Brechlyn COVID-19 - Ynglŷn â’r brechlyn COVID-19
Bydd brechlynnau COVID-19 diogel ac effeithiol yn cynnig gwarchodaeth unigol yn ogystal â mwy o warchodaeth i’n hanwyliaid a’n cymunedau ni.
Ynglŷn â’r brechlyn
Mae brechiadau’n achub bywydau ac maent yn ffordd effeithiol o helpu i amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn. Mae brechlynnau ar gyfer COVID-19 yn helpu i’ch amddiffyn rhag y mathau cyfredol o feirysau COVID-19. Yn union fel y ffliw, gall y math presennol newid a gall lefelau amddiffyniad leihau dros amser, felly y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn yw cael dos tymhorol.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar ddefnyddio brechlynnau gwahanol yn rhan o raglenni brechu. Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf priodol, a all fod yr un fath â’r brechlynnau a gawsoch o’r blaen neu’n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 cyfredol, a gweld y daflen wybodaeth i gleifion (Saesneg yn unig). Teipiwch ‘COVID-19’ yn y blwch chwilio.
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi pasio safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU, ac maent yn ddiogel iawn. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo’r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Mae’r asiantaeth wedi cymeradwyo nifer o frechlynnau i’w defnyddio yn y DU gan nodi eu bod yn frechlynnau diogel ac effeithiol ar gyfer COVID-19. Yn yr un modd â phob meddyginiaeth a brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgileffeithiau’r brechlyn COVID-19 yn cael eu monitro a’u hadolygu’n fanwl.
Brechiad COVID-19 ac imiwnoataliaeth difrifol
Efallai na fydd y rhai chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol bob amser yn meithrin imiwnedd llawn i COVID-19. Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall arbenigwyr meddygol eich cynghori i gael dosau ychwanegol i wella’ch amddiffyniad. Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi y tu allan i’r rhaglen dymhorol, i hybu eich amddiffyniad tan yr ymgyrch frechu nesaf.
Os oes gennych gwestiynau, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu’ch plentyn.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am y brechlyn COVID-19 isod. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd, pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
Pam ddylech chi gael y brechlyn
Pam y dylwn gael y brechlyn COVID-19?
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Cynigir brechiad ddwywaith y flwyddyn i bobl sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Bydd y dosau hyn yn helpu i’ch diogelu am gyfnod hirach.
Gall cael y brechlyn helpu i leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19.
Pam y mae brechlynnau’n bwysig?
Mae brechlynnau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau.
Mae brechlynnau’n dysgu eich system imiwnedd sut i’ch amddiffyn rhag clefydau. Mae’n llawer mwy diogel i’ch system imiwnedd ddysgu hyn trwy frechiad na thrwy ddal y clefydau a cheisio eu trin.
A oes angen i mi gael y brechlyn os ydw i wedi dal haint COVID-19 o’r blaen? Os felly, pa mor hir ddylwn i aros cyn cael fy mrechu?
Oes. Nid yw’r ffaith eich bod eisoes wedi dal COVID-19 yn eich diogelu bob amser rhag heintiau yn y dyfodol. Dylech, felly, gael y brechlyn o hyd i wneud yn siŵr eich bod wedi eich diogelu’n iawn.
Os ydych yn teimlo’n sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn i chi gael y brechlyn. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, cofiwch ei ganslo a threfnu apwyntiad newydd. Ceisiwch gael y brechlyn cyn gynted â phosibl ar ôl i chi wella.
Mae’n dal yn bwysig i chi gael eich brechu os ydych yn gymwys i gael brechlyn.
A fydd y brechlyn am ddim?
Os ydych yn gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG.
Cymhwystra ar gyfer y brechlyn
Pwy sy’n gymwys i gael brechlyn COVID-19?
Bydd unigolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i gael dos sengl o’r brechlyn COVID-19.
- Y rhai sy’n 75 oed a throsodd (neu a fydd yn troi’n 75 oed yn ystod y cyfnod y cynigir y brechlyn).
- Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn.
- Pobl â system imiwnedd wan.
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a’ch cyflwr. Os ydych yn gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG.
Mae Cymru yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael salwch difrifol a marw oherwydd COVID-19.
Sut fyddaf i’n gwybod a oes gennyf system imiwnedd wan?
Mae system imiwnedd wan yn golygu na all eich corff frwydro yn erbyn heintiau cystal ag y byddai fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:
- yn cael cemotherapi neu radiotherapi radical
- wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau
- yn byw gyda HIV (ar unrhyw gam)
- yn cael diagnosis o fyeloma ymledol
- os oes gennych anhwylder genetig sy’n effeithio ar y system imiwnedd (fel IRAK-4, NEMO, anhwylder cyflenwol neu ddiffyg imiwnedd cyfun difrifol)
- yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu wrth-TNF)
- yn cymryd (neu ar fin cymryd) steroidau am fwy na mis ar ddos penodol
- oes gennych hanes o lewcemia, lymffoma neu myeloma, ac yn
- cael triniaeth imiwnotaliol hirdymor (triniaeth sy’n gwanhau’r system imiwnedd) ar gyfer clefyd awto-imiwn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i Rhaglen frechu’r gwanwyn COVID-19 2026 (WHC/2025/052) neu cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch Bwrdd Iechyd lleol.
Os ydw i’n gymwys, pryd y byddaf yn cael brechiad y tymhorol?
Os ydych chi’n gymwys i gael dos tymhorol, byddwch chi’n cael cynnig y brechlyn ddwywaith y flwyddyn, fel arfer yn y gwanwyn a’r hydref. Dylech gael gwahoddiad i gael eich brechlyn tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o’r brechlyn.
Cynigir dos y gwanwyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Os ydych chi’n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch chi’n gallu cael y brechlyn ym mis Gorffennaf. Cynigir dos yr hydref rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr. Os ydych chi’n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, efallai y byddwch chi’n gallu cael y brechlyn ym mis Ionawr.
Os nad ydych chi’n 75 oed eto ond yn troi’n 75 yn ystod y cyfnod y bydd y brechlyn yn cael ei gynnig, byddwch yn dal i gael eich gwahodd i gael eich brechiad. Nid oes raid i chi aros tan eich pen-blwydd.
Nid wyf wedi cael fy ngwahodd i gael fy mrechu. Beth y dylwn ei wneud?
Os nad ydych wedi cael gwahoddiad neu os ydych yn meddwl ein bod wedi eich methu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol.
Pwy a all roi cydsyniad i blant a phobl ifanc gael y brechlyn?
Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn neu berson ifanc, gofynnir i chi roi cydsyniad (caniatâd) ar sail gwybodaeth iddo gael y brechlyn. Gall pobl ifanc 16 oed a throsodd roi cydsyniad (caniatâd) eu hunain.
Mewn rhai amgylchiadau, gall pobl ifanc dan 16 oed fod yn ddigon aeddfed i roi cydsyniad eu hunain os ydynt yn deall yn iawn yr hyn a gynigir. Gelwir hyn yn gymhwysedd Gillick. Er, mae’n well bod rhieni neu ofalwyr yn rhan o’r penderfyniad i roi’r brechlyn i bobl ifanc.
Bydd y nyrs neu’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad yn gallu trafod y brechlyn yn yr apwyntiad ac ateb unrhyw gwestiynau.
Beth am bobl sy’n gymwys i gael y brechlyn ond sydd yn yr ysbyty am reswm arall?
Gellir cynnig brechiad yn yr ysbyty i gleifion mewn ysbytai y mae angen iddynt gael eu brechu, os yw hynny’n bosibl. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Bydd preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn cael cynnig y brechiad yn eu cartref gofal.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
A oes yna unrhyw sgileffeithiau i frechlynnau COVID-19?
Fel yn achos pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgileffeithiau. Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau yn rhai ysgafn a thymor byr, ac nid yw pawb yn eu cael.
Ni ddylai’r sgileffeithiau mwyaf cyffredin bara’n hirach na diwrnod neu ddau, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- teimlad trwm neu ddolur lle cawsoch y pigiad
- gwynegon cyffredinol, neu symptomau tebyg i ffliw ysgafn
- teimlad o gyfog neu chwydu
- dolur rhydd
- blinder
- pen/tost cur pen, a
- thwymyn ysgafn.
Efallai y bydd babanod dan ddwy flwydd oed hefyd yn bigog, yn gysglyd, ac yn colli eu harchwaeth.
Efallai y bydd gennych dwymyn ysgafn am ddeuddydd neu dridiau ar ôl cael brechlyn. Fodd bynnag, mae tymheredd uchel yn anarferol a gall fod am fod gennych haint neu salwch arall. Os ydych yn poeni, siaradwch â’ch meddyg neu eich nyrs.
Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir), a gorffwys i’ch helpu i deimlo’n well. Ni ddylid rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed.
Weithiau ar ôl cael brechiad COVID-19, gall eich chwarennau yn y gesail neu’r gwddf chwyddo. Gall hyn ddigwydd ar yr un ochr â’r fraich ble cafwyd y brechiad. Gall hyn bara am tua 10 diwrnod, ond os yw’n para’n hirach cysylltwch â’ch Practis Meddyg Teulu am gyngor. Os ydych i fod i gael prawf sgrinio’r fron (mamogram) yn yr ychydig wythnosau ar ôl cael y brechlyn, cofiwch sôn wrth fynd i’ch apwyntiad eich bod wedi cael y brechlyn COVID-19.
Mewn achosion prin, adroddwyd am lid y galon ar ôl rhai brechlynnau COVID-19. Gelwir hyn yn myocarditis neu pericarditis. Mae’r achosion hyn wedi’u gweld yn bennaf ymhlith dynion iau o fewn sawl diwrnod ar ôl y brechiad. Gwnaeth y rhan fwyaf o’r bobl hyn wella ac roedden nhw’n teimlo’n well ar ôl gorffwys a chael triniaeth syml.
Dylech gael cyngor meddygol ar frys os ydych yn profi’r canlynol:
- poen yn y frest
- diffyg anadl, neu
- galon sy’n curo’n gyflym, yn afreolaidd neu’n curo’n drwm.
Mae sgil-effeithiau eraill yn anghyffredin neu’n brin iawn.
Os yw’n ymddangos bod eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych yn bryderus, ffoniwch GIG 111 neu eich meddygfa. Os byddwch yn cael cyngor gan feddyg neu nyrs, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud pa frechlynnau a gawsoch fel y gall eich asesu’n llawn. Gallwch hefyd fynd i GIG 111 Cymru ar-lein.
Ble y gallaf ddod o hyd i daflenni gwybodaeth i gleifion?
I gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gan gynnwys yr hyn sydd ynddo a sgileffeithiau posibl, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion.
- Plant 6 mis i 4 mlwydd oed: Pfizer Comirnaty® (Saesneg yn unig)
- Plant 5 i oed: Pfizer Comirnaty® (Saesneg yn unig)
- Pobl ifanc rhwng 12 a 17 oed: Pfizer Comirnaty® (Saesneg yn unig)
- Unigolion 12 oed a hŷn: Sanofi Nuvaxovid® (Saesneg yn unig)
- Unigolion 18 oed a hŷn: Moderna Spikevax® (Saesneg yn unig)
Mae symbol triongl du ar frechlyn neu feddyginiaeth yn golygu ei fod yn cael ei fonitro’n agos am unrhyw sgîl-effeithiau. Bydd hyn yn caniatáu adnabod gwybodaeth ddiogelwch newydd yn gyflym. Gallwch helpu drwy roi gwybod am unrhyw sgîl-effeithiau y gallech chi neu’ch plentyn eu cael.
Dylech roi gwybod am sgil effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Os ydw i’n sâl, a ddylwn gael y brechlyn?
Os ydych yn sâl, mae’n well aros nes eich bod yn well cyn cael y brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad. Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os nad ydych yn siŵr, trafodwch hyn â’r unigolyn sy’n eich brechu.
Cefais adwaith alergaidd i ddos blaenorol o’r brechlyn COVID-19. A ddylwn gael rhagor o ddosau?
Mae Cymdeithas Alergedd ac Imiwnoleg Glinigol Prydain (BSACI) wedi rhoi cyngor ar adweithiau alergaidd. Mae wedi dweud ei bod yn bosibl y gallai pobl a gafodd adwaith i’r dos cyntaf o frechlyn COVID-19 gael dosau pellach.
Ar ôl adolygiad gan arbenigwr, mae llawer o unigolion wedi cael dosau dilynol o’r un brechlyn. Dyma a ffefrir gan ei fod yn eich atal rhag cael eich labelu’n anghywir am oes yn unigolyn a chanddo alergedd.
Mae’r wefan ganlynol hefyd yn cynnig gwybodaeth i unigolion sydd ag alergedd COVID-19 a brechlynnau | Anaphylaxis UK (Saesneg yn unig) .
Prin iawn yw’r bobl na ddylai gael brechlyn COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o bobl ag alergeddau yn gallu cael y brechlyn heb gael problemau. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unigolyn sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:
- dos blaenorol o’r un brechlyn, neu
- gynhwysyn yn y brechlyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth y sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi os cawsoch adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.
A fydd y brechlyn COVID-19 yn fy atal rhag dal y feirws?
Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i atal salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19. Gall gymryd ychydig wythnosau i’ch corff adeiladu amddiffyniad rhag COVID-19 ar ôl y brechiad.
Fel pob meddyginiaeth, nid oes yr un brechlyn yn 100% effeithiol – gall rhai pobl ddal i gael COVID-19 er gwaethaf cael brechiad, ond dylai eu symptomau fod yn llai difrifol.
Mae’n bosibl y bydd lefelau eich amddiffyniad yn dechrau lleihau dros amser, felly efallai y bydd angen i chi gael brechlynnau ychwanegol.
Mae rhaglen frechu y DU wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac wedi brechu miliynau o bobl ac achub miloedd o fywydau.
Mae’n dal yn bwysig adnabod arwyddion a symptomau COVID-19, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. I gael rhagor o wybodaeth am COVID-19 ewch i Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.
Rwy’n gymwys i gael y brechlyn COVID-19, ond rwy’n feichiog neu’n ceisio beichiogi. A alla i gael y brechlyn?
Gallwch, gellir rhoi pob brechlyn COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i fenywod beichiog cymwys, neu’r rhai sy’n ceisio beichiogi ac sy’n gymwys.
Os ydych yn feichiog, dylech ddweud wrth y nyrs neu’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad i chi.
Os ydych chi’n ceisio beichiogi, nid oes angen osgoi beichiogi ar ôl cael brechiad COVID-19. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod brechlynnau COVID-19 yn effeithio ar ffrwythlondeb na’ch siawns o feichiogi.
Dangoswyd bod y brechlynnau presennol yn effeithiol ac yn ddiogel, heb unrhyw effeithiau negyddol ar feichiogrwydd na’r babi. Nid yw cael y brechlyn yn cynyddu’r risg o gamesgoriad.
Rwy’n gymwys i gael brechiad COVID-19 ac rwy’n bwydo ar y fron. A alla i gael y brechlyn?
Gallwch. Gellir rhoi unrhyw un o’r brechlynnau COVID-19 a ddefnyddir yn y DU i bobl sy’n bwydo ar y fron.
Ar ôl cael brechlyn, mae eich system imiwnedd yn cynhyrchu gwrthgyrff. Sylwedd naturiol yw’r rhain sy’n helpu i’ch amddiffyn rhag feirysau a bacteria. Gall gwrthgyrff y mae eich corff yn eu creu basio i laeth y fron a gallant helpu i amddiffyn babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron. Nid oes yna dystiolaeth o niwed i’r baban, a disgwylir y bydd unrhyw olion yn cael eu torri i lawr gyda llaeth y fron yn stumog y baban.
Nid oes rhaid i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron i gael y brechlyn COVID-19.
Cael y brechlyn
A oes arnaf angen brechiad COVID-19 i deithio?
Nid yw’r GIG bellach yn cynnig brechiadau COVID-19 at ddibenion teithio.
Mae cyngor ar deithio dramor (Saesneg yn unig) ar gael.
Ble byddaf yn cael fy mrechiad COVID-19?
Efallai y bydd y brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig yn eich meddygfa, mewn fferyllfa gymunedol leol, mewn canolfan frechu, neu drwy dîm symudol. Os ydych yn gaeth i’r tŷ neu’n byw mewn cartref gofal ac yn methu cyrraedd meddygfa neu ganolfan frechu, mae yna gynlluniau ar waith i wasanaeth symudol ddod atoch chi. Gellir cynnig brechiad yn yr ysbyty i gleifion mewn ysbytai y mae angen iddynt gael eu brechu, os yw hynny’n bosibl.
Byddwch yn cael gwybod ble i gael eich brechlyn pan fyddwch yn cael manylion eich apwyntiad. Os na allwch fynd, rhowch wybod i’r tîm bwcio fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?
Mae’r brechlyn yn cael ei roi fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. Mae’r brechlyn yn cael ei roi i fabanod dan 12 mis oed trwy bigiad i’r glun.
A oes angen i mi adael bwlch rhwng cael fy mrechu rhag COVID-19 a chael brechlyn arall (er enghraifft, brechlyn rhag yr eryr neu’r feirws syncytiol anadlol (RSV))?
Gellir rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd, neu ar unrhyw gyfnod rhwng y rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd y darparwr gofal iechyd sy’n rhoi’r brechlyn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi.
Nid wyf wedi cael brechiad COVID-19, neu rwyf wedi methu un o’m dosau. A allaf gael y brechlyn o hyd?
Os ydych chi’n gymwys i gael brechiad COVID-19, dylech chi dal gael y brechlyn. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r cwrs sylfaenol bellach yn cynnwys dos sengl o frechlyn COVID-19. Cynigir cwrs sylfaenol dau ddos i blant rhwng 6 mis a 4 oed nad ydynt wedi derbyn brechlyn COVID-19 o’r blaen. Os oes gennych system imiwnedd sydd wedi’i gwanhau’n ddifrifol, efallai y bydd angen i chi gael mwy nag un dos. Siaradwch â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a fydd yn gallu trafod â chi nifer y dosau y dylech eu cael.
Sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn
Clywais fod yna sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19. Sut ydw i’n gwybod a yw neges e-bost, galwad ffôn neu neges destun yn ddilys?
Mae sgamwyr yn aml yn cysylltu trwy e-bost, galwadau ffôn, negeseuon testun, neu bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol. Efallai y byddant hyd yn oed yn galw yn eich cartref ac mae’n bosibl y byddant yn gofyn i chi am arian.
Cafwyd adroddiadau am sgamiau yn ymwneud â’r brechlyn COVID-19. Yng Nghymru, dim ond trwy fyrddau iechyd lleol y GIG y bydd brechlynnau COVID-19 ar gael.
Cofiwch:
- Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi am fanylion eich cyfrif banc neu gerdyn – mae’r brechlyn am ddim i’r sawl sy’n gymwys.
- Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi am eich PIN na’ch cyfrinair bancio.
- Ni fydd staff y GIG fyth yn galw yn eich cartref yn ddirybudd i roi’r brechlyn COVID-19 i chi.
- Ni fydd y GIG fyth yn gofyn i chi anfon copïau o ddogfennau personol megis eich pasbort, trwydded yrru, biliau, neu slipiau cyflog i brofi pwy ydych chi.
Os byddwch yn cael galwad, neges destun, neu neges e-bost yn honni ei bod yn llinell trefnu brechiad COVID-19 ac yn gofyn am eich manylion banc neu am arian, sgam yw hwn. Peidiwch byth â rhoi eich manylion banc dros y ffôn neu mewn neges e-bost i ffynhonnell anhysbys neu i unrhyw un na all gadarnhau pwy ydyw.
Mae rhagor o wybodaeth am ganfod twyll a sgamiau (Saesneg yn unig) ar gael.
Beth y dylwn ei wneud os byddaf yn cael galwad ffôn, neges destun, neu neges e-bost sy’n sgam yn fy ngwahodd i gael y brechlyn COVID-19?
- Os byddwch yn cael galwad yr ydych yn amau ei bod yn sgam, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. Gallwch roi gwybod i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8yb ac 8yh).
Os byddwch yn cael neges destun amheus sy’n sgam yn eich barn chi, gallwch ei hanfon i 7726. Gwasanaeth rhad ac am ddim yn y DU yw hwn i roi gwybod am negeseuon testun sgam. Mae 7726 yn sillafu SPAM ar fysellfwrdd ffôn. Peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni nac ymateb i’r neges destun.
Os ydych yn teimlo’n bryderus neu’n amheus ynghylch neges e-bost yr ydych wedi’i chael, anfonwch y neges i [email protected] fel y gellir adnabod y sgamiau hyn a’u hatal (Saesneg yn unig).
Pan fyddwch yn anfon y neges amheus ymlaen, byddwch yn cael ateb yn gofyn am y rhif a anfonodd y neges destun atoch. Bydd Action Fraud yn mynd ar drywydd y mater gyda darparwr eich ffôn symudol.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud cyn gynted â phosibl trwy ffonio 0300 123 2040 neu ewch i Report Fraud.
Gwnewch yn siŵr bod gan eich meddyg teulu eich manylion cyswllt diweddaraf fel y gellir cysylltu â chi i gael y brechlyn COVID-19 cyn gynted ag sy’n briodol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Ebrill 2026