Neidio i'r cynnwys

Canllaw technegol offeryn adrodd canser

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r broses o gasglu data, ansawdd y data a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu’r offeryn dadansoddi canser.  Mae hefyd yn rhoi diffiniadau, nodiadau ar gyfer dehongli, a manylion ynghylch ble i gael mwy o wybodaeth am ystadegau canser yng Nghymru.

Yn 2009, daeth Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) yn rhan o Is-adran Gwybodaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) a oedd newydd ei greu. Yn dilyn nifer o newidiadau strwythurol dros y blynyddoedd, yn fwyaf diweddar mae’r Is-adran Gwybodaeth Iechyd wedi dod yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol (1 Hydref 2024). Mae UGGCC wedi bod yn gyfrifol am gyhoeddi mynychder, marwolaethau a chyfraddau goroesi canser yng Nghymru ers 1997. Cyn hyn roedd ffigurau mynychder canser yn cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.

Yn unol ag un o ddyletswyddau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Swyddogaeth graidd Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) yw cyflawni un o ddyletswyddau statudol Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘i gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth am iechyd pobl Cymru, yn systematig, yn arbennig mynychder, marwolaethau a chyfraddau goroesi canser’. Mae llunio cofrestrfa genedlaethol canser Cymru yn barhaus a chreu ystadegau swyddogol blynyddol cyfreithiol ar fynychder a goroesi canser yn hanfodol i’r ddyletswydd hon, yn ogystal ag adrodd ar farwolaethau canser yn y boblogaeth sydd yn preswylio yng Nghymru.

 Mae cofrestrfa genedlaethol canser Cymru yn gronfa ddata fyw a deinamig lle cyflwynir data i UGGCC gan amrywiaeth o ddarparwyr gofal iechyd a gwasanaethau cysylltiedig. Mae’r UGGCC yn cydgrynhoi ac yn dilysu’r data ar gyfer pob claf, wedi ei ddiffinio fel isafswm y set ddata cofrestru canser.

Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau Swyddogol. Maent yn cael adolygiadau sicrhau ansawdd rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni anghenion cwsmeriaid. Cânt eu cynhyrchu heb unrhyw amharu gwleidyddol o gwbl.

Mae rhestr o’r mathau o ganser a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn i’w gweld yn Atodiad A.

Methodoleg

Allbynnau achosion

Mae achos digwyddiad o ganser yn achos newydd gyda diagnosis o:

  • Neoplasmau malaen: canserau fel y disgrifir gan Ddosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel codau ICD-10 C00 i C97
  • Neoplasmau sefydlog: codau ICD-10 D00-D09
  • Neoplasmau anfalaen: codau ICD-10 D29.2, D32-D33, D35.2, D35.4, D15
  • Neoplasmau ag ymddygiad ansicr neu anhysbys: codau ICD-10 D37-D48

Noder: Nid yw’r holl gyflyrau cofrestradwy uchod a gesglir gan y gofrestrfa wedi’u hamlinellu yn yr allbynnau digwydded. Er enghraifft, yn 2022 dim ond 61% o achosion cofrestradwy a gafodd eu categoreiddio fel neoplasm malaen ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma (CCNF) – Mae hynny’n 21,006 o achosion o’r cyfanswm o 34,531 o achosion. Nid yw tiwmorau eilaidd ac ad-ddigwyddiadau canser blaenorol yn cael eu cyfrif fel achosion digwyddiadol newydd chwaith. Nid yw tiwmorau eilaidd a chanser blaenorol yn ail-ddigwydd yn cael eu cyfrif fel achosion newydd.

Mae’r rhan fwyaf o safleoedd canser yr ydym yn adrodd arnyn nhw wedi’u categoreiddio yn seiliedig ar godau safle ICD-10, sy’n dosbarthu canserau yn ôl lleoliad anatomegol y tiwmor cychwynnol. Mae safleoedd na ellir eu diffinio’n gywir yn ôl safle anatomegol yn unig yn seiliedig ar godau morffoleg ac ymddygiad yn lle hynny. Mae’r rhain yn cynnwys neoplasmau niwroendocrin, canserau’r ysgyfaint o fath celloedd bach a chanserau’r ysgyfaint o fath celloedd mwy. Gellir dod o hyd i restr o’r mathau o ganser yr adroddir arnynt yn y cyhoeddiad hwn, ynghyd â chodau safle ICD-10 (a chodau morffoleg ac ymddygiad ICD-O3 lle bo’n berthnasol), yn Atodiad A.

Noder, o 2018 ymlaen, nad yw trawsffurfiadau bellach wedi’u cofrestru fel neoplasm malaen cychwynnol ar wahân.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar ganserau diagnosis i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2022, ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer: 

  • Cymru
  • Byrddau iechyd
  • Awdurdodau lleol
  • Pumedau amddifadedd ardal ar gyfer Cymru a byrddau iechyd (cyfnodau tair blynedd yn unig ar lefel bwrdd iechyd)

Cyflwynir cyfrifiadau, cyfraddau crai a chyfraddau Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran (EASR) ar gyfer pob un o’r dadansoddiadau uchod ar gyfer pob safle canser malaen a’r neoplasmau niwroendocrin (Atodiad A). Gellir dod o hyd i ddadansoddiadau pellach yn y lawrlwythiadau data nad ydym wedi’u harddangos yn yr offeryn.

Dim ond cyfrifiadau a ddarperir yn y lawrlwythiadau data ar gyfer y safleoedd canser anfalaen, ansicr ac in-situ sy’n weddill (Atodiad A).

Cyflwynir digwydded canser yn ôl cam adeg diagnosis ar gyfer diagnosisau rhwng 2011 a 2022 yn ôl cyfnodau sengl a chyfnodau treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod a phobl ar gyfer:

  • Cymru
  • Pumedau amddifadedd ardal ar gyfer Cymru

Cyflwynir cyfrifiadau a chyfran y canser a gafodd ddiagnosis yn ôl cam ar gyfer pob un o’r dadansoddiadau uchod ar gyfer pob safle canser malaen a’r neoplasmau niwroendocrin lle bo’n berthnasol (Atodiad A). Nid yw’r dadansoddiad yn ôl cam ar gyfer lewcemia a chanserau’r ymennydd a’r prif system nerfol ar gael oherwydd gwybodaeth gyfyngedig, gyda dadansoddiad ar gyfer lymffoma Hodgkin, lymffoma nad yw’n Hodgkin a Myeloma ond yn cynnwys 2016 ymlaen oherwydd gwelliant yn pennu cam adeg diagnosis ar gyfer y mathau hyn yn ystod y blynyddoedd diweddar. O ganlyniad, ni ddarperir dadansoddiad ar gamau ar gyfer ‘pob canser ac eithrio CCNF’. Fodd bynnag, darperir dadansoddiad ar gamau ar gyfer y safleoedd canser cyfunol sy’n weddill a’u labelu yn ‘pob canser y gellir pennu cam iddo’. Gweler Atodiad A.

Mae cyflawnrwydd pennu cam y canser wedi gwella dros y blynyddoedd, felly fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli dadansoddiadau cyfresi amser. Oherwydd problemau datgelu, dim ond ffigurau Cymru gyfan yn ôl cam yr ydym yn eu dangos ac rydym yn atal safleoedd canser sydd â chyfrifiadau â chyfrannau o 100% ar gyfer camau hysbys.

Noder fod dadansoddiad wedi’i ddiweddaru wedi’i gynnal o 2011 oherwydd amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu yn ôl ardal gynnyrch ehangach haen is (LSOA) i gyd-fynd ag argaeledd Cyfrifiad 2021. Cyhoeddwyd dadansoddiad o’r cyfnod 2002-2010 ar 26 Medi 2024 ac mae’n defnyddio amcangyfrifon poblogaeth yn ôl LSOA i gyd-fynd â Chyfrifiad 2011.

Allbynnau marwoldeb

Mae achos marwolaeth o ganser yn farwolaeth lle mae canser yn cael ei gofnodi fel yr achos sylfaenol.

Mae set ddata wythnosol sy’n cynnwys marwolaethau sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru yn cael ei chyflenwi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar gyfer y dadansoddiad o farwolaethau, ac mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn rhoi ciplun wythnosol o’r data. Defnyddiwyd hwn ar gyfer y dadansoddiad o farwolaethau cyfredol yn hytrach na’r set ddata flynyddol arferol gan fod angen codau post i gysylltu â’r ffigurau poblogaeth diweddaraf. 

Mae’r cyhoeddiad hwn yn adrodd ar farwolaethau a gofrestrwyd i drigolion Cymru rhwng 2002 a 2024 ac mae allbynnau’n cael eu cyflwyno fesul cyfnod sengl a chyfnod treigl tair blynedd ar gyfer dynion, menywod, a phersonau ar gyfer:

  • Cymru
  • Byrddau iechyd
  • Awdurdodau lleol
  • Pumedau amddifadedd ardal ar gyfer Cymru

Cyflwynir cyfrifiadau, cyfraddau bras a chyfraddau wedi eu safoni yn ôl oedran Ewropeaidd (EASR) ar gyfer bob un o’r dadansoddiadau uchod ar gyfer pob canser ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma (CCNF), ynghyd â 45 o safleoedd canser eraill.  Mae rhestr o’r safleoedd canser, gyda chodau ICD-10 ategol, a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn i’w gweld yn  Atodiad A.

Allbynnau goroesi

Mae dadansoddiad goroesi yn cynnwys y neoplasm cychwynnol cyntaf ar gyfer pob math o ganser a ddiagnosir ymhlith trigolion Cymru. Er enghraifft, os caiff claf o Gymru ddiagnosis o ganser y fron malaen cychwynnol yn 2010 ac yna canser yr ysgyfaint malaen cychwynnol yn 2015, byddai’r claf hwnnw’n cael ei gynnwys yn y garfan sydd wedi goroesi canser y fron a’r garfan sydd wedi goroesi canser yr ysgyfaint, ond dim ond ar gyfer ei ganser cyntaf (h.y. canser y fron) y byddai’n cael ei gynnwys yn y garfan goroesi pob canser. Gellir dod o hyd i restr o’r mathau o ganser yr adroddir arnynt yn y cyhoeddiad hwn, ynghyd â chodau safle ICD-10 (a chodau morffoleg ac ymddygiad ICD-O3 lle bo’n berthnasol), yn Atodiad A.

Cafodd pob achos â thystysgrif marwolaeth yn unig a chleifion â dyddiad geni annilys eu heithrio o’r dadansoddiad. Cafodd cleifion ag amser goroesi o sero eu cynnwys yn y dadansoddiad, gydag un diwrnod wedi’i ychwanegu at eu hamser dilyn i fyny.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn cyflwyno cyfraddau goroesi net am flwyddyn, phum mlynedd a deng mlynedd a goroesiad a arsylwyd (%) lle bo modd (ynghyd â chyfyngau hyder o 95% (CI)) yn ôl cyfnodau treigl o flwyddyn a phum mlynedd ar gyfer dynion, menywod a phobl 15-99 oed (20-99 ar gyfer cleifion canser yr esgyrn), diagnosis o 2002 i 2022 yng Nghymru ar gyfer:

  • Cymru
  • Byrddau iechyd
  • Amddifadedd
  • Cam adeg (o 2011 ymlaen)

Nid oes dadansoddiad o gamau ar gyfer lewcemia, myeloma a chanserau’r ymennydd a’r system nerfol ganolog ar gael oherwydd gwybodaeth gyfyngedig. Mae dadansoddiad ar gyfer lymffoma Hodgkin, a lymffoma nad yw’n lymffoma Hodgkin yn cael ei ddangos ar gyfer 2016 ymlaen yn unig, o ganlyniad i welliant wrth bennu camau ar gyfer y safleoedd hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, ni ddarperir dadansoddiad ar gamau ar gyfer ‘pob canser ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma (CCNF)’. Fodd bynnag, darperir dadansoddiad ar gamau ar gyfer y safleoedd canser cyfunol sy’n weddill a’u labelu yn ‘pob canser y gellir pennu cam iddo’. Gweler Atodiad A.

Mae cyflawnrwydd pennu cam y canser wedi gwella dros y blynyddoedd, felly fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli dadansoddiadau cyfresi amser. 

Noder mai dim ond ar gyfer 2007 ymlaen y darperir data ar gyfer canser y bledren oherwydd newid codio yn y flwyddyn honno, ac nad yw trawsffurfiadau bellach yn cael eu cofrestru fel neoplasm malaen cychwynnol ar wahân o 2018 ymlaen. Mae nifer y cleifion canser sydd mewn perygl, nifer y marwolaethau a nifer yr achosion wedi’i sensro ar gyfer pob amcangyfrif goroesi hefyd i’w gweld yn y lawrlwythiadau data.

Defnyddiwyd y pecynnau survival (Therneau, 2024) a relsurv (Perme a Pavlič, 2018) sydd ar gael yn gyhoeddus mewn meddalwedd R 4.4.1 i gael yr ystadegau. Amcangyfrifwyd goroesiad a arsylwyd gan ddefnyddio amcangyfrifydd Kaplan-Meier (Kaplan a Meier, 1958), ac amcangyfrifwyd goroesiad net gan ddefnyddio amcangyfrifydd Pohar-Perme (Pohar Perme et al., 2012) defnyddiwyd y dull gweithredu cyflawn a chafodd y ddau eu capio ar 100%. Crëwyd tablau bywyd amddifadedd ar gyfer Cymru yn fewnol i gyfrif am farwolaethau cefndirol fel brasamcan o’r cyfraddau marwolaethau nad ydynt yn gysylltiedig â chanser ymhlith cleifion canser o ran goroesiad net (gweler adran tablau bywyd). Amcangyfrifwyd CI o 95% ar gyfer goroesi net gan ddefnyddio amcangyfrif arferol ar y gyfradd oroesi (h.y. y dull plaen), ac fe’u capiwyd rhwng 0 a 100.

Mabwysiadodd dadansoddiad y meini prawf cadernid ôl-amcangyfrifiad ar gyfer pob cyfuniad o ffactorau strata:

  • Dylai isafswm o 10 claf fod yn fyw wrth adrodd ar y pwynt amcangyfrif (hy 10 neu fwy ar adeg blwyddyn ar gyfer goroesi am flwyddyn, 10 neu fwy ar adeg 5 mlynedd ar gyfer goroesi am bum mlynedd, 10 neu fwy ar adeg 10 mlynedd ar gyfer goroesi am deng mlynedd)
  • Dylid arsylwi isafswm o 2 farwolaeth blwyddyn y naill ochr a’r llall i’r pwynt amcangyfrif (hy dwy farwolaeth neu fwy rhwng sero a dwy flynedd ar gyfer goroesi am flwyddyn, dwy farwolaeth neu fwy rhwng pedair a chwe blynedd ar gyfer goroesi am bum mlynedd, dwy farwolaeth new fwy rhwng naw and unarddeg ar gyfer goroesi am deng mlynedd)
  • Dylai’r gwall safonol ar y pwynt amcangyfrif fod yn 20% neu lai
  • Dylai’r amcangyfrifon goroesi leihau dros amser (h.y., dylai’r ffigurau goroesi am bum mlynedd fod yn llai na’r ffigurau goroesi am flwyddyn, a’r ffigurau deng mlynedd fod yn llai na’r ffigurau pum mlynedd; fel arall dylid sensro’r ffigurau goroesi pum mlynedd/deng mlynedd
  • Mae’n rhaid i oroesi am flwyddyn fod yn bresennol a bodloni’r meini prawf er mwyn dangos goroesi am bum mlynedd

Pe na bai’r meini prawf uchod yn cael eu bodloni, byddai goroesiad net ansafonedig, goroesiad a arsylwyd a nifer yr achosion, marwolaethau ac achosion wedi’u sensro yn cael eu sensro ar gyfer y math penodol hwnnw o ganser, y cyfnod, rhyw, grŵp oedran, pumedau amddifadedd/cam/lefel daearyddiaeth, a phwynt amcangyfrif goroesiad (blwyddyn mlynedd, pum mlynedd neu ddeng mlynedd).

Cyflwynir cyfraddau goroesi net am flwyddyn, pum mlynedd a deng mlynedd wedi eu safoni yn ôl oed (ynghyd â CI o 95%) hefyd lle y bo’n bosibl ar gyfer cleifion o ddiagnosis 15-99 oed yn ôl cyfnodau treigl o flwyddyn a phum mlynedd, yn ôl math o ganser a rhyw ar lefel Cymru gyfan, gan ddefnyddio cymedr wedi ei bwysoli o amcangyfrifon grŵp oedran a gafwyd gan y Safonau Goroesi Canser Rhyngwladol (ICSS; Corazziari et al., 2004), Atodiad B.

Os na chafodd y meini prawf cadernid a nodir uchod ar gyfer cyfraddau goroesi net heb eu safoni eu bodloni ar gyfer pob grŵp oedran, yna cyfunwyd y ddau grŵp oedran is (15-44 a 45-54, i creu 15- 54; Atodiad B) a’u hailarchwilio. Yna defnyddiwyd y ffigur goroesi oed-benodol hwn ar gyfer pob un o’r grwpiau oedran (15-44 a 45-54). Dim ond os oedd pob grŵp oedran yn bodloni’r meini prawf y darparwyd goroesiad net wedi’i safoni yn ôl oedran, cyfraddau goroesi a arsylwyd a nifer yr achosion, marwolaethau ac achosion sensro, a chyflwynwyd y ffigurau goroesi oed-benodol hyn hefyd. Oherwydd bod niferoedd bach yn y grwpiau oedran iau, dim ond Pob malaenedd ac eithrio CCNF, Canser y Brostad a Chanser y Fron sy’n cael eu dangos ar ffurf grwpiadau safonol, mae’r holl safleoedd canser eraill yn grwpiadau cyfun.

Mae rhestr o’r safleoedd canser, gyda chodau ICD-10 ategol, a ddefnyddir yn y cyhoeddiad hwn i’w gweld yn Atodiad A.

Allbynnau patholeg canser

Mae’r dadansoddiad arbrofol hwn yn archwilio’r cyfrif misol o gleifion unigol â sampl patholeg sy’n dynodi tiwmor malaen sylfaenol (ac eithrio CCNF) yng Nghymru ar gyfer y safleoedd canser: Pob canser, y Prostad, y Fron, yr Ysgyfaint, y Colon a’r Rhefr a’r Ofari.

Mae archwilio samplau patholeg canser misol yn caniatáu amcangyfrifon mwy amserol o fynychder canser yng Nghymru. Mae’r ystadegau arbrofol newydd hyn yn rhoi cipolwg cyflym ar effaith pandemig COVID-19 ar achosion newydd o ganserau  a gadarnhawyd gan batholeg, sut roedd yr effaith hon yn wahanol rhwng y mathau o ganser a ddadansoddwyd, a gwell dealltwriaeth o sut mae diagnosau canser wedi adfer ar ôl y pandemig. 

Cofrestriadau canser yw’r ffynhonnell ddata fwyaf awdurdodol o hyd ar gyfer mynychder canser. Fodd bynnag, mae’r amser a gymerir i brosesu a dilysu data gan swyddogion cofrestru canser arbenigol yn golygu bod oedi o 18 mis cyn cyhoeddi yn arferol  (gweler adran amseroldeb a phrydlondeb). Mae cyfran fawr o ddiagnosau canser yn cael eu cofrestru gan ddefnyddio cronfeydd data patholeg, felly gall cyfrif samplau patholeg gynnig amcangyfrif mwy amserol o fynychder canser.

Mae’n bwysig nodi nad yw pob achos newydd o ganser yn cael ei wirio trwy batholeg a gall dibynnu ar wybodaeth patholeg yn unig arwain at danamcangyfrif nifer gwirioneddol yr achosion o ganser o gymharu â data cofrestru canser. At hynny, gall y gwahanol ddulliau o ganfod canser ddibynnu ar y math o ganser, felly gall data patholeg gynnig amcangyfrifon mwy cymaradwy i ddata cofrestru ar gyfer rhai mathau o ganser o gymharu â safleoedd eraill. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli data patholeg.

Ffynonellau data

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn derbyn data patholeg o’r ffynonellau a restrir isod:

  • Systemau Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS and WLIMS2), a letyir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC): Ar gyfer pob bwrdd iechyd
  • Cronfa ddata Telepath: Ar gyfer data hanesyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Methodoleg

Mae Tabl 1 yn crynhoi’r camau a ddefnyddiwyd i brosesu’r data patholeg, gan eu trawsnewid o echdyniadau crai i’r setiau data misol terfynol. Mae hyn yn dangos canran y cofnodion sy’n cael eu hidlo allan ar wahanol gamau dadansoddi. Sylwer, bydd y canrannau a ddangosir yn amrywio o fis i fis wrth i’r set ddata gael ei diweddaru. Mae Tabl 1 yn dangos bod cyfran fawr o gofnodion yn cael eu hidlo allan oherwydd ffactorau megis cofnodion dyblyg hy lle mae samplau lluosog yn cael eu cymryd o un claf, ynghyd â samplau nad ydynt yn cyd-fynd â’r diffiniad gofynnol hy tiwmorau anfalaen neu ansylfaenol.

Mae’r data patholeg yn cynnwys y wybodaeth ganlynol am y tiwmor ar ffurf cod:

  • Topograffeg: y safle tarddiad
  • Morffoleg: ymddygiad y tiwmor

Defnyddiwyd tablau chwilio a ddarparwyd gan gydweithwyr yng nghofrestrfeydd canser Gogledd Iwerddon a’r Alban i baru codau topograffeg a morffoleg â chodau ICD-10. Lle na ellid dod o hyd i gofnod cyfatebol ar gyfer cofnod patholeg, ni chynhwyswyd y cofnod hwnnw.

Gall fod gan gleifion unigol fwy nag un sampl patholeg. Efallai y bydd angen mwy nag un driniaeth i wneud diagnosis o ganser; er enghraifft, efallai mai biopsi positif o’r fron a dyraniad positif ar wahân o nodau lymff fydd y llwybr at wneud diagnosis o achos o ganser y fron. Felly dim ond unwaith mewn cyfnod o ddwy flynedd o fewn grŵp canser penodol y caiff cleifion unigol eu cyfrif (gweler Atodiad C). Os cymerir sampl sy’n dynodi tiwmor malaen, ni ellir cyfrif yr unigolyn eto ar gyfer sampl sy’n dynodi’r un math o ganser o fewn dwy flynedd. Fodd bynnag, gellir cyfrif yr un unigolyn eto yn ystod y cyfnod hwn os bydd sampl yn dynodi grŵp canser gwahanol. Dylid nodi bod y rheolau cyfrif hyn yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir ar gyfer cofrestru canser; mae data cofrestru canser yn cynnwys canserau sylfaenol yn unig ac nid yw’n cynnwys tiwmorau eilaidd na thiwmorau sy’n dychwelyd.

Tabl 1: Crynodeb o’r camau a ddefnyddiwyd i brosesu data patholeg canser

Ffigurau ar 09/06/23, yn cwmpasu’r holl ddata a echdynnwyd (Ionawr 2018 – Mehefin 2023)

% cofnodion yn weddill
Echdynnu data o WLIMS a Telepath 100%
Glanhau cychwynnol e.e. dileu rhesi lle mae data ar goll 99%
Hidlo allan diwmorau malaen nad ydynt yn rhai sylfaenol (cod ymddygiad nid 3) 74%
Paru codau topograffeg a morffoleg â chodau ICD-10. Dileu’r holl gofnodion na ellid eu paru 65%
Hidlo allan gofnodion gyda chod ICD-10 nad yw’n dechrau gydag C (nid tiwmorau malaen yw’r rhain) 61%
Dad-ddyblygu’r set ddata 46%
Dileu C44 (Canser y croen nad yw’n felanoma) 27%

Cafeatau

Nid yw patholeg canser yn cymryd lle data cofrestrfa, sef y ffynhonnell ddata fwyaf awdurdodol ar ganserau newydd o hyd. Ni all data patholeg roi darlun llawn o ganserau newydd oherwydd nid yw pob canser newydd yn cael ei ganfod trwy samplau patholeg ac ni chymerir sampl bob amser pan wneir diagnosis o ganser.

Felly mae data patholeg yn rhoi amcangyfrif mwy cywir o fynychder rhai canserau o gymharu ag eraill. Po fwyaf fydd cyfran y canserau newydd a ganfyddir yn gynnar drwy samplu patholeg, y mwyaf cywir fydd yr amcangyfrif o fynychder achosion. Mae Tabl 2 yn rhoi crynodeb o sut y dadansoddwyd data patholeg ar gyfer y safleoedd canser o gymharu â data cofrestru canser.

Tabl 2: Cymhariaeth gryno o samplau patholeg â data mynychder cofrestru canser UGGCC, gan ddangos y cyfrif patholeg fel canran o’r cyfrif cofrestru. Cyfanswm y cyfrifiadau ar gyfer y cyfnod Ionawr 2018 i Rhagfyr 2021

Math o ganser Samplau patholeg Cofrestriad UGGCC Canran (%)
Pob canser ac eithrio CCNF 58652 78283 74.9
Canser y fron 10128 10903 92.2
Canser y prostad 6538 11203 58.4
Canser yr ysgyfaint 4162 9968 41.8
Canser y colon a’r rhefr 6821 9662 70.6
Canser yr ofari 562 1297 43.3

Mae ffigur 1 yn dangos y data patholeg misol ochr yn ochr â data cofrestrfa ar gyfer pob canser ac eithrio CCNF. Roedd samplau patholeg yn cyfrif am tua 75% o achosion digwyddiadau cofrestru canser UGGCC ar gyfer pob canser ac eithrio CCNF. Nid yw diagnosis o ganser bob amser yn cael ei gadarnhau trwy brofion patholeg, felly gall cymaroldeb data patholeg â data cofrestru canser amrywio yn ôl safle’r canser. Gweler yn Atodiad D siartiau sy’n dangos y data patholeg misol ochr yn ochr â data cofrestrfa ar gyfer y safleoedd canser eraill a ddadansoddwyd.

Fel y disgrifir uchod, mae codau topograffeg a morffoleg o’r data patholeg yn cael eu trosi’n godau ICD-10 er mwyn cyflwyno ystadegau cryno. Nid oes un tabl chwilio sefydledig ar gyfer y broses drosi hon; datblygwyd proses dri cham bwrpasol gan ddefnyddio tablau chwilio a ddarparwyd gan gydweithwyr o wledydd eraill y DU. Gellir addasu’r broses hon yn y dyfodol wrth i’r dull gael ei fireinio.

Ar gyfartaledd, o’r holl gofnodion patholeg gyda morffoleg yn dynodi tiwmor malaen sylfaenol, cafwyd tua 12% bob blwyddyn na ellid eu paru â chod ICD-10.

Mae’r pwyntiau diweddaraf a ddangosir yn y siart uchod yn agored i fân newidiadau wrth i’r data gael ei ddiweddaru oherwydd oedi data.

Ffigr 1: Samplau patholeg misol yn erbyn data cofrestru canser misol yng Nghymru ar gyfer pob canser ac eithrio CCNF, personau, Ionawr 2018 i Rhagfyr 2021

Samplau patholeg misol yn erbyn data cofrestru canser misol yng Nghymru ar gyfer pob canser ac eithrio NMSC, personau, Ionawr 2018 i Rhagfyr 2021.

Nodweddion a nodir

Ardal ddaearyddol

Mae dadansoddiad a gyflwynir yn ôl ardal ddaearyddol, sef awdurdod lleol, bwrdd iechyd ac ar lefel Cymru gyfan, yn seiliedig ar yr ardal y mae unigolyn yn preswylio ar adeg diagnosis ar gyfer mynychder a goroesi, ac ar adeg ei farwolaeth i marwolaethau.

Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru. O 1 Ebrill 2019, y rhain yw:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Powys

Cyn 1 Ebrill 2019, y saith bwrdd iechyd oedd:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Ar 1 Ebrill 2019, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (a ailenwyd bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (a ailenwyd bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), a symudodd ffin y bwrdd iechyd yn unol â hynny. Adroddir ar bob dadansoddiad yn y cyhoeddiad hwn gan ddefnyddio ffiniau presennol y byrddau iechyd, gan gynnwys y blynyddoedd cyn 1 Ebrill 2019.

Mae 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Cawsant eu sefydlu ym 1996 ac maent wedi’u lleoli o fewn ardaloedd y byrddau iechyd.

Amddifadedd ardal

Mae dadansoddiad yn ôl amddifadedd yn cael ei gyflwyno gan bumedau amddifadedd. Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar lefel ardaloedd bach yng Nghymru. Mae MALlC yn cynnwys wyth maes gwahanol o amddifadedd: incwm; cyflogaeth; iechyd; addysg; tai; mynediad at wasanaethau; yr amgylchedd; a diogelwch cymunedol.

Defnyddir MALlC i roi gradd amddifadedd gyffredinol ar gyfer pob un o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) yng Nghymru ac i roi graddau ar gyfer y meysydd amddifadedd ar wahân ar gyfer pob un o’r LSOA.

Cyfrifir graddau amddifadedd ar gyfer pob LSOA yng Nghymru. Mae gan un ardal radd amddifadedd uwch nag un arall os yw cyfran y bobl sydd yn byw yno sydd wedi eu nodi’n ddifreintiedig yn uwch. Mae’r ardal fwyaf difreintiedig yn cael gradd un.  Mae MALlC yn fesur ecolegol lle gall unigolion mewn ardal (LSOA yn yr achos hwn) amrywio. Nid yw pawb sydd yn byw mewn ardal ddifreintiedig yn ddifreintiedig ac nid yw pob person difreintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig. Nid yw ardal ei hun yn ddifreintiedig, amgylchiadau a ffordd o fyw pobl sydd yn byw yno sydd yn effeithio ar ei raddau amddifadedd.

Mae pob un o’r wyth maes yn seiliedig ar ystod o ddangosyddion gwahanol. Mae mynegeion y meysydd wedi eu pwysoli a’u cyfuno mewn mynegai cyffredinol o
amddifadedd lluosog.

Mae’r pumedau amddifadedd (1 = lleiaf difreintiedig; 5 = mwyaf difreintiedig) yn seiliedig ar y boblogaeth ac mae nifer cyfartal o Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) ym mhob pumed rhan. Mae rhagor o fanylion am MALlC ar gael yma.

Mae gwaith dadansoddi yn seiliedig ar ddiagnosisau cyn 2011 yn defnyddio MALlC19 i bennu’r pumed amddifadedd, tra bod gwaith dadansoddi yn seiliedig ar ddiagnosisau yn 2011 ac wedi hynny, yn defnyddio MALlC25. 

Cam adeg diagnosis

Mae camau breision wedi’u gwneud i wella cyflawnrwydd data am gamu canser, sy’n caniatáu i ganser yn ôl cam yng Nghymru gael ei gyflwyno o 2011 ymlaen ar gyfer dadansoddi achosion a goroesiad ar gyfer canserau malaen.  

Mae cam adeg diagnosis yn cyfeirio at faint tiwmor a pha mor bell y mae wedi lledaenu o’r man lle y tarddodd.  Mae’r cam yn cael ei fesur o 1 i 4; mae cam 1 yn dangos bod y canser yn fach ac nad yw wedi lledaenu unrhyw le, lle mae cam 4 yn dangos bod y canser wedi lledaenu i o leiaf un organ arall yn y corff.  Fel arfer, cyfeirir at cam 1 a cam 2 fel cam cynnar, a cyfeirir at cam 3 a 4 fel diagnosis cam hwyr. Gall achosion o ganser a gofnodwyd ar y gofrestrfa ganser fod â cham anhysbys am lawer o resymau: gallai cleifion fod yn rhy wael neu wrthod profion diagnostig i ganiatáu cadarnhau’r cam clinigol. Hefyd, efallai nad oes digon o ddata clinigol wedi’i sicrhau i allu nodi’r cam yn y gofrestr ganser. Hefyd, does dim modd adnabod y cam ym mhob math o ganser (lleiafrif).  Hefyd, ni ellir pennu cam ar gyfer lleiafswm o fathau o ganser.

Mae grwpiau cam adeg diagnosis yn yr adroddiad hwn yn cyfeirio at grwpiau cam TNM. Mae Dosbarthiad Tiwmorau Malaen TNM (TNM) yn safon a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer dosbarthu graddau lledaeniad canser. Mae categori T yn disgrifio safle a maint y tiwmor sylfaenol, mae categori N yn disgrifio ymglymiad nodau lymff rhanbarthol, mae categori M yn disgrifio presenoldeb neu ddiffyg lledaeniad metastatig pell. Ers 2018, mae’r mwyafrif o fathau o ganser yn cael eu graddio yn TNM fersiwn 8. Mae’r llwybr cenhedlol benywaidd hefyd yn defnyddio graddio FIGO a all, mewn rhai achosion, gael ei fapio i’r cam TNM (tiwmorau, nodau a metastasis). Gall newid mewn fersiwn TNM arwain at ailddosbarthiad amlwg rhwng grwpiau camau adeg ar gyfer rhai mathau o diwmor, er enghraifft, cyflwynwyd TNM fersiwn 7 yn 2016 a arweiniodd at gynnydd mewn canserau cam 1 a gostyngiad mewn cam 2 ar gyfer canserau’r prostad.

Ym mis Mawrth 2024, rhoddwyd newidiadau ar waith yn y gronfa ddata genedlaethol cofrestru canser i wella’r modd yr ymdrinnir â meysydd sy’n ymwneud â chamau. Y diweddariad allweddol oedd cyfuno’r meysydd STAGE_BEST a STAGE_PI_DETAIL yn un maes ar gyfer diagnosisau o 2013 ymlaen. Er mwyn sicrhau cysondeb yn y cam adrodd ar draws cyhoeddiadau’r DU, mae STAGE_BEST bellach ond yn cynnwys gwerth camau ar gyfer unrhyw dyfiant y gellir ei roi ar gam yn ôl Dangosyddion Perfformiad (DP) UKIACR. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, mae’n bosibl y bydd nifer fach o achosion a ymddangosodd yn y grwpiau cam 1-4 cyn hyn bellach yn ymddangos fel cam anhysbys. Cynghorir bod angen gofal wrth gymharu digwyddedd canser a goroesiad fesul cam mewn cyhoeddiadau cyn ac ar ôl Mawrth 2024.

Oherwydd problemau datgelu, dim ond ffigurau Cymru gyfan yn ôl cam yr ydym yn eu dangos ac rydym yn atal safleoedd canser sydd â chyfrifiadau â chyfrannau o 100% ar gyfer camau hysbys.

Mae cyflawnrwydd pennu cam y canser wedi gwella dros y blynyddoedd, felly fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth ddehongli dadansoddiadau cyfresi amser.

Effaith COVID-19

Oherwydd pandemig Covid-19, a ddechreuodd yn 2020, lluniwyd dadansoddiad ychwanegol ar gyfer yr holl ganserau yr adroddir arnynt yn y cyhoeddiad hwn, sy’n rhoi manylion am y modd y mae digwyddedd canser wedi newid rhwng 2018-2019 a’r blynyddoedd dilynol. 

Mae’r dadansoddiad hwn yn cymharu’r cyfrifiadau misol o ddigwyddedd canser o fis Ionawr i fis Rhagfyr 2020 ymlaen ar gyfer yr holl ganserau a ddadansoddwyd a chyfartaledd y cyfrifiadau misol ar gyfer 2018 a 2019. Mae cyfrifiadau cyfartalog ar gyfer mis Ebrill i fis Rhagfyr 2018 i 2019 a mis Ebrill i fis Rhagfyr y blynyddoedd dilynol hefyd ar gael.  Mae hyn yn caniatáu i ni gymharu’r cyfnod ar ôl cyflwyno cyfyngiadau Covid-19 am y tro cyntaf, pan amharwyd ar wasanaethau gofal iechyd arferol, a lefelau digwyddedd canser cyn-bandemig. 

Mae’r lefelau cyn y pandemig wedi’u nodi fel y digwyddedd ar gyfartaledd yn 2018 a 2019 ac mae lefelau’r pandemig yn cael eu nodi fel y digwyddedd yn ystod 2020. Mae cymharu’r ffigurau hyn yn rhoi trosolwg i ni o effaith pandemig COVID-19 ar gleifion canser a gwasanaethau canser yn gyffredinol.

Mae’r effaith ar gyfraddau net goroesi canser yng Nghymru yn llai syml. Mae’r tablau bywyd a gynhyrchwyd i gyfrif am farwolaethau cefndirol yn defnyddio data marwolaethau tair blynedd a data poblogaeth tair blynedd. Felly, oherwydd bod gan 2020 gyfradd marwolaethau anarferol o uchel oherwydd COVID-19, bydd unrhyw dabl bywyd sy’n cynnwys y flwyddyn honno yn cael ei effeithio. O ran diagnosisau yn 2019 a 2021, mae’n debygol y bydd goroesiad wedi’i oramcangyfrif ychydig, gan fod cynnwys data 2020 yn chwyddo marwolaethau cefndirol ac felly’n cynyddu nifer y marwolaethau a briodolir i achosion nad ydynt yn ganser. Mewn cyferbyniad, mae’n debygol y bydd goroesiad ar gyfer diagnosisau yn 2020 wedi’i danamcangyfrif ychydig, oherwydd bod y blynyddoedd dilynol (2019 a 2021) yn gwanhau’r marwolaethau uwch yn 2020 ac yn gwneud i farwolaethau cefndirol ymddangos yn is nag yr oeddynt mewn gwirionedd. Gweler adran tablau bywyd am ragor o wybodaeth am eu defnydd wrth ddadansoddi goroesiad.

Cymariaethau yn ôl awdurdodaeth y Deyrnas Unedig (DU)

Mae dangosydd ychwanegol wedi’i gynnwys yn yr Offeryn Adrodd ar Ganser sy’n caniatáu i gymariaethau gael eu gwneud yn y data digwyddedd canser, marwolaethau a goroesi ar ôl canser rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid yw’n bosibl cymharu rhai mathau o ganser oherwydd efallai na fydd cenedl yn adrodd ar y math hwnnw o ganser neu bydd yn defnyddio codau ICD-10 gwahanol i gategoreiddio lleoliad penodol. Mae’n bosibl hefyd na fydd rhai dadansoddiadau ar gael os nad oedd digon o bwyntiau data ar gyfer delweddu defnyddiol yn yr Offeryn Adrodd ar Ganser. Dim ond y mathau o ganser yr adroddir arnynt gan bob cenedl gan ddefnyddio’r un codau ICD-10 sydd ar gael i’w cymharu. Oherwydd gwahaniaethau mewn fersiynau codio a ddefnyddir ar draws gwahanol awdurdodaethau, byddwch yn ymwybodol na fydd modd cymharu rhai safleoedd yn llawn.

Mae cymariaethau o ddigwyddedd canser a marwolaethau yn ôl awdurdodaeth y DU ar gael ar gyfer cyfraddau Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran a blynyddoedd sengl o 2002 tan y flwyddyn ddata gymaradwy ddiweddaraf. Mae cymariaethau goroesi ar ôl canser yn ôl awdurdodaeth y DU ar gael ar gyfer y ganran goroesi net (%), ac amcangyfrifon goroesi blwyddyn a phum mlynedd trwy gyfnodau treigl o bum mlynedd o 2002-2006 tan y flwyddyn ddata gymaradwy ddiweddaraf.

Cyfrifir cyfraddau goroesi ar ôl canser gan ddefnyddio tablau bywyd i gyfrif am farwolaethau cefndirol (gweler adran tablau bywyd). Mae tablau bywyd yn unigryw i bob awdurdodaeth yn y DU. Felly, fe’ch cynghorir i fod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gyfer goroesi ar ôl canser.

I gael rhagor o wybodaeth am gymharedd a ffynonellau data’r DU, gweler adran cymharedd a chysondeb. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) i gytuno ar ddull safonol o gynhyrchu tablau bywyd, ac i gategoreiddio mathau o ganser gan ddefnyddio’r un codau ICD-10 er mwyn caniatáu mwy o ddadansoddi a chymariaethau rhwng cenhedloedd y DU.

Mesurau a Adroddir

Cyfrif

Y cyfrif mynychder yw nifer y diagnosis o ganser dros gyfnod penodol o amser. Y cyfrif marwolaeth yw nifer y marwolaethau wedi’u cofrestru â chanser yr adroddwyd amdanynt fel yr achos sylfaenol dros gyfnod penodol o amser.

Cyfraddau bras

Cyfradd fras yw nifer y digwyddiadau mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser, wedi ei mynegi’n aml fel nifer y digwyddiadau fesul 100,000 o’r boblogaeth.  Mae’r rhifiadur (nifer y digwyddiadau) a’r enwadur (amcangyfrif poblogaeth canol-blwyddyn) yn seiliedig ar yr un ardal ddaearyddol a’r un cyfnod o amser.

Diffinnir y gyfradd fras fel cyfanswm y cofrestriadau neu marwolaethau fesul 100,000 o’r boblogaeth, neu:

Cyfanswm y cofrestriadau neu marwolaethauCyfanswm y boblogaeth×100,000\frac{\text{Cyfanswm y cofrestriadau neu marwolaethau}}{\text{Cyfanswm y boblogaeth}} \times 100{,}000

Pan fo llai na thri digwyddiad, mae’r cyfraddau bras yn cael eu dal yn ôl.

Cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran

Mae mynychder a marwolaethau o ganser yn amrywio’n fawr gydag oedran. Felly mae angen rheoli gwahaniaethau yn strwythur oedran poblogaethau rhwng ardaloedd daearyddol neu dros amser er mwyn cymharu marwolaethau mewn ffordd ddiduedd. Mae safoni oedran yn caniatáu cymharu cyfraddau ar draws gwahanol boblogaethau wrth ystyried gwahanol strwythurau oedran y poblogaethau hynny.

Cyflawnir hyn trwy gymhwyso’r cyfraddau marwolaethau sy’n benodol i oedran a rhyw a arsylwir ar gyfer pob poblogaeth i boblogaeth safonol. Yna, cyfrifir y rhain i roi cyfradd gyffredinol am bob 100,000 o’r boblogaeth. Y boblogaeth safonol a ddefnyddir yma yw’r Boblogaeth Safonol Ewropeaidd (ESP) (Atodiad E). Mae’r cyhoeddiad hwn, ynghyd â holl gyhoeddiadau UGGCC ers mis Mehefin 2014 wedi defnyddio ESP 2013.

Er bod gan ESP 2013 gategorïau ar wahân ar gyfer oed 90-94 a 95+, mae UGGCC yn cyfuno’r rhain i un categori ar gyfer 90+. Mae hyn oherwydd nad yw data poblogaeth ar gael yn gyson ar gyfer y grŵp oedran 95+ ar gyfer pob blwyddyn neu ardal ddaearyddol. Cynhaliodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) astudiaeth yn edrych ar effaith defnyddio terfyn oedran uchaf 85+, 90+ neu 95+ ar gyfer cyfrifo cyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran ac ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraddau a gyfrifwyd gyda therfynau oedran uchaf o 90+ a 95+. Gan nad yw amcangyfrifon poblogaeth ar gael yn eang ar gyfer grŵp 95+ ar hyn o bryd, maent yn argymell defnyddio’r terfyn oedran uchaf o 90+ ar gyfer ESP 2013. 

Defnyddir terfyn oedran isaf o 0-4 oed ar gyfer yr holl gyfraddau Ewropeaidd wedi eu safoni yn ôl oedran yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn yn unol â’r cofrestrfeydd canser eraill yn y DU ac Iwerddon.

Ni chafodd cyfraddau wedi eu safoni yn ôl oedran eu cyfrifo os oedd llai na 10 digwyddiad.

Rhoddir y gyfradd mynychder wedi ei safoni yn uniongyrchol gan ddefnyddio’r
Boblogaeth Safonol Ewropeaidd trwy:

IASRE=kASRk×PkPk\text{I}\frac{\text{ASR}}{E} = \frac{\sum^{k} \text{ASR}_k \,\times P_k} {\sum P_k}

gyda:

  • ASRk=rkpk×100,000\text{ASR}_k = \frac{r_k}{p_k} \times 100{,}000 = y gyfradd achosion/marwolaethau a welwyd mewn grŵp oedran k
  • rkr_k = cofrestriadau mewn grŵp oedran k
  • pkp_k = poblogaeth mewn grŵp oedran k
  • kk = 0-4, 5-9, …, 85-89, a 90 oed a throsodd
  • PkP_k = poblogaeth safonol Ewropeaidd mewn grŵp oedran k

Mae dosbarthiad Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013 ar gael yn Atodiad E.

Cyfraddau sy’n benodol i oed

Cyfrifir cyfraddau penodol i oedran wrth adrodd ar ddigwyddedd canser a marwolaethau ar gyfer pob lleoliad a ddadansoddwyd.  Cyfradd sy’n benodol i oed yw nifer yr achosion sy’n digwydd mewn poblogaeth dros gyfnod penodol o amser o fewn grwpiau oedran penodol. Mae’r rhifiadur (nifer yr achosion) a’r enwadur (amcangyfrif poblogaeth canol-blwyddyn) yn seiliedig ar yr un ardal ddaearyddol a’r un cyfnod o amser.

Diffinnir y gyfradd sy’n benodol i oed fel cyfanswm y cofrestriadau fesul grŵp oedran fesul 100,000 o’r boblogaeth, neu:

Total registrations in a specified age groupTotal population of that age group×100,000\frac{\text{Total registrations in a specified age group}}{\text{Total population of that age group}} \times 100{,}000

Y grwpiau oedran sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad yw 0-54, 55-64, 65-74 a 75+.

Cyfrannau

Cyfrifir cyfrannau wrth adrodd ar cam adeg diagnosis. Dylai cyfanswm pob cam ddod i 1 ar gyfer pob safle canser a nodwyd.

Gall y cyfrannau gael gwerthoedd rhwng 0 ac 1, a’u diffinio fel a ganlyn:

  • Gyda rhifiadur lle mae pob unigolyn y mae’n hysbys eu bod yn yr enwadur wedi ei gyfrif unwaith neu ddim o gwbl
  • Gydag enwadur sydd wedi ei ddiffinio’n union ac yn hysbys, a lle mae pob unigolyn wedi ei gyfrif unwaith yn unig

Mewn enghreifftiau o’r fath, ystyrir yr enwadur i fod yn boblogaeth ‘gaeëdig’.

Mae dadansoddiad yn ôl cam adeg diagnosis yn cael ei arddangos fel canrannau yn y cynnyrch, gyda chyfrannau’n cael eu lluosi gyda 100 i’w trosi’n ganran.

Goroesi net (goroesi net heb ei safoni) 

Mae goroesi net (%) yn amcangyfrif o oroesi os yw effaith cyfraddau marwolaethau poblogaeth gefndir wedi cael ei dileu.  Gan fod cyfraddau marwolaeth poblogaeth gefndir, wedi eu cyflwyno mewn tabl bywyd, yn amcangyfrif da o gyfraddau marwolaethau nad ydynt yn ymwneud â chanser ymysg cleifion canser, mae goroesi net yn cynrychioli goroesiad cleifion canser sydd yn oedolion pe byddent ond yn gallu marw o achosion yn ymwneud â chanser.  Mae goroesi net yn addas ar gyfer cymharu goroesi rhwng cyfnodau a phoblogaethau gwahanol, gan fod effaith drysu cyfraddau marwolaeth nad ydynt oherwydd canser yn cael ei dileu. Ond, mae’r dadansoddiad yn sensitif i wahaniaethau mewn marwolaethau cefndirol rhwng poblogaethau. Gweler adran tablau bywyd am ragor o wybodaeth am sut mae tablau bywyd yn effeithio ar amcangyfrifon goroesi. Mae Pohar Perme (2012) yn rhoi manylion pellach am y dull goroesi net.

Goroesi net sy’n benodol i oed

Mae goroesi net sy’n benodol i oed (%) yr un peth ag uchod ond wedi ei gyflwyno yn ôl grwpiau oedran, a ddefnyddir i gyfrifo goroesi net wedi ei safoni yn ôl oed isod.  Gellir gweld y grwpiau oed a ddefnyddir yn Atodiad B.

Goroesi net wedi ei safoni yn ôl oed

Mae goroesi canser yn amrywio’n fawr gydag oed. Mae angen i wahaniaethau yn strwythur oed poblogaethau rhwng ardaloedd daearyddol neu dros amser felly gael eu rheoli i roi cymariaethau di-duedd o goroesi net. Mae safoni yn ôl oed yn galluogi cymharu cyfraddau ar draws poblogaethau gwahanol tra’n ystyried strwythurau oed gwahanol y poblogaethau hynny.

Mae goroesi net wedi ei safoni yn ôl oed (%) yn amcangyfrif fyddai’n digwydd pe byddai gan boblogaeth (o gleifion canser) strwythur oed sydd yn cyd-fynd â’r boblogaeth gyffredinol.  Mae defnyddio’r metrig yma yn galluogi cymhariaeth deg o’r cyfraddau ar draws rhanbarthau gwahanol yng Nghymru, gwledydd eraill yn y DU ac Ewrop, a rhwng cyfnodau amser gwahanol.  Mae amcangyfrifon goroesi ar gyfer pum grŵp oedran eang yn cael pwysoliadau safonol ac yn cael eu cyfansymio i amcangyfrif goroesi wedi ei safoni yn ôl oed (Corazziari et al., 2004). Mae Atodiad B yn rhoi manylion y pwysau a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o ganser.

Goroesiad a arsylwyd

Mae goroesiad a arsylwyd (%) yn amcangyfrif o’r tebygolrwydd y bydd claf yn fyw ar adeg benodol ar ôl cael diagnosis (Kaplan a Meier, 1958). Nid yw’n ystyried achos marwolaeth, ac felly’n darparu prognosis cyffredinol bras o bob achos marwolaeth posibl. Mae dull Kaplan-Meier yn ddull nad yw’n barametrig a ddefnyddir i amcangyfrif goroesiad a arsylwyd. Ar gyfer pob cyfnod amser, cyfrifir goroesiad a arsylwyd (%) fel nifer y rhai sy’n goroesi wedi’i rannu â nifer y cleifion sy’n wynebu risg.

Cyfyngau hyder

Mae cyfyngau hyder yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â cyfraddau wedi’u safoni yn ôl oedran, ffigurau sy’n benodol i oed, a ffigurau goroesi. Mae cyfyngau hyder yn arwydd o’r amrywiad naturiol a ddisgwylir ynghylch amcangyfrif a dylid eu hystyried wrth asesu neu ddehongli amcangyfrif.  Mae maint y cyfwng hyder yn dibynnu ar nifer y digwyddiadau a maint y boblogaeth y deilliodd y digwyddiadau ohoni.  Yn gyffredinol, mae amcangyfrifon yn seiliedig ar nifer fach o ddigwyddiadau a phoblogaethau bach yn debygol o fod â chyfyngau hyder ehangach.  I’r gwrthwyneb, mae amcangyfrifon yn seiliedig ar boblogaethau mawr yn debygol o fod â chyfyngau hyder mwy cul.

Yn y cyhoeddiad hwn, rydym yn cyfrifo cyfyngau hyder o 95 y cant.  Mae hyn yn cynrychioli ystod o werthoedd y gallwn fod 95 y cant yn hyderus eu bod yn cynnwys yr amcangyfrif sylfaenol ‘gwirioneddol’.

Mae cyfyngau hyder a gyfrifir ochr yn ochr ag EASR yn defnyddio’r dull dosbarthu gama wedi’i addasu gan Tiwari, R.C. et al. (2006). Mae hwn yn addasiad o’r fformiwla ar gyfer terfyn hyder uchaf y cyfyngau hyder gwreiddiol ar gyfer cyfraddau wedi eu safoni’n uniongyrchol yn seiliedig ar y dosbarthiad gama, fel y cynigir gan Fay a Feuer (1997). Cyflwynir cyfyngau hyder ynghyd â chyfrannau gan ddefnyddio dull a gynigir gan Wilson, E.B. et al. (1927).

Gwneir cymariaethau yn aml rhwng dau amcangyfrif neu fwy, er enghraifft rhwng ardaloedd neu gyfnodau amser gwahanol (Ffigur 2).  Weithiau mewn achosion o’r fath cynhelir profion ystadegol trwy gymharu cyfyngau hyder yr amcangyfrifon i weld a ydynt yn gorgyffwrdd.  Mae cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn cael eu hystyried yn arwyddocaol wahanol yn ystadegol.  Er ei fod yn ddiogel cymryd bod cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn dangos gwahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol, nid yw bob amser yn wir nad yw cyfyngau hyder sydd yn gorgyffwrdd yn gwneud hynny.  Ymagwedd mwy union gywir yw cyfrifo cymhareb y ddau amcangyfrif, neu’r gwahaniaeth rhyngddynt, a llunio prawf neu cyfwng hyder yn seiliedig ar yr ystadegyn hwnnw.  Nid yw dulliau o’r fath wedi eu cynnwys yn y canllaw technegol hwn, ond gellir dod o hyd iddynt mewn gwerslyfr safonol.

Ffigur 2: Defnyddio cyfyngau hyder ar gyfer gwneud cymariaethau

Ystyrir cyfyngau hyder nad ydynt yn gorgyffwrdd yn ystadegol arwyddocaol. Nid yw gorgyffwrdd cyfyngau hyder bob amser yn dangos gwahaniaeth nad yw'n ystadegol arwyddocaol.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn nodi a yw ffigur bwrdd iechyd yn arwyddocaol wahanol o’i gymharu â ffigur Cymru, ar gyfer math o ganser, rhyw a chyfnod o amser.  Yn yr achos hwn, nodir gwahaniaeth arwyddocaol yn ôl a yw’r cyfyngau hyder ar gyfer yr ardal benodol yn gorgyffwrdd â’r cyfyngau hyder o amgylch amcangyfrif Cymru ar gyfer y math o ganser, rhyw a’r cyfnod o amser.

Poblogaethau

Defnyddir amcangyfrifon poblogaethau canol-blwyddyn SYG o’r cyfnodau amser perthnasol fel yr enwadur ar gyfer cyfrifiadau cyfraddau. Mae canllawiau llawn ar y fethodoleg a ddefnyddir gan y SYG i gyfrifo amcangyfrifon poblogaeth ar gael yma.

Mae pob cyhoeddiad diweddar yn defnyddio amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu yn ôl LSOA o ganol 2011 hyd at y flwyddyn adrodd ddiweddaraf fel yr enwadur ar gyfer y dadansoddiad daearyddol i gyd-fynd â Chyfrifiad 2021. Mae manylion am ailsylfaenu amcangyfrifon canol blwyddyn ar gael yma. Mae’r dadansoddiad a gyflwynwyd ar gyfer 2002-2010 yn defnyddio amcangyfrifon poblogaeth yn ôl LSOA fel yr enwadur ar gyfer y dadansoddiad daearyddol i gyd-fynd â Chyfrifiad 2011.

O ran marwolaethau, nid oedd amcangyfrifon poblogaeth yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ar gyfer canol 2023 a chanol 2024 ar gael adeg y dadansoddi, felly defnyddiwyd poblogaethau 2022 fel procsi ar gyfer 2023 a 2024 a’r dadansoddiad.

Setiau data a dadansoddi

Cynhaliwyd yr holl ddadansoddiadau trwy ddefnyddio piblinellau dadansoddol atgynhyrchadwy yn R. Cynhaliwyd y dadansoddiadau hyn o dan y fersiynau canlynol: 

  • Dadansoddiad mynychder – 4.4.0
  • Dadansoddiad marwolaethau – 4.2.2
  • Dadansoddia goroesi – 4.4.1

Crëwyd y proffil rhyngweithiol, ‘Offeryn Adrodd Canser,’ gan ddefnyddio fersiwn RShiny 2022.07.2 + 576 a’i gyhoeddi trwy shinyapps.io.

Cymerir cipluniau data a’u dadansoddi ar gyfer pob cyhoeddiad Ystadegau Swyddogol a gynhyrchir gan yr UGGCC.

Cafodd y ciplun Ystadegau Swyddogol o gronfa ddata cofrestru canser ar gyfer goroesiad ei wneud ym mis Gorffenaf 2025 a’i olrhain hyd at 5 Ebrill 2025.

Mae’r ciplun o gronfa ddata cofrestru canser ar gyfer ystadegau digwyddedd yn cwmpasu data o 2011 ymlaen, tra bod set ddata wedi’i rhewi yn cael ei defnyddio ar gyfer y blynyddoedd 2002-2010 (a gymerwyd ym mis Mehefin 2024) oherwydd gwahaniaethau mewn ffiniau daearyddol dros amser. Tynnwyd y ciplun ar gyfer y cyhoeddiad diweddaraf am ddigwyddedd canser ym mis Gorffennaf 2025.

Ar gyfer ystadegau marwolaethau, defnyddiwyd ciplun o’r set ddata wythnosol (a gymerwyd ar 19 Mai 2025) sy’n cynnwys marwolaethau a gofrestrwyd yng Nghymru a gyflenwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) – lle mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn darparu’r cipluniau wythnosol o’r data. Roedd hyn er mwyn galluogi cysylltiad â phoblogaethau Cyfrifiad 21 wedi’u hailsylfaenu. Yn flaenorol, defnyddiwyd set ddata flynyddol ‘wedi’i rhewi’.

Perthnasedd

Awdurdodir rhyddhau ystadegau swyddogol gan UGGCC yn ôl y gyfraith trwy’r canlynol:

  • Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol Cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009
  • Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 a wnaed o dan adran 65(7) o Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Chofrestru 2007

Rydym yn credu mai prif ddefnyddwyr ystadegau yn ymwneud â marwolaethau canser yw:

  • Y cyhoedd a grwpiau cymunedol
  • GIG Cymru gyfan, a Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau, a Grŵp Gweithredu Canser GIG Cymru a Rhwydwaith Canser Cymru, yn ogystal â thimau eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff cyhoeddus cenedlaethol a lleol eraill
  • Cyrff proffesiynol, clinigwyr o bob disgyblaeth, a llunwyr polisi
  • Ysgrifennydd y Cabinet, Gweinidogion a’u gweision sifil
  • Adrannau eraill y llywodraeth
  • Aelodau’r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau
  • Y Trydydd Sector ac Elusennau
  • Y Cyfryngau
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion – i ddarparu data cyfeirio gwerthfawr ar gyfer academyddion ac ymchwilwyr i ymgysylltu ag ymchwil yn ymwneud â 
    chanser, yn cynnwys cyfranogiad uniongyrchol UGGCC mewn cydweithrediadau ymchwil
  • Y sector preifat

Rydym yn annog defnyddwyr yr ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod i ni sut maent yn defnyddio’r data. Gweler y manylion cyswllt ar dudalen 1 y ddogfen hon. Dylid cydnabod Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru os ydych yn atgynhyrchu deunydd yn y ddogfen hon neu gynnyrch ategol.

Cywirdeb

Cofrestru achosion o ganser

Mae cofrestru achosion o ganser yn broses ddeinamig o ran bod y gronfa ddata bob amser ar agor ac yn newid.  Mae’r gronfa ddata yn ddeinamig mewn nifer o ffyrdd:

  • Bydd achosion newydd o ganser yn cael eu cofrestru: gall hyn gynnwys cofrestriadau “hwyr” newydd, lle mae achos yn cael ei gofrestru ar ôl i’r gofrestrfa ganser gyhoeddi’r hyn yr oeddent yn credu ar y pryd oedd y canlyniadau cymharol gyflawn ar gyfer blwyddyn benodol
  • Gellir diwygio cofnodion canser: er enghraifft byddai côd y safle’n cael ei addasu os oes gwybodaeth ddiweddarach, mwy cywir yn dod ar gael
  • Gellir dileu cofnodion canser, er bod hyn yn gymharol anarferol

Yn debyg i gofrestrfeydd canser mewn gwledydd eraill, gall cofrestriadau canser yng Nghymru gymryd hyd at bum mlynedd ar ôl diwedd blwyddyn galendr benodol i gyrraedd cyflawnder o 100%, oherwydd croniad parhaus cofrestriadau hwyr, diwygiadau a dileu.

Rhoddodd Gymru system cofrestru canser newydd o’r enw CATRIN ar waith yn 2015.  Mae hyn yr un fath â’r system ENCORE a ddefnyddir yn GIG Lloegr (a elwid gynt yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr), sydd â dilysiadau cofrestru mewnol. Mae’r rhaglen foderneiddio hon wedi gwella rhannu data ar draws ffiniau yn arbennig.  Rhoddodd y broses symud data bwyslais penodol ar leihau dyblygu cofrestriadau oedd yn bodoli yng nghronfeydd data cofrestrfeydd Cymru a Lloegr.  Cynhaliwyd ymarfer sicrhau ansawdd a dad-ddyblygu i resymoli’r cofrestriadau canser ar draws y ddwy wlad.  Felly, gallai hyn ddangos gostyngiad mewn mynychder.

Cyflenwir data gan nifer o ddarparwyr data o Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru, IGDC (a elwid gynt yn Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru), GIG Lloegr, ac adrannau eraill o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel ei Adran Sgrinio. Mae cofrestrfa genedlaethol canser Cymru yn gronfa ddata fyw a deinamig o ddata digwyddedd canser o 1972 ymlaen, gyda thua 20,000 o gleifion yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru (ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma).  

Mae cofrestriadau canser yn cydymffurfio â fframwaith sicrwydd ansawdd sydd yn cynnwys cyfres o wiriadau ansawdd a gynhelir ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn gofrestru e.e. misol, gwiriadau chwarterol a diwedd blwyddyn.  Mae’r rhain yn gwirio cysondeb data y safle canser, rhyw a histoleg cysylltiedig yn ogystal â gwiriadau dilysrwydd dyddiadau, er enghraifft, i wirio cyfuniadau annilys ar gyfer ymddygiad a safle/histoleg; sicrhau nad yw dyddiad mynychder ar ôl dyddiad y farwolaeth.  Mae’r gwiriadau hyn yn cyd-fynd â’r rheiny a gyhoeddwyd yn 2018 gan y Rhwydwaith Cofrestrfeydd Canser Ewropeaidd (ENCR).

Mae ein holl gynnyrch yn cynnwys gwybodaeth am gwmpas, amseru a daearyddiaeth.

Unwaith y mae’r cofnodion canser disgwyliedig ar gyfer unrhyw flwyddyn gofrestru wedi cael eu dilysu, cymerir cipolwg o’r data er mwyn sicrhau bod set gyson o ddata y tu ôl i’r ystadegau swyddogol am gyfnod o 12 mis.  Cymerir cipolwg dilynol o’r data yn fisol a gellir ei ddefnyddio mewn cyhoeddiadau canser pellach, ymholiadau a chwestiynau seneddol. I gael gwybodaeth am y cipluniau a ddefnyddiwyd yn ein cyhoeddiadau Ystadegau Swyddogol mwyaf cyfredol, gweler adran setiau data a dadansoddi.

Pan fydd UGGCC yn cyflwyno cofrestriadau ar gyfer y flwyddyn adrodd nesaf, gallant hefyd gyflwyno “cofrestriadau hwyr” ar gyfer blynyddoedd blaenorol.  Os yw unrhyw gofrestriadau “hwyr” ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi llwyddo yn yr holl wiriadau ansawdd, byddent yn cael eu cynnwys yn y set ddata ddiwygiedig o ganlyniad.  Mae hyn yn arwain at wahaniaethau bach yn nifer sylfaenol y cofrestriadau canser ar gyfer adroddiadau blaenorol, er nad yw’r newidiadau hyn yn debygol o gael effaith ystyrlon ar fynychder canser.

Gan fod y data yn dod o wahanol ffynonellau, gall ansawdd a chywirdeb y data a gyflwynir amrywio.

Newidiadau i system godio ICD-10

Mae codio ICD-10 am ganser yn seiliedig ar natur a safle anatomegol y canser. Mae cyhoeddiadau blaenorol o ystadegau swyddogol wedi’u mapio i ac yn adrodd ar ICD-10v0 ar gyfer pob blwyddyn ddiagnosis. Fodd bynnag, bydd cyhoeddiad eleni yn adrodd ar ICD-10v0 ar gyfer diagnosio blynyddoedd 2001 i 2012, a ICD-10v4 o 2013 ymlaen.

Bu newidiadau a diwygiadau yn ymwneud â chodio rhai canserau gan ddefnyddio ICD-10v4, megis cyflwyno codau diagnosis newydd ynghyd â mân newidiadau i rai disgrifiadau o ganser a chonfensiynau enwi. Bu rhagor o newidiadau arwyddocaol yn ymwneud â chodio canserau’r gwaed, yn bennaf bod lymffoma nad yw’n Hodgkins a lewcemia yn cael eu codio yn fanylach.Felly, argymhellir bod yn ofalus wrth archwilio tueddiadau ar gyfer safleoedd hyn yn ogystal â safleoedd heb darddiad hysbys neu benodol. Dylid hefyd ystyried y newid mewn adrodd ar ICD-10 o 2013 ymlaen wrth archwilio data.

Morffoleg a chodau ymddygiad

Mae codau morffoleg ac ymddygiad yn disgrifio nodweddion a math o gelloedd canser a sut maen nhw’n ymddwyn. O 2016 ymlaen, mae Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (UGGCC) wedi codio morffoleg yn ICD-O3. Cyn hyn, roedd codio yn defnyddio ICD-O2. Mae mapio wedi’i ddatblygu a’i gymhwyso i achosion cyn 2016 er mwyn pennu’r forffoleg ICD-O3 cyfatebol i sicrhau cysondeb. Ni fu’n bosibl mapio nifer fach o achosion. Rydym yn ymchwilio i’r achosion hyn ac yn datblygu offer i’w cynnwys yn y dyfodol.

Data SYG

Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru marwolaeth ac felly mae data marwolaethau’r SYG yn darparu ffynhonnell ddata ddibynadwy a chyflawn.

Cafwyd dau ddiwygiad diweddar i’r modd y mae’r tystysgrifau marwolaeth yn cael eu cyfieithu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i godau Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau (10fed diwygiad). Mae’r newidiadau hyn yn golygu nad oes modd cymharu data heb eu diwygio ar draws y blynyddoedd. Mae’r prif newid yn ymwneud â’r rheolau sy’n rheoli pa achos marwolaeth a nodir ar y dystysgrif marwolaeth a ddewisir fel yr achos sylfaenol. Ni ddefnyddiwyd cymarebau cyffelybrwydd yn y dadansoddiadau hyn ac felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau.

Tablau bywyd

Mae dadansoddiad goroesi yn amcangyfrif goroesiad net (%) cleifion â chanser. Mae’r ffigurau goroesi hyn wedi’u defnyddio i gynhyrchu amcangyfrifon heb eu safoni a amcangyfrifon wedi’u safoni yn ôl oedran. Mae’r model yn defnyddio tablau bywyd poblogaeth i ddileu marwolaethau cefndir, ac yn cymryd yn ganiataol mai canser sy’n gyfrifol am weddill y marwolaethau.

Mae dadansoddiad goroesi net yn cymharu goroesiad cleifion â chanser gyda marwolaethau cefndirol (goroesiad y boblogaeth gyffredinol). Am resymau ymarferoldeb, mae ein data marwolaethau cefndirol yn cynnwys marwolaethau canser. Mae’n annhebygol fydd hyn yn gwyro ein ffigurau goroesi net ar gyfer safleoedd canser penodol, ond mae’n debygol i gael effaith ar farwolaethau o bob canser, oherwydd fod canser yn cyfri am tua chwarter yr holl farwolaethau. Am y rheswm hwnnw, fe’ch cynghorir i fod yn wyliadwrus wrth ddehongli goroesiad ar gyfer pob canser gyda’i gilydd, a dylid canolbwyntio ar y newid dros amser yn hytrach na’r amcangyfrif goroesi.

Datblygwyd y tablau bywyd a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn yn fewnol a’u modelu gan ddefnyddio model Poisson hyblyg.  Mae’r tablau bywyd wedi’u modelu yn defnyddio tair blynedd o ddata marwolaethau a thair blynedd o ddata poblogaeth sy’n canolbwyntio ar y flwyddyn o ddiddordeb wrth ddadansoddi.  Roedd y fethodoleg hon yn seiliedig ar bapur Rachet et al. (2015) ac mae Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) yn cynhyrchu Gweithdrefn Gweithredu Safonol ar hyn o bryd.

Methodoleg

Methodoleg gyffredinol

Yn y dadansoddiad hwn, mae’r fethodoleg ar gyfer llunio tablau bywyd wedi’i mireinio i gynnwys pumedau amddifadedd fel cyd-newidyn ym model hyblyg Poisson, ag effaith rhyngweithio rhwng oedran ac amddifadedd. Mae hyn yn cynrychioli newid i ddull y llynedd, lle gosodwyd modelau ar wahân ar gyfer pob cyfuniad o flwyddyn, rhywedd, a pumedau amddifadedd. Mae’r dull presennol yn caniatáu ar gyfer benthyca gwybodaeth ar draws is-grwpiau, sy’n arbennig o fuddiol i grwpiau â maint poblogaeth bach a allent, fel arall, ddangos amcangyfrifon cyfnewidiol yn y gyfradd marwolaethau. Mae cynnwys term rhyngweithio ar gyfer oedran * amddifadedd yn galluogi i effaith amddifadedd ar farwolaethau amrywio yn ôl oedran. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod y model yn dal y berthynas gymhleth rhwng amddifadedd a marwolaethau ar hyd cwrs bywyd.

Modelu cyd-newidynnau

Ar gyfer prif effaith oedran ar farwolaethau, dewiswyd y ffurf sblein ciwbig fwyaf addas ar oedran yn seiliedig ar Faen Prawf Gwybodaeth Akaike (AIC) ac asesiadau gweledol o addasrwydd y model. Ystyriodd y model ddatrysiadau 7-dolen, 8-dolen, a 9-dolen, a rhai dolenni wedi’u gosod ar oedrannau allweddol ac eraill wedi’u pennu drwy efelychu nifer o ffurfweddau posibl.

Ar gyfer y term rhyngweithio oedran * amddifadedd, gwnaethom asesu modelau gan ddefnyddio ffurf linellol syml ar oedran, yn ogystal â sbleiniau ciwbig 3-dolen a 4-dolen. Dewiswyd y dull mwyaf addas trwy ddefnyddio AIC.

Defnyddiwyd modelau ar wahân ar gyfer pob cyfuniad o flwyddyn a rhywedd i gyfrif am wahaniaethau penodol i le a rhywedd o ran marwolaethau.

Trin data marwolaethau ar gyfer pobl 90+ oed

Yn y set ddata a ddefnyddir ar gyfer modelu (sy’n cynnwys cyfrif poblogaeth grai a marwolaethau wedi’u haenu yn ôl blwyddyn, rhywedd, pumedau amddifadedd, ac oedran), ni ddarperir data marwolaethau ar gyfer unigolion dros 90 oed mewn cynyddrannau un-flwyddyn. Yn lle hynny, mae cyfanswm y marwolaethau ar gyfer pob unigolyn 90+ oed yn cael ei roi, tra bo’r amcangyfrifon poblogaeth yn parhau i fod ar gael ar gyfer pob blwyddyn oed unigol.

I fynd i’r afael â hyn, rydym yn amcangyfrif canolrif oedran marwolaethau ar gyfer unigolion dros 90 oed ac yn cymhwyso’r gyfradd marwolaethau 90+ gyfansymiol i’r oedran penodol hwn. Gan fod ein model yn casglu tueddiadau marwolaethau sy’n benodol i amddifadedd y tu hwnt i’r canolrif oedran hwn, ac o ystyried bod anghydraddoldebau amddifadedd mewn marwolaethau yn tueddu i leihau ymhlith pobl hŷn, gall y dull hwn weithiau arwain at orgyffwrdd mewn cyfraddau marwolaeth yn yr ystod oedran uwch (tua 93-99 oed). Er mwyn lliniaru hyn, cyfyngwyd y model a oedd yn cynnwys amddifadedd i 89 oed, ac o 90 oed ymlaen, cafodd model a oedd yn cynnwys oedran yn unig ei ddefnyddio. Yna cymhwyswyd y gyfradd newid benodol i oedran ganlyniadol i bob pumedau amddifadedd o’u cyfraddau marwolaethau 89 oed, gan osod anghydraddoldebau amddifadedd i bob pwrpas ar 89 oed. 

Gellir gweld effaith Covid-19 ar gyfer cyfnodau diagnosis gan gynnwys 2019 ymlaen o ran goroesi am flwyddyn, 2015 ymlaen ar gyfer goroesi am bum mlynedd a 2010 ymlaen ar gyfer goroesi am ddeng mlynedd. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio tablau bywyd wedi’u modelu a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad ydynt yn rhoi cyfrif llawn am newidiadau mewn marwolaethau cefndirol oherwydd pandemig Covid.

Oherwydd argaeledd data ar gyfer poblogaethau ardaloedd bach ar adeg cyhoeddi, mae cleifion canser a gafodd ddiagnosis yn 2002 yn defnyddio tabl bywyd 2002-2004. O ganlyniad i ddefnyddio tablau oes cyfartalog treigl tair blynedd, mae goroesi ar gyfer diagnosisau yn 2019 a 2021 yn debygol o fod wedi’i oramcangyfrif ychydig (gan fod marwolaethau cefndirol yn uwch yn 2020 oherwydd y pandemig) ac mae goroesiad ar gyfer diagnosisau yn 2020 yn debygol o fod wedi’i danamcangyfrif (gan fod marwolaethau 2019 a 2021 yn rhan o farwolaethau cefndirol ar gyfer y garfan hon).  Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried dulliau o addasu ar gyfer y materion hyn, ac yn bwriadu rhoi’r rhain ar waith mewn dadansoddiadau yn y dyfodol.  Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod cysondeb mewn methodoleg yn bwysig er mwyn cymharu ar draws blynyddoedd a rhwng blynyddoedd, felly mae’r cyfnodau treigl tair blynedd ar gyfer tablau bywyd wedi’u cynnal.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r holl gynnyrch yn cydymffurfio â’r Côd Ymarfer trwy gyhoeddi’r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw trwy’r calendr i ddod ar dudalen Ystadegau ac ymchwil Llywodraeth Cymru.  Yn ogystal, os oes angen gohirio’r cyhoeddiad, caiff hwn ei gyhoeddi a bydd y rheswm dros y newid yn cael ei esbonio’n llawn, fel y nodir yn y Côd Ymarfer.

Mynychder a Goroesi

Yn hanesyddol, mae’r UGGCC wedi cyhoeddi data fel mater o drefn ar ddiagnosis newydd o ganser (mynychder) o fewn 18 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr gyda chyhoeddiad goroesi yn dilyn.  Mae’r cyfnod o amser yn rhoi cyfrif am gwblhau’r data a’r data’n dod ar gael, yr amser a gymerir i brosesu ac uno’r holl gofrestriadau canser ar gyfer y cleifion hynny sy’n preswylio yng Nghymru yn un cofnod ar gyfer pob tiwmor gan ddefnyddio’r ffynonellau data a ddarperir i’r UGGCC, yn unol â rheolau a chanllawiau codio, dosbarthu a chyfnod.

Hygyrchedd ac eglurder

Bydd yr ystadegau’n cael eu cyhoeddi mewn modd hygyrch, trefnus wedi ei chyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru am 9:30am ar y dyddiad cyhoeddi. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r cynnyrch ar cyfryngau cymdeithasol ac i’n rhanddeiliaid trwy e-bost. Mae’r holl gynnyrch ar gael ac yn rhad ac am ddim i’w lawrlwytho, ond nodwch ni chyfrifwyd rhai dadansoddiadau.

Mae’r Ystadegau Swyddogol ar gyfer yn cael eu hanfon at nifer o bobl unigol ar y rhestr cyn cyhoeddi bum niwrnod gwaith cyn y cyhoeddiad yn unol â Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.  Mae’r unigolion ar y rhestr cyn cyhoeddi ar dudalen y cyhoeddiad.

Ein nod yw defnyddio Saesneg/Cymraeg clir yn ein cynnyrch a’u bod yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn ogystal, mae’r ystadegau i gyd yn cael
eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy anfon e-bost at [email protected].

Cymharedd a chysondeb

Er nad yw UGGCC yn cadw data marwolaethau canser am breswylwyr yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr, gellir cael data cymharol o’r canlynol:

Gellir dod o hyd i fanylion cofrestrfeydd canser yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar wefan Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon

Am ddata marwolaeth cymharol mae’r cymariaethau rhyngwladol diweddaraf ar gael yn Canser mewn Pum Cyfandir .

Oherwydd gwahaniaethau yn y tablau bywyd rhwng gwahanol gofrestrfeydd canser, rydym yn cynghori i beidio â gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng gwahanol awdurdodaethau’r DU. Rydym yn gweithio gyda chofrestrfeydd eraill i wella cymaroldeb. Yn y cyfamser, mae’r astudiaethau Ewropeaidd/byd yn addas ar gyfer cymariaethau rhwng gwahanol awdurdodaethau’r DU gan y defnyddiwyd yr un fethodoleg, fodd bynnag nid oes data ar gyfer cyfnodau diweddar ar gael eto (Eurocare).

Mae UGGCC ar hyn o bryd yn llunio dangosyddion perfformiad 2020 UKIACR. Ceir mwy o wybodaeth yn ymwneud â chyflawnder data ac ansawdd data cofrestru canser yn adroddiadau dangosyddion perfformiad UKIACR.

Deddfwriaeth

Yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data, mae prosesu data cleifion/defnyddwyr gwasanaeth yn gyfreithlon at ddibenion ar wahân i’r hyn sydd yn angenrheidiol ar gyfer darparu gofal yn uniongyrchol yn gofyn am fodloni’r amodau canlynol:

  • Cydsyniad penodol y claf/defnyddiwr y gwasanaeth ar gyfer prosesu
  • Awdurdodiad penodol yn ôl statud
  • Cymeradwyaeth yn unol ag Adran 251 o Ddeddf y GIG 2006

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal nifer o weithgareddau na ellir eu dosbarthu fel gofal uniongyrchol, ond lle byddai cael cydsyniad penodol yn anymarferol neu byddai’n peryglu integredd y gweithgaredd perthnasol.  Dyma rai enghreifftiau:

  • Gwerthuso rhaglenni sgrinio
  • Cofrestru canser
  • Cofrestru anomaleddau cynhenid

Yr hyn a elwir yn gymeradwyaeth ‘Adran 251’, felly, yw’r dull mwyaf priodol o hyd o sicrhau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data wrth gynnal prosesu o’r fath. Mae angen cael cymeradwyaeth o’r fath ar gyfer gweithgareddau newydd a’i hadnewyddu’n flynyddol ar gyfer gweithgareddau presennol. Mae angen cael cymeradwyaeth o’r fath ar gyfer gweithgareddau newydd a’i hadnewyddu’n flynyddol ar gyfer gweithgareddau presennol.

Cafodd Adran 251 ei sefydlu i roi sylfaen gyfreithiol ddiogel ar gyfer datgelu a phrosesu gwybodaeth gyfrinachol yn y GIG lle nad yw’n bosibl defnyddio gwybodaeth ddienw na chael cydsyniad penodol.  Sefydlwyd dull o alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd i ymarfer pwerau cymeradwyo yn unol ag Adran 251, a gynghorwyd gan y Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol (NIGB) a’i Bwyllgor Moeseg a Chyfrinachedd (ECC).  Mae’r dulliau a weithredwyd gan NIGB a’i ECC hefyd yn berthnasol i Gymru.

Yn unol â’r Rheoleiddiad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), rydym yn dilyn: 

  • Erthygl 6 (1) e – mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i’r rheolwr
  • Erthygl 9 (2) h – mae prosesu yn angenrheidiol at ddibenion meddyginiaeth ataliol neu alwedigaethol, ar gyfer asesu gallu’r cyflogai i weithio, diagnosis meddygol, darparu gofal iechyd neu gymdeithasol neu drin neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd neu 
    ofal cymdeithasol ar sail cyfraith Undeb neu Aelod-wladwriaeth neu yn unol â chontract gyda gweithiwr iechyd proffesiynol ac yn gaeth i’r amodau a’r amddiffyniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.

Mae’r prif bolisi ar ganser yng Nghymru wedi ei nodi gan Rhwydwaith Canser Cymru yn Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser 2023 – 2026.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Mae’r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iachach a mwy cyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Yn unol ag adran (10) (1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau Llesiant
  • Cyflwyno copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Nodwyd y 46 dangosydd cenedlaethol ym mis Mawrth 2016

Gwybodaeth am ddangosyddion a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig – Sut ydych yn mesur cynnydd cenedl? – Dangosyddion Cenedlaethol

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Mae UGGCC yn cydymffurfio â chanllawiau niferoedd bach Cymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) ar gyfer nifer yr achosion o ganser; h.y. os yw’r cyfrifiad achosion canser o lai na phump yn cael ei arsylwi mewn unrhyw gell gyda’r boblogaeth mewn perygl o fod yn llai na 1,000, yna mae’r gwerth yn cael ei atal. Mae UGGCC hefyd yn cydymffurfio â chanllawiau rheoli datgeliad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau marwolaethau.

Rhestr Termau

  • ALl – Awdurdod lleol
  • ASR – Cyfradd sy’n benodol i oed
  • BI – Bwrdd iechyd
  • CCNF – Canser y croen nad yw’n felanoma
  • EASR – Cyfradd wedi ei safoni yn ôl oedran Ewropeaidd
  • ECC – Pwyllgor Moeseg a Chyfrinachedd
  • ENCR – Rhwydwaith Cofrestrfeydd Canser Ewropeaidd
  • ESP – Poblogaeth safonol Ewropeaidd
  • FIGO – Ffederasiwn Rhyngwladol Gynaecoleg ac Obstetreg
  • GDPR – Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
  • GIG – Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • ICC – Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • ICD – Dosbarthiad Rhyngwladol o Glefydau
  • ICSS – Dosbarthiad rhyngwladol o bwysoliadau safonol
  • IGDC – Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • LSOA – Ardal gynnyrch ehangach haen is
  • LlC – Llywodraeth Cymru
  • MALlC – Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • MYE – Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn
  • NDRS – Y Gwasanaeth Cofrestru Clefydau Cenedlaethol
  • NIGB – Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cenedlaethol
  • SYG – Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • TDAC – Tîm Dadansoddi yr Arsyllfa a Canser
  • TNM – Tiwmorau (T), nodau (N) a metastasis (M)
  • UGGCC – Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
  • UICC – Undeb ar gyfer Rheoli Canser yn Rhyngwladol
  • UKIACR – Cymdeithas Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon
  • WHO – Sefydliad Iechyd y Byd
  • WLIMS – Systemau Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru

Atodiad A

Map math o ganser 1: Canserau malaen

Map math o ganser 1: Canserau malaen

Map math o ganser 2: Neoplasmau niwroendocrin (NEN) – yn cynnwys canser yr ysgyfaint celloedd bach o’r rhestr uchod

Map math o ganser 2: Neoplasmau niwroendocrin (NEN) - yn cynnwys canser yr ysgyfaint celloedd bach o'r rhestr uchod

Map math o ganser 3: Canserau anfalaen ac ansicr

Map math o ganser 3: Canserau anfalaen ac ansicr

Map math o ganser 4: Canserau y gellir pennu cam iddynt

Map math o ganser 4: Canserau y gellir pennu cam iddynt

Atodiad B

Dosbarthiad Rhyngwladol o Bwysoliadau Safonol (ICSS)

Band oedran ICSS1 ICSS2 ICSS3 Band oedran Prostad
15-44 oed 7000 28000 60000 15-54 oed 19000
45-54 oed 12000 17000 10000 55-64 oed 23000
55-64 oed 23000 21000 10000 65-74 oed 29000
65-74 oed 29000 20000 10000 75-84 oed 23478
75-99 oed 29000 14000 10000 85-99 oed 5522
15-99 oed 100000 100000 100000 15-99 oed 100000

ICSS1: Canser y wefus, tafod, chwrennau poer, ceudod y geg, oroffaryncs, hypoffaryncs, y pen a’r gwddf, oesoffagws, stumog, coluddyn bach, colon, rectwm, iau, piben y bustl, pancreas, ceudod y trwyn, laryncs, ysgyfaint, pilen yr ysgyfaint, y fron, corpus uteri, ofari, fagina a’r fwlfa, penis, pledren, aren, choroid melanoma, lymffomas nad ydynt yn Hodgkin, myeloma lluosog, lewcemia myeloid aciwt, lewcemia myeloid cronig, lewcemia, pob canser

ICSS2: Nasoffaryncs, meinweoedd meddal, melanoma, cervix uteri, ymennydd, chwaren thyroid, esgyrn

Ar gyfer canserau’r esgyrn, mae Corazziari et al. (2004) yn argymell defnyddio oedrannau 20+ ar gyfer goroesi ac felly mae ICSS2 gyda band oedran is 20-54 wedi cael ei ddefnyddio.

ICSS3: Ceilliau, lymffoma Hodgkin, lewcemia lymffatig aciwt

Noder: Ar rai adegau bydd y gyfradd oroesi wedi ei safoni yn ôl oed ar gyfer rhai mathau o ganser a chyfnodau diagnosis ychydig yn uwch neu’n is ar gyfer personau o’i gymharu â dynion a menywod yn unigol.  Mae hyn oherwydd y cyfraddau goroesi yn ôl band oedran a’r pwysoliadau ICSS a ddefnyddir i gyfrifo’r cyfraddau wedi eu safoni yn ôl oed.  Dylid nodi y bydd y gyfradd oroesi wedi ei safoni yn ôl oed ar gyfer personau yn amcangyfrif gwell o oroesi o’i gymharu â dynion a menywod yn unigol oherwydd y cyfwng hyder llai o 95%.

Atodiad C

Rhestr o grwpiau canser a ddefnyddir ar gyfer dad-ddyblygu data patholeg

Rhestr o grwpiau canser a ddefnyddir ar gyfer dad-ddyblygu data patholeg

Atodiad D

Samplau patholeg misol yn erbyn data cofrestru canser

Samplau patholeg misol yr ysgyfaint yn erbyn data cofrestru canser
Samplau patholeg misol y fron yn erbyn data cofrestru canser
Samplau patholeg misol y colon ar rhefr yn erbyn data cofrestru canser
Samplau patholeg misol y prostad yn erbyn data cofrestru canser
Samplau patholeg misol yr ofari yn erbyn data cofrestru canser

Atodiad E

2013 Poblogaeth Safonol Ewropeaidd

Poblogaeth Safonol Ewropeaidd 2013

Atodiad F

Rhestr o’r grwpiau achosion eang a chodau ICD-10 cyfatebol

Rhestr o'r grwpiau achosion eang a chodau ICD-10 cyfatebol