Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio serfigol
Pwy: Unrhyw un rhwng 25 a 64 oed sydd â cheg y groth
Pryd: Pob pum mlynedd
Prawf: Sgrinio serfigol (ceg y groth)
Os oes gennych geg y groth mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiad sgrinio serfigol.
Gall prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) achub bywydau drwy atal canser rhag datblygu yng ngheg y groth.
Cysylltwch Sgrinio Serfigol Cymru (Need to link this contact page)
Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio serfigol
Os ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg, byddwch yn cael eich gwahodd I apwyntiad sgrinio serfigol.
Mae’n bwysig eich bod yn mynd i’r apwyntiad os oes gennych geg y groth. Os nad oes gennych chi ceg y groth, nid oes angen i chi ddod i’r apwyntiad. Rhowch wybod i’ch meddyg neu Sgrinio Serfigol Cymru fel na fyddwch yn derbyn gwahoddiadau pellach.
Os nad ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg, ni chewch eich gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol.
Os ydych wedi’ch cofrestru yn wryw a bod gennych geg y groth, mae’n bwysig eich bod yn cael eich sgrinio. I wneud hyn, rhowch wybod i’ch meddyg neu Sgrinio Serfigol Cymru.
Os byddwch chi neu’ch meddyg yn rhoi gwybod i Sgrinio Serfigol Cymru, gallant eich gwahodd yn awtomatig bob tro y disgwylir i chi gael prawf sgrinio serfigol a rhoi gwybod i chi am eich canlyniadau.
Mae’n bosibl y byddwn yn gwahodd pobl nad oes angen iddyn nhw gael prawf sgrinio serfigol oherwydd nad oes ganddyn nhw ceg y groth. Os nad oes gennych geg y groth, bydd angen i chi ddweud wrth eich meddyg neu Sgrinio Serfigol Cymru er mwyn i ni beidio ag anfon mwy o wahoddiadau atoch chi.
Gwybodaeth gyffredinol
Rydym yn deall y gallech fod yn poeni am fynd i apwyntiad sgrinio serfigol. Efallai y byddwch am gysylltu â’ch practis meddyg i ofyn a allwch gael eich apwyntiad ar ddechrau neu ar ddiwedd y clinig.
Os ydych yn ddyn trawsryweddol sy’n cymryd testosteron yn yr hirdymor, mae’n bosibl y bydd eich prawf sgrinio yn anghyfforddus neu’n boenus. Efallai y byddwch yn dymuno:
- siarad â’ch meddyg neu’ch nyrs am ddefnyddio sbecwlwm o faint gwahanol;
- gofyn iddyn nhw ddefnyddio mwy o ddeunydd iro; neu
- orwedd ar eich ochr i gael y prawf.
Rydym yn gwybod y gall hwn fod yn gyfnod pryderus oherwydd mae’n bosibl y bydd newidiadau i’ch corff, yn enwedig i’ch organau cenhedlu. Os ydych yn poeni am gael eich prawf sgrinio serfigol, cysylltwch â’ch meddygfa neu cysylltwch â Sgrinio Serfigol Cymru. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad â’ch meddyg efallai y byddwch am gael cymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan.
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn prawf sgrinio. Os nad ydych eisiau cael eich gwahodd i’ch prawf sgrinio, dylech gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru, byddan nhw’n gallu dweud wrthych sut I optio allan o apwyntiadau sgrinio serfigol.
Beth allwch chi ei wneud
- Ewch i’ch apwyntiad sgrinio serfigol hyd yn oed os nad oedd eich canlyniadau blaenorol yn nodi bod HPV risg uchel wedi’i ddarganfod.
- Rhowch y gorau i smygu, oherwydd mae smygu’n cynyddu eich risg o ganser serfigol.
Mae bron bob canser serfigol yn cael ei achosi gan feirws o’r enw feirws papiloma dynol (HPV). Mae hwn yn feirws cyffredin iawn y bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod i gysylltiad ag ef ar ryw adeg yn eu bywydau. Dim ond rhai mathau o HPV sy’n achosi canser serfigol. Gelwir y rhain yn fathau risg uchel. Mae sgrinio serfigol yn profi ar gyfer HPV risg uchel.
Mae HPV yn cael ei ledaenu drwy gyswllt croen ar groen. Mae HPV yng ngheg y groth yn dod trwy gyswllt rhywiol. Gall hyn fod trwy gael rhyw, rhyw drwy’r geg, neu drwy gyffwrdd â’r organau cenhedlu neu rannu teganau rhyw. Yng Nghymru, cynigir brechlynnau HPV i bawb rhwng 12 a 13 oed. Gallai’r brechlyn atal 7 o bob 10 achos o ganser y serfics yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bosibl datblygu newidiadau i’r celloedd er gwaethaf y ffaith eich bod wedi cael y brechlyn. Dylai pobl sydd wedi cael y brechlyn ac sydd â serfics gael eu sgrinio o hyd.
Yr arwyddion a’r symptomau y dylech edrych amdanyn nhw
Dylech ddweud wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw rai o’r canlynol, hyd yn oes os ydych wedi cael prawf sgrinio ac nad oedd HPV risg uchel wedi’i ddarganfod.
- Gwaedu sy’n anarferol i chi.
- Poen yn ystod neu ar ôl rhyw.
- Rhedlif anarferol o’r wain (vagina).
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio’r serfigol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025