Neidio i'r cynnwys

Gwerthuso economaidd a modelu - Gwerthusiadau economaidd a gwaith modelu

Mae gan y Tîm Lles Economeg a Gwerth sawl prosiect ar y gweill sy’n defnyddio gwerthusiadau economaidd a modelu i gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau a dyrannu adnoddau yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar y prif bryderon o ran iechyd y cyhoedd, gan gynnwys ysmygu a chlefydau heintus.

Rheoli tybaco

Yng Nghymru, ysmygu yw’r prif ffactor risg i flynyddoedd oes wedi’u haddasu ar gyfer anabledd (DALY). Nod y gwaith hwn yw deall pa mor gost-effeithiol yw gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru, beth yw eu heffaith ar degwch, a beth yw cost ysmygu i economi Cymru, gan ddefnyddio dadansoddiad cost-effeithiolrwydd dosbarthu (DCEA) i lywio penderfyniadau buddsoddi ynghylch polisïau rheoli tybaco yng Nghymru yn y dyfodol.

Twbercwlosis (TB)

Mae twbercwlosis (TB) yn parhau i fod yn bryder iechyd cyhoeddus difrifol yng Nghymru. Er bod modd ei atal a’i wella, mae TB yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Nod gwaith y tîm Economeg a Gwerth yw defnyddio dadansoddiadau cost cyfleustodau i ddeall cost brigiadau o TB a’r rheolaeth ohonynt, a pha mor gost-effeithiol yw’r gwahanol strategaethau sgrinio, i wella polisïau rheoli TB yng Nghymru.

Brechiadau

Yn y DU, ystyrir bod pob rhaglen frechu yn gost-effeithiol ar y cyfan, gan fod rhaid iddyn nhw gyrraedd trothwyon cymeradwyo’r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) cyn y gellir eu defnyddio. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi’r gwaith ar ba mor gost-effeithiol yw ymgyrchoedd brechu, e.e. annog mwy o grwpiau mewn perygl i gymryd brechlynnau COVID-19 a chost-effeithiolrwydd y brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) a gyflwynwyd yn 2024 a’i effaith ar degwch.

Pynciau cysylltiedig

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Chwefror 2026