Brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl - Ynglŷn â’r brechlyn niwmococol i oedolion hŷn a phobl mewn perygl
Mae rhai o’r dolenni sydd wedi’u cynnwys yn yr wybodaeth hon yn arwain at gynnwys a grëwyd gan sefydliadau eraill ac efallai nad yw ar gael yn Gymraeg.
Mae gan bobl 65 oed neu’n hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol siawns uwch o fynd yn sâl o ganlyniad i haint niwmococol. Maent yn fwy tebygol o gael problemau iechyd difrifol hirdymor a gallant hyd yn oed farw. Cynigir brechiad niwmococol am ddim i’r bobl hyn drwy’r GIG.
Mae’r brechlyn yn ddiogel a gall helpu i’ch amddiffyn chi rhag rhai o’r mathau mwy difrifol o heintiau niwmococol.
Pam mae rhai pobl yn cael cynnig y brechlyn niwmococol?
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor gan arbenigwyr brechu. Mae eu canllawiau yn ein helpu i benderfynu pa frechlynnau i’w cynnig a phwy ddylai eu cael.
Mae arbenigwyr brechu yn argymell rhoi’r brechlyn niwmococol i bobl sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol o ganlyniad i glefyd niwmococol. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:
- yn 65 oed neu’n hŷn,
- yn ddwy flwydd oed neu’n hŷn sydd â chyflyrau iechyd hirdymor penodol
- yn dod i gysylltiad rheolaidd â mwg metel yn y gwaith
Cynigir y brechlyn niwmococol hefyd i blant dan ddwy flwydd oed fel rhan o raglen imiwneiddio reolaidd i blant y GIG. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y brechlyn niwmococol i fabanod.
Ynglŷn â’r brechlyn
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Diogelwch ac effeithiolrwydd
Mwy o wybodaeth
- Heintiau niwmococol – NHS inform (Saesneg yn unig)
- Haint Niwmococol – Vaccine Knowledge Project (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Ebrill 2026