Rwyf wedi cael llythyr yn gofyn i mi ddod yn ôl am brofion pellach, beth mae hynny’n ei olygu?
Weithiau bydd angen profion pellach cyn y gallwn roi eich canlyniad i chi. Os dyma yw’r achos bydd angen i chi fynd i’r canolfan sgrinio’r fron lleol. Bydd Bron Brawf Cymru yn anfon gwybodaeth bellach atoch ynghylch cael profion pellach. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ‘Eich canlyniadau / Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad asesu?’.
Pa mor hir fydd fy apwyntiad asesu yn para?
Yn dibynnu ar ba brofion sydd eu hangen, gallech fod yn y clinig rhwng 1 a 3 awr.
A chaf wybod pam fy mod wedi cael fy ngalw yn ôl am brofion pellach?
Cewch wybod yn eich apwyntiad pam y cawsoch eich galw’n ôl. Rydym yn deall y byddwch yn pryderu am gael eich galw yn ôl. Gallwch gysylltu â ni a siarad gyda nyrs gofal o’r fron cyn eich apwyntiad. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen ‘Eich canlyniadau / Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad asesu?’.
Allaf ddod â rhywun gyda fi?
Gallwch ddod a rhywun gyda chi, ond efallai na chânt fod gyda chi pan gewch eich profion pellach. Ni allwch ddod a phlant gyda chi.
Pryd y caf fy nghanlyniadau o’r profion pellach?
Yn dibynnu ar ba brofion y cewch, gall canlyniadau gymryd hyd at bythefnos.
Beth fydd yn digwydd os caf wybod bod gennyf ganser y fron?