Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Storio, dosbarthu a gwaredu brechlynnau

Storio, dosbarthu a gwaredu brechlynnau ar y llyfr gwyrdd, pennod 3 (Saesneg yn unig).

Mae trafod a storio brechlynnau’n gywir cyn eu rhoi yn hanfodol er mwyn cynnal effeithiolrwydd brechlynnau.  Y cysyniad allweddol yw’r tymheredd cyson, sy’n cynnwys popeth sy’n angenrheidiol i gadw brechlynnau o dan yr amodau storio gofynnol o’r gwneuthurwr hyd at eu rhoi.

Mae sensitifrwydd tymheredd brechlynnau gan Sefydliad Iechyd y Byd (Saesneg yn unig) yn cynnig gwybodaeth am reoli brechlynnau i’w diogelu rhag gwres ac oerfel ac mae’n cynnwys manylion am sefydlogrwydd brechlynnau a ddefnyddir fel rhan o raglenni imiwneiddio cenedlaethol.

Canllawiau Digwyddiadau Brechu: ymateb i gamgymeriadau brechu (Saesneg yn unig) (Diweddarwyd Gorffennaf 2022) Canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud ag imiwneiddio ar gamau i’w cymryd mewn ymateb i gamgymeriadau brechu.

Dylid defnyddio ImmForm hefyd i roi gwybod am ddigwyddiadau yn y gadwyn oer (Saesneg yn unig).

Defnyddio brechlynnau oddi ar y label

Weithiau mae’r dosau ar gyfer rhai brechlynnau plentyndod trwyddedig yn wahanol (“oddi ar y label”) i’r dosau a argymhellir yng Nghrynodeb o Nodweddion Cynnyrch (SPC) y cwmni. Gelwir hyn yn gyffredinol yn ddefnydd “oddi ar y label”.

Yn yr achosion hyn, mae’r argymhelliad “oddi ar y label” yn cael ei ategu gan ganllawiau gan y llywodraeth, y JCVI neu un o argymhellion y Llyfr Gwyrdd ac mae wedi’i gynnwys yn y templedi PGD.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8fed Ebrill 2026