Neidio i'r cynnwys

Atal cenhedlu - Y bilsen ddyddiol

Y bilsen gyfun (COC)

Fel arfer rydym yn cyfeirio at y bilsen gyfun fel ‘y bilsen’. Mae’n cynnwys dau hormon – estrogen a progestogen. Mae’r rhain yn debyg i’r hormonau naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau. Mae gwahanol fathau o bils cyfun a gwahanol ffyrdd o’u cymryd.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am y bilsen gyfun.

Pilsen progestogen yn unig (POP)

Mae pils progestogen yn unig (POPs) yn cynnwys hormon progestogen. Mae hwn yn debyg i’r progesteron naturiol a gynhyrchir gan yr ofarïau. Mae POPs yn wahanol i bils cyfun gan nad ydynt yn cynnwys yr hormon estrogen.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am y bilsen progestogen yn unig.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025