Neidio i'r cynnwys

Atal cenhedlu - Dull atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor (LARC)

Mae rhai dulliau atal cenhedlu nad oes rhaid i chi eu cymryd bob dydd, neu bob tro rydych yn cael rhyw. Mae’r dull atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor, unwaith y bydd yn ei le, yn effeithiol am fisoedd neu flynyddoedd.

Mae 99% yn sicr o atal beichiogrwydd, felly mae’n fwy effeithiol nag unrhyw ddull atal cenhedlu arall.

Mewnblaniad

Rhoddir rhoden fach, hyblyg o dan y croen yn rhan uchaf eich braich. Mae’n rhyddhau’r hormon progestogen. Mae’n atal ofwliad (rhyddhau wy), yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy, ac yn teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth. Mae’n gweithio am hyd at dair blynedd.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth ar y mewnblaniad atal cenhedlu.

Dyfais fewngroth gopr (IUCD) neu “Coil”

Gosodir dyfais fach o blastig a chopr yn y groth. Enw arall ar y ddyfais yw’r ‘coil’ neu’r ‘coil copr’. Mae’r copr yn atal sberm rhag goroesi, ac mae’n addasu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy. Gall IUCD hefyd atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth.

Mae gwahanol fathau o IUCDs, i siwtio gwahanol fenywod. Gall IUCD aros i mewn am 5-10 mlynedd, gan ddibynnu ar y math o ddyfais. Mae’n bosibl gadael rhai mathau o IUCDs tan y menopos os ydynt yn cael eu gosod mewn menywod dros 40 oed.

Am wybodaeth ar sut i gael y driniaeth hon yn eich ardal chi cysylltwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Neu gallwch ofyn ym mhractis eich meddyg teulu.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am yr IUCD.

Y system fewngroth (IUS)

Gosodir dyfais fach blastig siâp T yn y groth. Mae’r ddyfais hon yn rhyddhau’r hormon progestogen, sy’n teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth, ac yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy. Gall bara am hyd at 5 mlynedd ond gellir ei thynnu unrhyw bryd.

Am wybodaeth ar sut i gael y driniaeth hon yn eich ardal chi cysylltwch â’ch clinig iechyd rhywiol lleol. Neu gallwch ofyn ym mhractis eich meddyg teulu.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am y system fewngroth.

Chwistrelliadau atal cenhedlu

Mae chwistrelliad (neu pigiad) atal cenhedlu’n rhyddhau’r hormon progestogen sy’n atal ofwliad (rhyddhau wy), yn tewychu mwcws gwddf y groth i atal sberm rhag cyrraedd wy, ac yn teneuo leinin y groth i atal wy wedi’i ffrwythloni rhag mewnblannu yn y groth.

Ni ellir tynnu’r chwistrelliad o’r corff, felly gallai unrhyw sgil effeithiau barhau cyhyd ag y mae’n gweithio ac am beth amser ar ôl hynny.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am chwistrelliadau atal cenhedlu.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025