Cwestiynau cyffredin sgrinio'r fron - Cwestiynau cyffredinol
All pelydrau-x o’r fron achosi canser y fron?
Gall pelydrau-x achosi canser, ond mae’r risg o gael pelydr-x o’r fron yn isel iawn. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen Mamograffeg a risg ymbelydredd.
Mae hanes o ganser y fron yn fy nheulu, allaf gael sgrinio’r fron cyn cyrraedd 50 oed?
Os ydych yn poeni am hanes canser y fron yn eich teulu, siaradwch a’ch meddyg.
A all sgrinio’r fron atal canser y fron rhag datblygu?
Dim ond os bydd canser yno’n barod y gall sgrinio ganfod canser. Gallwch gael canser y fron ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg os byddwch yn gweld neu’n teimlo newid yn eich bron, hyd yn oed os byddwch wedi cael sgrinio’r fron yn ddiweddar. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen ‘Arwyddion a symptomau’.
Rwyf wedi sylwi ar newid yn fy mron, allaf ofyn i gael sgrinio’r fron?
Mae sgrinio’r fron ar gyfer menywod nad oes symptomau’r fron ganddynt. Beth bynnag fo’ch oedran, os ydych yn poeni am newid yn eich bron, dylech siarad â’ch meddyg ar unwaith. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen ‘Arwyddion a symptomau’.
Rydw i wedi cael llawdriniaeth i adlunio fy mronnau, allaf i gael prawf sgrinio’r fron?
Bydd hyn yn dibynnu ar eich llawdriniaeth adlunio a faint o feinwe’r fron sydd gennych. Cysylltwch â ni i’w drafod.
A allaf gael termograffi yn lle pelydr-x o’r fron?
Nid yw Bron Brawf Cymru yn cynnig termograffi. Nid yw delweddu thermol wedi’i brofi’n ddull sgrinio effeithiol ar gyfer canfod canser y fron yn gynnar. Dim ond chwarter o ganserau’r fron y deuir o hyd iddynt gyda phelydrau-x y gall delweddu termol eu canfod.
Pam mae menywod yn Lloegr yn cael sgrinio’r fron ychwanegol rhwng 47-49 oed a 71-73 oed?
Bydd rhai menywod rhwng 47-49 oed a 71-73 oed sy’n byw yn Lloegr wedi cael gwahoddiad am sgrinio’r fron fel rhan o dreial. Caiff tua hanner y menywod yn yr ystod oedrannau hyn yn Lloegr eu gwahodd, ac ni chaiff yr hanner arall, fel y gellir cymharu eu profiadau.
Diben y treial hwn yw gweld a oes mantais i fenywod gael sgrinio’r fron ychwanegol. Ni fydd y canlyniadau ar gael am sawl blwyddyn, ac ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth i gefnogi unrhyw fantais.
Mae Bron Brawf Cymru a Llywodraeth Cymru yn cadw llygad ar y treial yn Lloegr yn ofalus ac yn aros i weld a fydd y canlyniadau cyn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
Beth os bydd angen cymorth arnaf i gymryd rhan yn sgrinio?
Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad os:
- Oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
- Oes gennych anabledd, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
- Ydych yn defnyddio ci cymorth.
- Oes angen i ofalwr ddod gyda chi.
- Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
- Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir. Bydd angen i chi ddod ag ID a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w hapwyntiad.
- Os oes angen i chi ddod â rhywun gyda chi i’ch apwyntiad, rhowch wybod i ni. Efallai y byddai’n well ichi gael eich apwyntiad mewn canolfan sgrinio’r fron.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Chwefror 2026