Brechlyn COVID-19 - Adnoddau brechlyn COVID-19 i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
Nod y dudalen hon yw cyfeirio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol at adnoddau i gefnogi cyflwyniad y rhaglen frechu COVID-19.
Taflenni
Posteri
Mae adnoddau, gan gynnwys taflenni a phosteri i gefnogi’r rhaglen frechu COVID-19, ar gael i’w lawrlwytho ac i’w harchebu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar dudalen Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.
Adnoddau templed COVID-19
- Templed llythyr gwahoddiad COVID-19 gyda dyddiad ar gyfer apwyntiad
- Templed llythyr gwahoddiad COVID-19 a ffliw 16+ oed gyda dyddiad ar gyfer apwyntiad
Adnoddau hyfforddi COVID-19
Mae’r modiwlau e-ddysgu COVID-19 yn cael eu hadolygu a’u diweddaru gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn ôl yr angen.
Uniwyd y rhaglen e-ddysgu brechu COVID-19 gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ac fe’i datblygwyd gan e-ddysgu ar gyfer Gofal Iechyd (eLfH) Addysg Iechyd Lloegr. Mae’r rhaglen yn cynnwys sesiwn Wybodaeth Graidd gydag asesiad, a sesiynau ar frechlynnau penodol gydag asesiadau cysylltiedig ar gyfer pob brechlyn COVID-19 sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd.
Os nad yw unigolyn wedi cael unrhyw hyfforddiant diweddaru ar frechlynnau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, argymhellir ei fod hefyd yn ymgymryd â sesiynau e-ddysgu ar weinyddu, storio ac agweddau cyfreithiol. Mae’r sesiynau hyn ar gael o cwrs e-ddysgu’r rhaglen imiwneiddio.
I rai sy’n newydd i imiwneiddio, mae’r safonau gofynnol cenedlaethol a’r cwricwlwm craidd ar gyfer hyfforddiant imiwneiddio ar gyfer Ymarferwyr Gofal Iechyd cofrestredig (Saesneg yn unig) yn berthnasol o hyd. Dylai hyfforddwyr addasu’r cwricwlwm (y pynciau a gwmpesir, a lefel y manylder sy’n ofynnol) i anghenion penodol y gweithlu yn dibynnu ar natur eu rôl o ran darparu rhaglen frechu COVID-19.
Mae’n bwysig bod yr holl frechwyr COVID-19 a / neu’r rhai sy’n darparu cyngor ar imiwneiddio COVID-19 yn ymgyfarwyddo â’r dystiolaeth a’r canllawiau clinigol mwyaf diweddar, mae hyn i’w weld yn y dogfennau allweddol canlynol:
- COVID-19: canllawiau’r rhaglen frechu ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd (Saesneg yn unig)
- Llyfr Gwyrdd COVID-19 pennod (Saesneg yn unig)
Setiau sleidiau hyfforddiant COVID-19:
- COVID-19 Gwanwyn 2026: brechiadau i oedolion (Saesneg yn unig)
COVID-19 Gwanwyn 2026: brechiadau i blant a phobl ifanc (Saesneg yn unig)
Adnoddau eraill
Mae’r adnodd UKHSA – Pa frechlyn COVID-19? (Saesneg yn unig) hwn gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth, dosau a storio brechlynnau COVID-19. Nodwch y dylid defnyddio pob brechlyn yn unol â’r Llyfr Gwyrdd a chanllawiau gweithredol GIG Cymru.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ebrill 2026