Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Diogelwch brechlynnau
Gwrtharwyddion ac ystyriaethau arbennig
- Gwrtharwyddion a ystyriaethau arbennig ar y llyfr gwyrdd, pennod 6.
- Triniaeth brys o ymatebion anaffylactig: Canllawiau ar gyfer darparwyr gofal iechyd ar wefan Cyngor Adfywiad y DU.
Digwyddiadau andwyol ar ôl imiwneiddio
- Diogelwch brechlynnau a digwyddiadau niweidiol ar ôl brechu ar y llyfr gwyrdd, pennod 8.
- Monitro a gwylio diogelwch brechlynnau ar y llyfr gwyrdd, pennod 9.
Nid oes y fath beth â brechlyn “perffaith”, sy’n rhoi amddiffyniad 100% i bawb sy’n ei gael, neu un sy’n gwbl ddiogel i bawb yn y boblogaeth ei dderbyn. Gall brechlynnau effeithiol (h.y. brechlynnau sy’n ysgogi imiwnedd amddiffynnol) greu rhai sgil-effeithiau annymunol, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ysgafn ac yn gyffredinol maent yn gwella’n gyflym. Mae llawer o ddigwyddiadau y credir eu bod yn gysylltiedig â brechu nad ydynt o ganlyniad i’r brechlyn ei hun mewn gwirionedd. Fel arfer, nid yw’n bosibl rhagweld pa unigolion a allai gael adwaith i frechlyn. Bydd dilyn canllawiau ar wrtharwyddion yn sicrhau bod y risg o effeithiau andwyol difrifol yn cael ei lleihau i’r eithaf.
Rhoi gwybod am faterion diogelwch brechlynnau
Mae’r Cynllun Cerdyn Melyn yn hanfodol o ran helpu’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) i fonitro diogelwch brechlynnau yn y DU. Dylid rhoi gwybod am bob ymateb andwyol difrifol i gyffuriau (ADR) a amheuir ar gyfer meddyginiaethau a brechlynnau sefydledig, hyd yn oed os yw’r effaith yn cael ei chydnabod yn dda. Nid oes rhaid profi achosiaeth er mwyn rhoi gwybod am ADR a amheuir, dim ond amheuaeth sydd ei hangen.
- Gwneud meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn fwy diogel ar dudalen Cynllun Cerdyn Melyn ar wefan llywodraeth DU.
- Y Cynllun Cerdyn Melyn: canllawiau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd ar wefam llywodraeth DU.
- Adroddiad Cerdyn Melyn ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar dudalen Canolfan Therapi a Thocsicoleg Cymru Gyfan ar wefan GIG Cymru.
Ar gyfer materion brys sy’n gysylltiedig â diffyg a amheuir mewn brechlyn, dylid rhoi gwybod o’r Ganolfan Adrodd Meddyginiaethau Diffygiol yr MHRA ar wefan llywodraeth DU.
Gellir rhoi gwybod am unrhyw sgil-effeithiau a amheuir mewn perthynas â brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r cynllun Cerdyn Melyn yn wefan MHRA.
Gall y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddod o hyd i ragor o wybodaeth am waith asiantaeth yr MHRA, rhybuddion diogelwch, a sut i roi gwybod am unrhyw broblemau yn wefan llywodraeth DU.
Mae gwefan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn cadw cofrestr o wefannau dibynadwy wedi’u dilysu y gellir eu hargymell i rieni a gweithwyr proffesiynol.
Rhybuddion brechlyn
Gellir dod o hyd i’r rhybuddion diogelwch, rhybuddion ac achosion o alw yn ôl diweddaraf yr MHRA ar wefan llywodraeth DU.
Cynllun triongl du
Mae gan frechlynnau newydd sy’n destun monitro ychwanegol driongl du gwrthdro (▼) wedi’i arddangos yn eu taflen pecyn a chrynodeb o nodweddion y cynnyrch, ynghyd â brawddeg fer yn esbonio beth mae’r triongl yn ei olygu – nid yw’n golygu nad yw’r brechlyn yn ddiogel. Dylid rhoi gwybod am bob ADR ar gyfer y brechlynnau hyn. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y Cynllun Triongl Du ar wefan llywodraeth DU.
Gwyliadwriaeth a monitro ar gyfer diogelwch brechlynnau
Monitro a gwylio diogelwch brechlynnau ar y llyfr gwyrdd, pennod 9.
Dewch o hyd i wybodaeth am wyliadwriaeth brechu:
- Goruchwyliaeth imiwneiddio
- COVER – Data cenedlaethol ar imiwneiddio i blant (Angen diweddaru linc)
Cynllun taliad niwed trwy frechiad
Cynllun Taliadau Difrod Brechlynnau ar y llyfr gwyrdd, pennod 10.
Mae’r Cynllun Taliadau Difrod Brechlynnau yn darparu un taliad, di-dreth i bobl (neu eu teuluoedd) sydd wedi dioddef anabledd meddyliol a/neu gorfforol difrifol o ganlyniad i imiwneiddio rhag clefydau penodol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mehefin 2025