyd mae’r cynllun yn para?
Mae’r cynllun yn para rhwng 4 a 32 wythnos yn dibynnu ar y rheswm dros yr atgyfeiriad. Bydd pob sesiwn yn para tua awr a bydd y gweithgareddau yn amrywio o weithgaredd dan do; sesiynau campfa, hyfforddiant cylchol neu weithgaredd awyr agored. Bydd yn ofynnol i chi fynd i sesiynau rheolaidd a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau dilynol ar ôl 16 wythnos. Mae darpariaeth leol neu amseroedd aros ar ôl atgyfeirio yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd staff cymwys. Cysylltwch â’ch cydlynydd lleol os oes gennych ymholiadau.
Gwybodaeth bellach
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn