Brechlyn Bacillus Calmette-Guérin (BCG) / TB - Gwybodaeth brechlyn BCG/TB i weithwyr iechyd
Cefndir
Mae twbercwlosis (TB) dynol yn cael ei achosi gan haint gyda’r bacteria Mycobacteriwm twbercwlosis cymhleth (M. tuberculosis, M. bovis, M. africanum neu M.microti) a gall effeithio ar unrhyw ran o’r corff bron. Y ffurf fwyaf cyffredin yw TB ysgyfeiniol. Mae symptomau TB yn amrywiol ac yn dibynnu ar leoliad yr haint. Gall y symptomau cyffredinol gynnwys y canlynol:
- tymheredd uchel
- dim awydd bwyd
- colli pwysau
- chwysu yn ystod y nos a
- blinder
Mae TB ysgyfeiniol yn achosi peswch cynhyrchiol parhaus fel rheol, a all gyd-fynd â sbwtwm gwaedlyd, neu, yn fwy anaml, haemoptysis amlwg. Heb ei drin, mae TB yn y rhan fwyaf o oedolion sy’n iach fel arall yn afiechyd sy’n datblygu’n araf a gall fod yn angheuol yn y pen draw.
Mae cyfraddau TB wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2009. Er gwaethaf hyn, mae’r afiechyd yn parhau i fod yn bryder. Er bod cyfanswm yr achosion wedi gostwng, cynyddodd cyfran yr achosion wedi’u geni yn y DU. Mae’r achosion hyn yn aml ymhlith poblogaethau sy’n adrodd am lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol fel digartrefedd, carchardai neu ddefnyddio cyffuriau.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch
Ym mhob achos, mae’n rhaid rhoi’r brechlyn BCG yn gwbl fewndermol, fel rheol yn rhan uchaf y fraich chwith ar y lefel lle mae’r cyhyr deltoid yn mynd i mewn (ychydig uwchben canol rhan uchaf y fraich chwith – fel yr argymhellir gan y WHO).
Canllawiau
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
- Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saesneg yn unig) – i ddarllen cyhoeddiadau a datganiadau’r JCVI allwch chwilio am e.e. BCG.
- Twbercwlosis – NICE (Saesneg yn unig)
Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi
Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu.
Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
Cyfarwyddiadau grwp cleifion
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen dudalen cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Mwy o adnoddau a gwybodaeth glinigol
Data a goruchwyliaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ebrill 2026