Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth iechyd rhywiol - Ydych chi’n cael eich brifo?

Ydych chi mewn perthynas lle rydych chi’n cael eich brifo’n gorfforol neu’n emosiynol?

Mae unrhyw un yn gallu dioddef cam-drin domestig. Mae’n gallu bod yn seicolegol, yn rhywiol, yn gorfforol, yn ariannol neu’n emosiynol. Mae unrhyw fath o gam-drin domestig yn annerbyniol.

Os oes angen help arnoch chi ffoniwch 0808 80 10 800, Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am ddim 24 awr y dydd. Mae’r llinell gymorth hon yn cefnogi menywod a dynion sy’n dioddef cam-drin domestig.

Gallwch hefyd gysylltu â’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn drwy anfon neges destun 24/7 ar 078600 77 333 neu drwy eu gwasanaeth e-bost uniongyrchol yn [email protected].

Os ydych chi’n poeni y bydd eich camdriniwr yn gwirio eich hanes chwilio ar y rhyngrwyd, mae cyngor ar sut i guddio’ch hanes ar-lein.

Ydych chi’n chwilio am help ar ôl ymosodiad rhywiol diweddar?

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin rhywiol neu ymosodiad rhywiol, efallai eich bod yn teimlo’n ddryslyd ac yn ofnus a ddim yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Mae gwasanaethau ar gael sy’n gallu helpu: Animeiddio CAYR – YouTube.

Does dim rhaid i chi riportio’r ymosodiad i’r heddlu os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Efallai fod angen amser arnoch i feddwl am beth sydd wedi digwydd i chi. Serch hynny, meddyliwch am gael help meddygol cyn gynted â phosibl, oherwydd efallai eich bod mewn risg o fod yn feichiog neu gael haint a drosglwyddir yn rhywiol.

I gael gwybodaeth am trais ac ymosodiad rhywiol, ewch i GIG 111 Cymru.

Canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yng Nghymru

Mae canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yn cynnig cefnogaeth feddygol, ymarferol ac emosiynol. Mae ganddynt ddoctoriaid, nyrsys a gweithwyr cymorth y GIG wedi’u hyfforddi’n arbennig i ofalu amdanoch chi.

Mae modd dod o hyd i Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru yma.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025