Brechlyn Td/IPV (atgyfnerthiad 3 mewn 1) - Gwybodaeth brechlyn 3 mewn 1 i weithwyr iechyd proffesiynol
Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn bigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau, er mwyn rhoi hwb i amddiffyniad yn erbyn 3 chlefyd ar wahân: tetanws, difftheria a pholio.
Mae tetanws, difftheria a pholio yn afiechydon hysbysadwy.
Y brechlyn, y dos a rhoi’r brechlyn
Revaxis® (Saesneg yn unig) yw enw brand y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 a roddir i bobl ifanc yn eu harddegau yn y DU. Mae’n frechlyn chwistrelladwy wedi’i anactifadu mewn dosau o 0.5ml, a gyflenwir mewn chwistrelli wedi’u llenwi ymlaen llaw. Dylid rhoi’r brechlyn trwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol i gyhyr deltoid y fraich uchaf.
Nid yw’n cynnwys unrhyw facteria na feirysau byw ac ni all achosi unrhyw un o’r afiechydon y mae’n gwarchod rhagddynt.
Rhoddir Revaxis® i blant tua 13 i 14 oed (blwyddyn ysgol 9) fel rhan o’r amserlen imiwneiddio reolaidd ar gyfer Cymru. Mae’n cael ei roi fel arfer tua 10 mlynedd ar ôl y pigiad atgyfnerthu cyn-ysgol.
Cynigir y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau fel mater o drefn ar yr un pryd â’r brechlyn MenACWY. Fel arfer, ac oni nodir yn wahanol, gellir rhoi’r rhan fwyaf o frechlynnau wedi’u anactifadu unrhyw bryd cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â’i gilydd. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u anactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw.
Pan fydd dau bigiad neu fwy yn cael eu rhoi ar yr un pryd, dylid eu rhoi mewn mannau ar wahân, yn ddelfrydol mewn aelod gwahanol. Os yw’n fwriad rhoi mwy nag un pigiad yn yr un aelod, dylid eu rhoi o leiaf 2.5cm oddi wrth ei gilydd.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC)
- Revaxis (Saesneg yn unig)
- Toddiant Revaxis® (Saesneg yn unig) i’w chwistrellu
Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Canllawiau
Argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru:
Y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (Saesneg yn unig) – darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau gan y JCVI; chwiliwch am e.e. tetanus, diphtheria, polio.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Plant ac oedolion sydd wedi methu brechiadau rheolaidd: manyleb gwasanaeth cenedlaethol atodol Awst 2025
Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi
Gellir cael mynediad at gyrsiau ar-lein ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â brechu drwy ESR a cheir dolen iddynt o dudalen e-Ddysgu Imiwneiddio.
Darperir gwybodaeth ac adnoddau hyfforddi ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y dudalen Adnoddau Hyfforddi a Digwyddiadau.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Difftheria – y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig)
- Tetanws – y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig)
- Polio – y llyfr gwyrdd (Saesneg yn unig)
- Tetanws: cyngor i weithwyr iechyd proffesiynol (Saesneg yn unig)
- Brechu unigolion sydd â statws imiwneiddio ansicr neu anghyflawn (Saesneg yn unig)
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar dudalen Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru.
Adnoddau brechlyn
- Templed llythyr gwahoddiad i gael y pigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau ac MenACWY
- Templed ffurflen gydsynio heb ei llenwi ar gyfer y brechlynnau 3 mewn 1 a MenACWY 2025-26
Sylwch: mae’r ffurflenni cydsynio heb eu llenwi hyn wedi’u diweddaru a gallant fod yn wahanol i’r ffurflenni cydsynio sydd wedi’u llenwi a gynhyrchir gan y system iechyd plant. - Dogfen friffio MenACWY a’r brechlyn Atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer penaethiaid a staff ysgolion
- Beth yw’r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau?
- Adnoddau ar gyfer y brechlyn MenACWY i blant oed ysgol a’r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau
- Poster cymysg 3 mewn 1 a MenACWY
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.
Data a goruchwyliaeth
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- Gwyliadwriaeth o Frechlynnau, Clefydau Ataliadwy drwy Frechlynnau a Heintiau Anadlol – (mae angen mynediad i’r GIG) yn cynnwys dolenni i ddata lefel ysgol, adroddiad imiwneiddio pobl ifanc yn eu harddegau ac adroddiad Brechiadau Rheolaidd i Blant (COVER)
- Data a gwyliadwriaeth
- Clefyd difftheria: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
- Tetanws: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
- Polio: canllawiau, data a dadansoddiad (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27ain Ebrill 2026