System Rheoli Cleifion Newydd
Gwneir atgyfeiriadau i NERS drwy borth atgyfeirio Theseus. Mae porth Theseus yn rheoli cleifion mewn un system o’r pwynt atgyfeirio hyd nes iddynt gwblhau a gadael NERS. Mae’n ffordd haws a mwy diogel i weithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfeirio i NERS, heb fod angen lawrlwytho dogfennau na phostio neu e-bostio ffurflenni. Drwy glicio botwm, anfonir yr e-atgyfeiriad at y tîm NERS lleol yn syth.
Mae porth Theseus yn cynnig llawer o fanteision yn cynnwys:
- Lleihau amseroedd rheoli cleifion a chostau
- Gwella diogelwch a diogeled data cleifion
- Gwella adborth ac adrodd ar NERS
- Gallu arddangos effeithiolrwydd ac effaith y cynllun yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
- Integreiddio ffurflen e-atgyfeirio NERS o fewn system EMIS.
Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) – Hysbysiad Preifatrwydd
Pwrpas yr hysbysiad hwn yw eich hysbysu pam a sut y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn prosesu eich data personol pan fyddwch yn cymryd rhan yn y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS).
Mae NERS yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sydd â’r nod o wella iechyd a llesiant oedolion eisteddog ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd ag un yn barod.
Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion a atgyfeiriwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol cofrestredig y GIG, drwy ddefnyddio technegau newid ymddygiad i ymgorffori arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
Gwahoddir cleifion sy’n cael eu cyfeirio at NERS, ac sy’n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen, i’w canolfan hamdden leol am asesiad cychwynnol gyda gweithiwr proffesiynol atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff cymwys. Cynigir rhaglen ymarfer corff wedi’i theilwra dan oruchwyliaeth iddynt am hyd at 16 wythnos, ac adolygir eu cynnydd ar adegau allweddol.
Mae Rhaglen NERS yn cael ei goruchwylio gan ICC a’i darparu’n lleol gan dîm NERS lleol yn un o’r lleoliadau canlynol, yn dibynnu ar yr ardal: Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Hamdden neu Fyrddau Iechyd. Mae’r data atgyfeirio a’r data cyfranogiad yn y rhaglen ar gyfer pob claf sy’n cymryd rhan yn cael eu casglu a’u cadw o fewn system atgyfeirio a gweinyddu cleifion NERS Theseus. Mae Theseus yn cael ei ddatblygu, ei gynnal a’i letya gan Cyber Media Solutions Ltd ar ran ICC.
Bydd y timau NERS lleol yndefnyddio eich data personol i ddarparu’r gwasanaeth yr ydych wedi ymrwymo iddo. Bydd ICC hefyd yn prosesu eich data personol i werthuso’r cynllun ac i gefnogi gwelliannau i wasanaethau. Bydd eich data personol yn cael eu cadw am uchafswm o 8 mlynedd ac ar ôl y cyfnod hwn byddeich data yn ddienw. Bydd data dienwhefyd yn cael eu cyflwyno ddwywaith y flwyddyn i system Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (Banc DataSAIL ) i’w defnyddio at ddibenion ymchwil a gwerthuso.
Mae rhagor o fanylion am SAIL ar gael yma: Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (Banc Data SAIL) – Gwyddor Data Poblogaeth (swan.ac.uk)
I gael copi o Hysbysiad Preifatrwydd ICC, ewch i’r canlynol:
Hysbysiad Preifatrwydd – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Cwestiynau Cyffredin – Gofal Sylfaenol
Sut ydw i’n atgyfeirio i NERS?
Gall gweithiwr gofal iechyd cofrestredig y GIG wneud atgyfeiriadau (fel arfer meddyg teulu, nyrs practis neu ffisiotherapydd/nyrs sy’n benodol i gyflwr) a fydd â mynediad at gofnod llawn y claf ac yn gallu dehongli meini prawf cymhwysedd NERS.
Dim ond drwy lenwi’r ffurflen e-atgyfeirio ar borth Theseus y gellir gwneud atgyfeiriadau i NERS.
Mae’r ffurflenni e-atgyfeirio yn cael eu hintegreiddio i gofnod cleifion yn y practis meddygon teulu ar gyfer Defnyddwyr EMIS. Gweler y canllawiau i ddefnyddwyr a chanllaw cychwyn EMIS am ragor o wybodaeth.
A allaf gael mynediad hawdd at borth e-atgyfeirio NERS?
Gall defnyddwyr EMIS gael mynediad at borth Theseus drwy gofnodion cleifion ar EMIS. Os oes angen i chi actifadu’r porth Theseus ar eich system, anfonwch e-bost i: [email protected]
A all unrhyw aelod o staff yn fy mhractis meddygon teulu anfon atgyfeiriad?
Mae pob Gweithiwr Iechyd Proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r GIG yn gallu atgyfeirio cleifion priodol sy’n bodloni’r meini prawf atgyfeirio at NERS. Gall holl staff y practis ddefnyddio system e-atgyfeirio NERS Theseus os byddant wedi mewngofnodi i EMIS. Mae gan y ffurflen atgyfeirio hefyd swyddogaeth ‘cadw wrth fynd’ os oes angen i chi gymryd saib wrth lenwi’r ffurflen.
Sut y byddaf yn gwybod pa gyflyrau iechyd y gellir eu hatgyfeirio yn fy ardal i?
Mae Theseus yn rhoi canllawiau ar ba lwybrau sy’n gysylltiedig â chyflyrau sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.
Mae Theseus hefyd yn dangos y meini prawf cynhwysiant ac eithrio ar gyfer pob cyflwr.
A yw porth Theseus yn gwella diogelwch anfon cofnodion/data cleifion?
Mae porth Theseus yn cydymffurfio’n llawn â safonau diogelwch gwybodaeth GIG Cymru ac yn cynyddu diogelwch data cofnodion cleifion yn sylweddol o’i gymharu â’r system flaenorol o atgyfeiriadau papur.
A all practis meddygon teulu gael adborth ar atgyfeiriadau cleifion?
Bydd staff y practis yn cael gwybod drwy borth Theseus os yw’r atgyfeiriad wedi’i dderbyn neu ei wrthod, ynghyd â’r rhesymau dros wrthod cais.
Gall timau NERS lleol gynhyrchu adroddiadau o borth Theseus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd cleifion.
A allaf gael cymorth i ddefnyddio’r system?
Mae cymorth ar gael drwy fideos defnyddwyr ym mhorth hyfforddi Theseus. Yn ogystal, gellir rhoi gwybod am broblemau gyda’r system trwy anfon neges i: [email protected]
Yna, ymchwilir i unrhyw broblemau neu ddiffygion gyda’r bwriad o’u datrys.
Cwestiynau Cyffredin – Gofal Eilaidd
Sut ydw i’n atgyfeirio i NERS?
Gall gweithiwr gofal iechyd cofrestredig y GIG wneud atgyfeiriadau (fel arfer meddyg teulu, nyrs practis neu ffisiotherapydd/nyrs sy’n benodol i gyflwr) a fydd â mynediad at gofnod llawn y claf ac yn gallu dehongli meini prawf cymhwysedd NERS.
Gwneir atgyfeiriadau i bob llwybr NERS sy’n benodol i gyflwr drwy lenwi’r ffurflen e-atgyfeirio ar borth Theseus.
Mae’r system newydd hon yn arbed amser gan nad oes angen lawrlwytho dogfennau na phostio/e-bostio ffurflenni.
A allaf gael mynediad hawdd at borth atgyfeirio electronig newydd NERS?
Gallwch. Mae’n hawdd. Gellir cael mynediad at ffurflen e-atgyfeirio NERS ar borth Theseus drwy’r ddolen ganlynol.
Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi’i gyflwyno, bydd yn cyrraedd y tîm NERS lleol perthnasol iddo gymryd camau gweithredu.
A all pob aelod o staff mewn lleoliadau gofal eilaidd/cymunedol anfon atgyfeiriad?
Gall pob Gweithiwr Iechyd Proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r GIG atgyfeirio cleifion cymwys sy’n bodloni’r meini prawf atgyfeirio at NERS drwy borth Theseus.
Oes angen i mi greu cyfrif i allu atgyfeirio rhywun?
Na – gellir anfon atgyfeiriadau drwy ddolen we porth Theseus ac nid oes angen creu cyfrif Theseus.
Os gwrthodir yr atgyfeiriad, bydd y tîm NERS lleol yn cysylltu drwy e-bost/ffôn.
Bydd creu cyfrif porth Theseus yn galluogi atgyfeirwyr i atodi dogfennau ategol i atgyfeiriad neu weld a yw atgyfeiriadau wedi’u derbyn neu eu gwrthod.
I greu cyfrif Theseus, cysylltwch â’ch Cydlynydd NERS lleol
Sut y byddaf yn gwybod pa gyflyrau iechyd y gellir eu hatgyfeirio yn fy ardal i?
Mae Theseus yn rhoi canllawiau ar ba lwybrau sy’n gysylltiedig â chyflyrau sydd ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol.
Mae Theseus hefyd yn dangos y meini prawf cynhwysiant ac eithrio ar gyfer pob cyflwr.
A yw’r porth yn gwella diogelwch anfon cofnodion cleifion?
Mae porth Theseus yn cydymffurfio’n llawn â safonau diogelwch gwybodaeth GIG Cymru. Mae’n gwella diogelwch data cofnodion cleifion yn sylweddol o’i gymharu â’r system flaenorol o atgyfeiriadau papur.