Neidio i'r cynnwys

Brechlyn feirws papiloma dynol (HPV) - Gwybodaeth brechlyn HPV i weithwyr iechyd proffesiynol

Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd ar gyfer 2025-26.

Cefndir

Mae tua 100 o fathau o’r papilomafeirws dynol (HPV). Mae HPV yn feirws DNA elfen ddwbl sy’n heintio epithelia cennog gan gynnwys y croen a mwcosa’r llwybrau anadlol ac anogenhedlol uchaf. Er bod y rhan fwyaf o heintiau yn asymptomatig ac yn bosib eu rheoli eich hun, mae haint cenhedlol gan HPV yn gysylltiedig â defaid gwenerol a chanserau anogenhedlol mewn dynion a merched. Mae feirysau HPV yn cael eu dosbarthu naill ai fel mathau ‘risg uchel’ neu ‘risg isel’ yn dibynnu ar eu cysylltiad â datblygiad canser. 

Ers 2018, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi bod yn adolygu’n fanwl y dystiolaeth am amddiffyn drwy gael un dos o frechlyn HPV. Mae’r JCVI o’r farn bod y dystiolaeth bellach yn gryf iawn bod un dos yn rhoi amddiffyniad tebyg i’r hyn a roddir gan ddau ddos. 

Yng Nghymru a Lloegr o 1 Medi 2023, bellach mae amserlen un dos ar gyfer brechiadau HPV ar gyfer rhaglen arferol y glasoed a dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) o dan 25 oed. Darperir manylion pellach yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru WHC/2023/016 (gweler yr adran Canllawiau isod). 

Argymhellir un dos o’r brechlyn HPV ar gyfer: 

  • Pawb yn y glasoed sy’n imiwnogymwys (bechgyn a merched)*. Mae’r brechlyn HPV yn cael ei gynnig mewn ysgolion i ddisgyblion ym Mlwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 oed fel arfer). Mae dynion a merched mewn carfannau sy’n gymwys i gael eu brechu yn y rhaglen genedlaethol yn parhau felly tan eu pen-blwydd yn 25 oed – gweler y Llyfr Gwyrdd am fanylion.
  • GBMSM hyd at 25 oed sy’n mynychu Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Arbenigol a/neu glinigau HIV.* 

Mae amserlen dau ddos or brechiad HPV yn cael ei argymell ar gyfer: 

  • GBMSM sydd rhwng 25 a 45 oed. 

Noder: dylai unigolion sy’n gymwys ar gyfer brechiad HPV sy’n imiwnoataliedig neu’n HIV positif gael cynnig tri dos o’r brechlyn HPV.

Gardasil yw’r brechlyn sydd wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG ers 2012. Yn 2022, cyflwynwyd Gardasil 9 yn rhan o raglen frechu HPV y GIG. Dyma’r prif frechlyn HPV sy’n cael ei roi yng Nghymru nawr.  

Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag mathau o HPV (6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52 a 58). Mae mathau HPV: 16 ac 18 yn fathau HPV risg uchel a all arwain at ganser; mae 6 ac 11 yn fathau HPV sy’n achosi tua 90% o’r holl ddefaid anogenhedlol mewn gwrywod a benywod. 

Mae Gardasil 9 yn cynnig gwarchodaeth rhag 5 math ychwanegol o HPV (31, 33, 45, 52, 58) sydd, er yn llai cyffredin na mathau 16 a 18, hefyd yn cael eu hystyried yn risg uchel. Mae Gardasil 9 yn gwarchod rhag y mwyafrif o ganserau ceg y groth, y fagina a’r fylfa a briwiau cyn-ganseraidd, yn ogystal â defaid gwenerol sy’n gysylltiedig â HPV.  

Crynodeb o nodweddion cynnyrch 

Mae’r Amserlen Imiwneiddio Rheolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am brechlynnau sy’n rheolaidd a’r rhai sydd ddym yn rheolaidd. 

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (Saesneg yn unig) – i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI gallwch chwilio am e.e. HPV.

Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer o frechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grŵp Cleifion (PGDs) a phrotocolau

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen  Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.

Mwy o adnoddau clinigol a gwybodaeth

Adnoddau eraill

Mae Sgrinio Serfigol Cymru yn gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru.

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Ebrill 2026