Brechlyn dTaP/IPV (4 mewn 1) - Cymhwysedd ac apwyntiadau
Pryd mae’r brechlyn 4-mewn-1 yn cael ei gynnig?
Rhoddir y 4-mewn-1 i blant pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed. Mae’r brechlyn hwn yn rhoi hwb i’r amddiffyniad gan y brechlynnau 6-mewn-1 a gawsant fel babanod (a oedd yn cynnwys amddiffyniad rhag difftheria, tetanws, y pâs, polio, ffliw Haemophilus math b (Hib) a hepatitis B).
Cynigir y brechlyn ‘4 mewn 1’ hefyd mewn rhai amgylchiadau iechyd galwedigaethol.
Sut byddaf yn gwybod pan fydd angen i’m plentyn gael brechiadau?
Anfonir apwyntiad at blant ar gyfer eu brechiad 4 mewn 1 arferol pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau meddygon teulu a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig ar gyfer plant. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad, rhowch wybod i’ch practis meddyg teulu.
Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?
Dylech ganslo apwyntiad os na allwch fynd iddo. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gellir rhoi’r brechiad o hyd, ond bydd eich plentyn heb amddiffyniad am fwy o amser.
Cofiwch, mae’n bwysig cael brechiadau a gollwyd. Os yw’ch plentyn wedi colli brechiad ac yn hŷn na’r oedran a argymhellir ar ei gyfer, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd.
A oes angen brechlyn tetanws ar fy mabi os oes ganddo glwyf oherwydd toriad, brathiad neu anaf tebyg?
Cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i’r adran mân anafiadau neu adran argyfwng agosaf os ydych yn pryderu am glwyf, yn enwedig os:
- yw’n glwyf dwfn
- oes baw neu rywbeth y tu mewn i’r clwyf, neu
- nad yw eich plentyn wedi’i frechu’n llawn ar gyfer tetanws, neu os nad ydych yn siŵr.
Mae ‘clwyf’ yn cynnwys llosgiadau i’r croen a’r meinwe oddi tano.
Bydd meddyg neu nyrs yn asesu’r clwyf ac yn penderfynu a oes angen brechlyn tetanws ar eich babi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y brechlyn 4-mewn-1, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylid ei roi, cysylltwch â’ch meddygfa am gyngor.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Rhagfyr 2025