Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Sgrinio

Mae’r wybodaeth hon yn addas i chi os ydych yn drawsryweddol (traws) neu’n anneuaidd. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y wybodaeth er mwyn eich helpu i benderfynu ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio.

Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol, mae’n bosibl y bydd y daflen hon yn ddefnyddiol i chi.

Os ydych yn byw yng Nghymru, byddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio ar sail eich:

  • oedran; ac
  • rhywedd.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod y byddwch yn cael gwahoddiad i gael eich sgrinio ar sail sut rydych wedi’ch cofrestru gyda’ch meddyg ac nid ar sail y categori rhywedd y cawsoch eich rhoi ynddo adeg eich geni.

Bydd eich risg o gael cyflyrau penodol yn dibynnu ar y rhyw a gafodd ei aseinio i chi adeg eich geni

Rydym yn anelu at drin pawb gydag urddas a pharch. Mae’n bwysig ein bod yn eich trin chi yn y ffordd gywir. Rhowch wybod i ni os ydych yn teimlo y gallwn wella eich profiad sgrinio.

Rydym wedi rhoi manylion cyswllt drwy’r tudalennau hyn. Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i ni eich ateb, pa bynnag iaith a ddewiswch.

Cefais fy rhoi yn y categori gwryw adeg fy ngheni (siart llif):
Rhaglen Sgrinio A fyddaf yn cael gwahoddiad? A oes angen i mi gael fy sgrinio?
Sgrinio’r fron Byddwch, os ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg Oes, os oes gennych bronnau
Sgrinio serfigol Byddwch, os ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg Nac oes, oherwydd nad oes gennych serfics
Sgrinio YAA Na fyddwch, os ydych wedi cofrestru fel benyw gyda’ch meddyg Oes, oherwydd, yn  fiolegol, rydych 6 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu YAA
Sgrinio’r coluddyn Byddwch  Oes
Sgrinio llygaid diabetig Byddwch, os oes gennych ddiabetes Oes, os oes gennych ddiabetes
Sgrinio cyn geni Na fyddwch Nac oes
Cefais fy rhoi yn y categori benyw adeg fy ngheni (siart llif):
Rhaglen Sgrinio A fyddaf yn cael gwahoddiad? A oes angen i mi gael fy sgrinio?
Sgrinio’r fron Na fyddwch, os ydych wedi cofrestru fel gwryw gyda’ch meddyg Oes, os oes gennych bronnau
Sgrinio serfigol Byddwch,ond rhowch wybod i ni gyntaf, os ydych wedi cofrestru fel gwryw gyda’ch meddyg Oes, oes gennych serfics
Sgrinio YAA Byddwch, os ydych wedi cofrestru fel gwryw gyda’ch meddyg Gweler isod a fydd yn eich helpu i benderfynu
Sgrinio’r coluddyn Byddwch  Oes
Sgrinio llygaid diabetig Byddwch, os oes gennych ddiabetes Oes, os oes gennych ddiabetes
Sgrinio cyn geni Byddwch, os ydych yn feichiog Oes, os ydych yn feichiog

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025