Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Bacillus Calmette-Guérin (BCG) / TB - Gwybodaeth brechlyn BCG/TB i weithwyr iechyd

Cefndir

Mae twbercwlosis (TB) dynol yn cael ei achosi gan haint gyda’r bacteria Mycobacteriwm twbercwlosis cymhleth (M. tuberculosis, M. bovis, M. africanum neu M.microti) a gall effeithio ar unrhyw ran o’r corff bron. Y ffurf fwyaf cyffredin yw TB ysgyfeiniol. Mae symptomau TB yn amrywiol ac yn dibynnu ar leoliad yr haint. Gall y symptomau cyffredinol gynnwys y canlynol:

  • tymheredd uchel
  • dim awydd bwyd
  • colli pwysau
  • chwysu yn ystod y nos a
  • blinder

Mae TB ysgyfeiniol yn achosi peswch cynhyrchiol parhaus fel rheol, a all gyd-fynd â sbwtwm gwaedlyd, neu, yn fwy anaml, haemoptysis amlwg. Heb ei drin, mae TB yn y rhan fwyaf o oedolion sy’n iach fel arall yn afiechyd sy’n datblygu’n araf a gall fod yn angheuol yn y pen draw.

Mae cyfraddau TB wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2009. Er gwaethaf hyn, mae’r afiechyd yn parhau i fod yn bryder. Er bod cyfanswm yr achosion wedi gostwng, cynyddodd cyfran yr achosion wedi’u geni yn y DU. Mae’r achosion hyn yn aml ymhlith poblogaethau sy’n adrodd am lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol fel digartrefedd, carchardai neu ddefnyddio cyffuriau.

Crynodeb o nodweddion cynnyrch

Ym mhob achos, mae’n rhaid rhoi’r brechlyn BCG yn gwbl fewndermol, fel rheol yn rhan uchaf y fraich chwith ar y lefel lle mae’r cyhyr deltoid yn mynd i mewn (ychydig uwchben canol rhan uchaf y fraich chwith – fel yr argymhellir gan y WHO).

Canllawiau

Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.

Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi

Gellir cael mynediad i gyrsiau ar-lein a deunyddiau hyfforddi am nifer y brechlynnau ac afiechydon drwy’r dudalen E-ddysgu.

Darperir rhagor o wybodaeth ac adnoddau hyfforddiant imiwneiddio ar y dudalen Adnoddau a Digwyddiadau Hyfforddi.

Adnoddau a gwybodaeth glinigol

Cyfarwyddiadau grwp cleifion

Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen dudalen cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.

Mwy o adnoddau a gwybodaeth glinigol

Data a goruchwyliaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21ain Ebrill 2026