Yma fe gewch wybodaeth, adnoddau ac enghreifftiau o Gymru sy’n ymwneud â chynaliadwyedd amgylcheddol, datgarboneiddio ac addasu mewn lleoliadau gofal sylfaenol.
Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl yn yr 21ain ganrif wrth i farwolaethau ac afiachedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd barhau i gynyddu. Mae effeithiau newid hinsawdd yn effeithio ar bob un ohonom. Fodd bynnag, mae risgiau iechyd sy’n sensitif i’r hinsawdd yn cael eu teimlo’n anghymesur gan y rhai mwyaf agored i niwed a dan anfantais.
Mae Sero Net Cymru yn gynllun gweithredu a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i arwain gan y cyngor diweddaraf gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, sy’n amlinellu’r llwybr i gyflawni allyriadau sero net yng Nghymru erbyn 2025. Mae uchelgais a tharged i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn sero net erbyn 2030.
Mae maint a chyflymder y newid sydd ei angen yn sylweddol ac mae angen i bawb gyfrannu. Drwy gymryd rhan yng nghynllun Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, gallwch chi gyfrannu at greu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.
Mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cael ei letya a’i gyflwyno gan dîm bach sydd wedi’i leoli yn Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Lansiwyd y Cynllun yn 2022 mewn ymateb i’r diffyg adnoddau sydd ar gael i gefnogi practisiau gofal sylfaenol yng Nghymru i fod yn fwy gwyrdd.
Rydym yn cyflwyno’r Cynllun mewn partneriaeth ag elusen Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, SOS UK Green Impact a’n Grŵp Arbenigol.
Ein cenhadaeth yw gwneud gofal iechyd yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol. Rydyn yn canolbwyntio ar ofal sylfaenol lle mae 90% o ofal iechyd yn cael ei ddarparu. Anelwn at gyflawni hyn drwy ysgogi practisiau gofal sylfaenol yng Nghymru i weithio yn fwy cynaliadwy ac i gymryd camau bach, ymwybodol, cyson a blaengar i liniaru effeithiau newid hinsawdd ac addasu iddynt.
Gwnaethom ddechrau’r gwaith hwn gyda phractisiau cyffredinol, fferyllfeydd cymunedol, practisiau optometreg a phractisiau deintyddion. Fodd bynnag, mae’r Cynllun ar agor i bob darparwr gofal sylfaenol yng Nghymru. Er enghraifft, mae gwasanaethau deintyddol cymunedol a gwasanaethau deintyddol preifat hefyd wedi bod yn cymryd rhan.
Mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn fframwaith ar-lein am ddim sy’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau clinigol ac anghlinigol sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Gall timau roi’r camau gweithredu hyn ar waith mewn unrhyw drefn a gellir gwneud faint fynnir ohonynt, sy’n cynnig hyblygrwydd o ran sut i gymryd rhan.
Gall practisiau ennill gwobr efydd, arian neu aur os ydynt yn cwblhau nifer penodol o gamau gweithredu. Mae pob cam gweithredu sy’n cael ei gwblhau yn cyfateb i 1 pwynt ac wrth i nifer y pwyntiau gynyddu, felly hefyd lefel y wobr.
Mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio o fewn gofal sylfaenol a chynaliadwyedd amgylcheddol, neu sydd â diddordeb yn y maes. Mae ar agor i bob aelod o staff gofal sylfaenol. Mae timau mewn practisiau sy’n cymryd rhan yn tueddu i gynnwys aelodau staff clinigol ac anghlinigol.
Os hoffech gymryd rhan ond nad ydych yn siŵr a yw’r Cynllun yn addas i chi, anfonwch e-bost at [email protected] a bydd aelod o’r tîm yn eich cynorthwyo.
Ein heffaith
Ers 2022 mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru wedi bod yn eiriol, yn cynghori ac yn darparu offer i rymuso gofal sylfaenol i arwain a gweithredu camau gweithredu sy’n fuddiol i’r amgylchedd, eu busnes, staff a chleifion.
Rydym yn gwerthfawrogi mai’r bobl sy’n gweithio mewn practisiau sy’n gwneud i hyn ddigwydd ac mae ymdrechion a straeon nifer o bractisiau sy’n cymryd rhan wedi’u cofnodi fel astudiaethau achos. Gallwch ddarllen yr astudiaethau achos yma.
Ar ddiwedd 2024, tair blynedd ers lansio Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru, rydym wedi cyflawni’r canlynol:
548 o bractisiau wedi cofrestru â’r Cynllun
Lleihad o dros 2550 tunnell mewn CO2e. Mae hyn yn cyfateb i yrru 6.4 miliwn o filltiroedd mewn car petrol.
11 o farwolaethau o ganlyniad i’r hinsawdd wedi eu hosgoi
Edrychwch ar ein ffeithlun ar Aliniad Strategol i weld sut mae Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn cyd-fynd â pholisïau, strategaethau a deddfwriaeth allweddol. Datblygwyd yr adnodd hwn gan yr Is-Adran Gofal Sylfaenol.
Bydd gweithredu llawer o’r camau gweithredu sy’n ystyriol o’r hinsawdd sy’n rhan o’r Cynllun nid yn unig o fudd i’r amgylchedd, byddant hefyd yn arwain at gyd-fuddion ariannol, cymdeithasol a chlinigol.
Dywedodd un o’n practisiau deintyddol a enillodd Wobr Gofal Sylfaenol Gwyrddach yng Nghynhadledd a Gwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru 2025 wrthym…
“Rydym wedi lleihau ein contract gwaredu gwastraff clinigol sydd wedi arwain at arbediad blynyddol o £800. Rydym hefyd wedi lleihau ein costau caffael ar gyfer eitemau tafladwy (e.e. cwpanau plastig, pennau sugno plastig, cydau sterileiddio) sy’n cyfateb i arbediad blynyddol o dros £4000.”
Fideos Hyrwyddwr Gofal Sylfaenol Gwyrddach: datblygwyd y ddau fideo hyn yn dilyn y Fenter Hyrwyddwyr Gofal Sylfaenol Gwyrddach: cynllun peilot a ariannwyd gan y rhaglen rhwng mis Hydref 2023 a Mawrth 2024, wedi’i reoli gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Casgliad o astudiaethau achos fideo yn dangos enghreifftiau gan bob un o’r pedwar contractwr gofal sylfaenol sydd wedi cymryd rhan yn Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru:
Fideo cymeradwyol gan Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd (2021-2024), (mae is-deitlau Cymraeg ar y fideo) yn siarad am Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru: “Fel cenedl, rydym yn ymdrechu i fod yn flaengar yn ein hagwedd tuag at newid hinsawdd ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gallwn roi polisi ar waith”.
Drwy ymuno ag un neu fwy o’r mentrau canlynol, byddwch yn cwrdd â phobl eraill fel chi sy’n cymryd camau i wneud eu practisiau yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Gobeithiwn, drwy gael gwybodaeth reolaidd, gwrando ar bobl eraill a chydweithio â nhw, y byddwch yn ennill gwybodaeth newydd, yn datblygu sgiliau gwyrdd ac yn cael syniadau ar sut i roi camau bach ar waith yn eich practis eich hun.
Sesiynau galw heibio misol dewisol Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ar gyfer practisiau sydd wedi cofrestru. Fel practis sydd wedi cofrestru byddwch yn cael gwahoddiadau’n awtomatig drwy e-bost i gymryd rhan yn y sesiynau misol hyn.