Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio cyn geni

Pwy: Pobl sy’n feichiog

Pryd: Yn ystod beichiogrwydd

Prawf: Profion gwaed a sganiau  uwchsain

Bydd profion sgrinio cyn geni yn cael eu cynnig i chi yn ystod eich beichiogrwydd, I wirio eich iechyd chi ac iechyd eich babi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio cyn geni, siaradwch â’ch bydwraig.

Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio cyn geni

Os ydych yn feichiog, bydd profion sgrinio cyn geni yn cael eu cynnig i chi.

Gwybodaeth gyffredinol

Bydd profion sgrinio cyn geni yn cael eu cynnig i chi yn ystod eich beichiogrwydd i wirio eich iechyd chi ac iechyd eich babi. Bydd bydwraig yn egluro’r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o’ch gofal cynenedigol arferol.

Mae’n bosibl y bydd y prawf sgrinio’n cynnwys sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Bydd y profion hyn yn cael eu cynnig ar wahanol gamau o’ch beichiogrwydd. Gallwch ddewis a ydych am gael y profion hyn ai peidio.

Os yw eich prawf sgrinio yn awgrymu bod problem, mae’n bosibl y bydd mwy o brofion a sganiau uwchsain yn cael eu cynnig i chi.

Beth allwch chi ei wneud

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio cyn geni, gallwch siarad â’ch bydwraig. I rai pobl, gall siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol fod yn anodd. Efallai y byddwch am gael cymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio cyn geni.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025