Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio'r fron - Eich canlyniadau sgrinio

Pryd y caf fy nghanlyniadau?

Nod Bron Brawf Cymru yw anfon pob canlyniad o fewn tair wythnos, ond weithiau gall gymryd mwy o amser. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os dyna fydd yr achos.

Pwy fydd yn cael copi o fy nghanlyniad?

Byddwn yn anfon eich llythyr canlyniadau drwy’r post. Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniad hefyd.

Pam ydw i wedi cael gwahoddiad am belydr-x arall o’r fron?

Weithiau nid yw’r delweddau’n glir neu maent yn niwlog a bydd angen i ni gymryd pelydr-x arall o’r fron cyn y gallwn roi canlyniad i chi. Gelwir hyn yn adalwad technegol.

Gellir anfon fy nghanlyniadau i gyfeiriad gwahanol?

Gellir. Mae’n bwysig i chi roi gwybod i ni os byddwch yn symud. Rhowch wybod i ni oherwydd y bydd angen i chi lenwi ffurflen newid cyfeiriad.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Chwefror 2026