Brechlyn Td/IPV (atgyfnerthiad 3 mewn 1) - Gwybodaeth brechlyn 3 mewn 1 i weithwyr iechyd proffesiynol
Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn bigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau, er mwyn rhoi hwb i amddiffyniad yn erbyn 3 chlefyd ar wahân: tetanws (safle allanol), difftheria (safle allanol) a pholio (safle allanol).
Mae tetanws, difftheria a pholio yn afiechydon hysbysadwy.
Tetanws
Mae tetanws (safle allanol) yn glefyd acíwt sy’n arwain at anystwythder cyffredinol a sbasmau yn y cyhyrau ysgerbydol. Gall bacteria tetanws, sy’n cael eu canfod mewn pridd a thail, gael eu cyflwyno i’r corff trwy glwyf, llosgiad neu grafiad. Ar ôl iddynt fynd i mewn i’r corff maen nhw’n rhyddhau’r tocsin tetanws. Mae’r cyfnod magu rhwng 4 a 21 diwrnod.
Difftheria
Mae difftheria (safle allanol) yn glefyd heintus acíwt sy’n cael ei achosi gan y tocsin difftheria sy’n effeithio ar y llwybr anadlu uchaf a/neu’r croen. Caiff yr organeb ei lledaenu trwy ddiferion a chysylltiad ag eitemau halogedig. Mae ganddi gyfnod magu o 2 i 10 diwrnod. Mae’r clefyd hwn yn brin iawn yn y DU erbyn hyn
Poliomyelitis
Mae poliomyelitis (safle allanol) (polio) yn salwch acíwt sy’n cael ei achosi gan isdeipiau feirws polio 1, 2 neu 3. Mae’r feirws yn cyrraedd y corff trwy’r llwybr gastroberfeddol. Fel arfer mae’n lledaenu i ymosod ar feinwe nerfol, gan arwain at lid yr ymennydd neu barlys. Mae’r cyfnod magu rhwng 3 a 21 diwrnod.
Y brechlyn, y dos a rhoi’r brechlyn
Revaxis® (Safle allanol, Saesneg yn unig) yw enw brand y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 a roddir i bobl ifanc yn eu harddegau yn y DU. Mae’n frechlyn chwistrelladwy wedi’i anactifadu mewn dosau o 0.5ml, a gyflenwir mewn chwistrelli wedi’u llenwi ymlaen llaw. Dylid rhoi’r brechlyn trwy bigiad mewngyhyrol, yn ddelfrydol i gyhyr deltoid y fraich uchaf.
Nid yw’n cynnwys unrhyw facteria na feirysau byw ac ni all achosi unrhyw un o’r afiechydon y mae’n gwarchod rhagddynt.
Rhoddir Revaxis® i blant tua 13 i 14 oed (blwyddyn ysgol 9) fel rhan o’r amserlen imiwneiddio reolaidd ar gyfer Cymru. Mae’n cael ei roi fel arfer tua 10 mlynedd ar ôl y pigiad atgyfnerthu cyn-ysgol.
Cynigir y pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau fel mater o drefn ar yr un pryd â’r brechlyn MenACWY. Fel arfer, ac oni nodir yn wahanol, gellir rhoi’r rhan fwyaf o frechlynnau wedi’u anactifadu unrhyw bryd cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â’i gilydd. Gellir rhoi dosau o frechlynnau wedi’u anactifadu hefyd ar unrhyw gyfnod cyn, ar ôl, neu ar yr un pryd â brechlyn byw.
Pan fydd dau bigiad neu fwy yn cael eu rhoi ar yr un pryd, dylid eu rhoi mewn mannau ar wahân, yn ddelfrydol mewn aelod gwahanol. Os yw’n fwriad rhoi mwy nag un pigiad yn yr un aelod, dylid eu rhoi o leiaf 2.5cm oddi wrth ei gilydd.
Crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC)
Mae’n bwysig rhoi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir ar ôl awdurdodi’r cynnyrch meddyginiaethol. Mae’n galluogi’r cydbwysedd budd/risg y cynnyrch meddyginiaethol i gael ei fonitro’n barhaus. Dylech adrodd am amheuon am sgil-effeithiau brechlynnau a meddyginiaethau ar-lein yn: mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Canllawiau
Argymhellion y rhaglen frechu gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru:
Y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – GOV.UK (safle allanol, Saesneg yn unig) (darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau gan y JCVI; chwiliwch am e.e. tetanus, diphtheria, polio)
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Difftheria: Y llyfr gwyrdd, pennod 15 (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Tetanws: Y llyfr gwyrdd, pennod 30 (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Polio: Y llyfr gwyrdd, pennod 26 (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Tetanws: Cyngor i weithwyr iechyd (safle allanol, Saesneg yn unig)
- Brechu unigolion sydd gyda statws imiwneiddio ansicr ney angyflawn (safle allanol, Saesneg yn unig)
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Gellir dod o hyd i dempledi PGD ar gyfer brechlynnau ar y dudalen Cyfarwyddiadau Grwpiau Cleifion (PGDs) a Tudalen Glanio Protocolau – Iechyd Cyhoeddus Cymru Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau.
Rhagor o adnoddau a gwybodaeth clinigol
- Templed – Gwahoddiad i gael y pigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau + MenACWY
- Templed ffurflen gydsynio heb ei llenwi ar gyfer y brechlynnau 3 mewn 1 a MenACWY 2025-26 – Sylwch: mae’r ffurflenni cydsynio heb eu llenwi hyn wedi’u diweddaru a gallant fod yn wahanol i’r ffurflenni cydsynio sydd wedi’u llenwi a gynhyrchir gan y system iechyd plant.
- MenACWY a’r brechlyn Atgyfnerthu 3-mewn-1 Dogfen friffio
- Animeiddiad i Blant a Phobl Ifanc: Beth yw’r pigiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau?
- Comig plant a phobl ifanc: Beth yw’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 i arddegwyr?
Mae’r Amserlen Imiwneiddio Reolaidd Gyflawn yn cynnwys gwybodaeth am raglenni imiwneiddio rheolaidd a detholus a brechlynnau ychwanegol y gallai fod angen eu hystyried ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes.
Data a goruchwyliaeth
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- Gwyliadwriaeth o Frechlynnau, Clefydau Ataliadwy drwy Frechlynnau a Heintiau Anadlol – (mae angen mynediad i’r GIG) yn cynnwys dolenni i ddata lefel ysgol, adroddiad imiwneiddio pobl ifanc yn eu harddegau ac adroddiad Brechiadau Rheolaidd i Blant (COVER)
- Data a gwyliadwriaeth
- Difftheria: arweiniad, data a dadansoddiad gan UKHSA (safle allano, Saesneg yn unigl)
- Tetanws: arweiniad, data a dadansoddiad gan UKHSA (safle allanol, Saesneg yn unigl)
- Polio: arweiniad, data a dadansoddia gan UKHSA (safle allanol, Saesneg yn unigl)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8fed Ionawr 2026