Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth iechyd rhywiol - Cemryw

Beth yw cemryw?

Mae ‘Cemryw’ (Chemsex yn Saesneg) yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio cyffuriau i wella rhyw. Yn fanwl gywir, mae cemryw yn cyfeirio at ddynion hoyw neu ddeurywiol sy’n defnyddio cyffuriau i hwyluso rhyw gyda dynion eraill.

Yn y DU o leiaf, mae ymchwil yn awgrymu bod cemryw fel rheol yn cynnwys un (neu gymysgedd) o dri ‘chemegyn’ (cyffuriau) sy’n cael eu cymryd cyn neu yn ystod rhyw. Mae pobl yn dweud bod y cyffuriau yma’n gwneud iddyn nhw deimlo’n llai swil ac yn cynyddu’r pleser.

Beth yw cyffuriau cemryw?

Y prif gyffuriau mae pobl yn eu cymryd fel rhan o gemryw yw meffedron, gama-hydrocsibwtyrat (GHB), gama-bwtyrolacton (GBL), a chrisialau methamffetamin.

Meffedron

Mae meffedron yn symbylydd. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel meff, drôn neu miaw miaw.

Fel arfer mae pobl yn cymryd meffedron drwy’r trwyn ond gellir ei ddefnyddio drwy ei lyncu, ei ysmygu neu drwy nodwydd hefyd. Ei effaith yw gwneud i bobl deimlo’n effro, wedi cyffroi, yn hyderus ac yn ewfforig. Fodd bynnag, mae hefyd yn gallu gwneud i bobl deimlo’n sâl, yn bryderus ac yn paranoid. Mae’n gallu achosi rhithweledigaethau, diffyg cwsg, llai o archwaeth bwyd, penysgafndod a chwysu. Mae goddefgarwch i’r cyffur hwn yn datblygu’n gyflym felly mae’r dyhead i gymryd mwy a mwy yn cynyddu gan arwain at fod yn gaeth iddo o bosib.

Methamffetamin

Mae methamffetamin yn symbylydd. Mae hefyd yn cael ei adnabod yn Saesneg fel “Meth”, “Ice”, “Clouds”, “Crystal”, “Crystal meth”, “Glass”, “Tik” a “Speed”.

Mae pobl yn cymryd crystal meth, neu grisialau meth yn y Gymraeg, drwy ei lyncu, drwy’r trwyn, o nodwydd neu drwy ei ysmygu. Mae’n gwneud iddyn nhw deimlo’n effro ac wedi cyffroi, ond mae hefyd yn gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n flin ac yn paranoid.

Gall methamffetamin gynyddu curiad y galon a chodi pwysedd y gwaed, sy’n gallu arwain at broblemau gyda’r galon. Cafwyd adroddiadau hefyd am seicosis o gymryd methamffetamin. Ceir tystiolaeth o broblemau iechyd meddwl tymor hir a difrod i’r ymennydd. Gallwch farw o gymryd gor-ddos.

GHB a GBL

Tawelyddion yw GHB a GBL. Eu henwau yn llawn yw gamahydrocsibwtyrat a gamabwtyrolacton, ac maent hefyd yn cael eu hadnabod fel G, Geebs a hylif ecstasi.

Fel rheol mae GHB a GBL yn hylif olewaidd mae pobl yn ei gymysgu gyda diod ac yn ei lyncu. Maent yn gwneud i bobl deimlo’n ewfforig, yn llai swil ac yn gysglyd hefyd weithiau.

Gyda GHB a GBL, mae’n anodd gwybod faint o’r cyffur rydych chi’n ei gymryd felly mae’n hawdd cymryd gor-ddos. Gall y gor-ddos eich gwneud yn anymwybodol ac, mewn rhai achosion, gall fod yn angheuol. Hefyd, os na fyddwch yn rhoi digon o ddiod arall gyda hwy, gall GHB a GBL losgi’r geg a’r gwddw o’u llyncu.

Am fwy o wybodaeth am gyffuriau, ewch i DAN 24/7.

Ydi cemryw yn ddiogel?

Er bod ffyrdd i’ch cadw eich hun yn fwy diogel, mae risgiau cysylltiedig:

  • Mae cymryd cyffuriau drwy nodwydd yn beryglus

Weithiau mae pobl yn defnyddio nodwydd neu’n ‘slamio’ crystal meth a meffedron. Gyda hyn mae risg gynyddol o heintiau cysylltiedig â nodwyddau a firysau sy’n cael eu cludo yn y gwaed fel HIV, hepatitis C (HCV) a hepatitis B os ydych chi’n rhannu offer.

  • Gall arwain at ryw anniogel

Os ydych chi dan ddylanwad cyffuriau, efallai na fyddwch yn defnyddio condom, sy’n gallu arwain at risg o HIV a heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs).

Bydd pobl sy’n profi anterth ar ôl cymryd rhai cyffuriau yn cael rhyw ffyrnicach nag arfer weithiau, sy’n gallu achosi gwaedu.

Gan fod GHB a GBL yn gallu gwneud pobl yn anymwybodol yn rhwydd, mae eu defnydd wedi cael ei gysylltu â thrais rhywiol ac ymosodiadau rhywiol eraill.

Ymosodiadau, cemryw a’r gyfraith

Os ydych chi’n cymryd rhan mewn cemryw a bod rhywbeth yn digwydd nad ydych chi wedi rhoi caniatâd iddo, neu os oes rhywun wedi ymosod arnoch chi, rydyn ni’n deall y gallech chi fod yn nerfus am roi gwybod amdano, ond rydyn ni’n gobeithio y bydd y cyngor hwn, sydd wedi’i ddarparu gan yr heddlu, yn rhoi sylw i’r pryderon hynny:

Os ydych chi o dan ddylanwad cyffuriau

Mae pob honiad am drosedd yn cael ystyriaeth ddifrifol ac mae ymosodiadau rhywiol yn cael sylw sensitif gan swyddogion sydd wedi cael hyfforddiant arbennig, o’r enw swyddogion SOIT (Technegau Ymchwilio i Droseddau Rhywiol).

Maen nhw’n cael eu hyfforddi i ddeall yr anawsterau mae rhywun sy’n rhoi gwybod am drais rhywiol yn eu hwynebu a gallant eich cyfeirio chi at y gwasanaethau cefnogi mwyaf priodol. Os byddwch yn rhoi gwybod i’r heddlu am ymosodiad rhywiol, eich swyddog SOIT fydd eich pwynt cyswllt gyda hwy.

Bydd yn gofyn a ydych chi wedi cymryd neu ddefnyddio cyffuriau neu alcohol, yn bennaf er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo’n ddigon da i roi cofnod priodol o beth ddigwyddodd, ac i gytuno (cydsynio) yn gyfreithiol i archwiliad meddygol. Os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny, gallant gymryd gwybodaeth sylfaenol gennych chi a chymryd datganiad a gwneud profion yn nes ymlaen.

Mae hefyd yn bwysig bod yr heddlu’n gwybod o’r dechrau a oedd unrhyw gyffuriau a/neu alcohol yn gysylltiedig, oherwydd os bydd hyn yn cael ei ddweud yn nes ymlaen, gall effeithio ar ba mor dda y bydd rhywun yn eich credu chi. Nid am eich bod chi wedi cymryd cyffuriau, ond am na wnaethoch roi’r wybodaeth lawn o’r dechrau, sy’n gallu edrych fel pe baech yn ceisio cuddio rhywbeth.

Ni fyddwch yn cael eich arestio am ddefnyddio neu ddweud wrthym ni eich bod wedi defnyddio cyffuriau; nid yw hynny’n anghyfreithlon.

Gallwch roi gwybod am ymosodiad rhywiol drwy ffonio 101 os nad yw’n argyfwng, ac ar 999 os ydych chi neu rywun arall mewn perygl ar unwaith.

Os ydych chi eisiau rhoi gwybod i’r heddlu yn ddienw, fe allwch chi wneud hynny.

Dyma rai ffyrdd o roi gwybod am bethau’n ddienw:

Os oes gennych chi gyffuriau yn eich meddiant

Os byddwch chi’n dweud wrth yr heddlu bod gennych chi gyffuriau yn eich meddiant, neu eich bod wedi cyflenwi (rhannu neu werthu) cyffuriau yn y gorffennol, ni fyddant yn gallu anwybyddu hyn, gan fod meddiant corfforol, cyflenwi neu feddiant gyda bwriad i gyflenwi (PWITS) yn droseddau cyfreithiol.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd pan oeddech chi’n cymryd cyffuriau, ac os na fyddwch yn dweud wrthyn nhw ond ei fod yn cael ei ddatgelu yn nes ymlaen, gall effeithio ar unrhyw achos llys yn y dyfodol. Efallai y cewch eich gweld fel tyst neu ddioddefwr llai dibynadwy am eich bod wedi dal gwybodaeth yn ôl. Ond cewch gyfle i esbonio pam y gwnaethoch chi hyn.

Y gyfraith sy’n delio gyda throseddau cyffuriau yw Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 (Saesneg yn unig).

Os cewch eich arestio

Ni fyddwch yn cael eich arestio am ddefnyddio cyffuriau wrth gael rhyw; os byddwch yn cyfaddef i droseddau cyfreithiol (e.e. cyflenwi cyffuriau, cyflawni trais rhywiol neu droseddau rhywiol eraill), byddwch yn cael eich arestio.

Os ydych chi’n gweithio gyda phlant neu oedolion agored i niwed (fel cyflogai neu wirfoddolwr), efallai y bydd yr heddlu yn dweud wrthyn nhw eich bod wedi cael eich arestio, ond mae hyn yn dibynnu ar y drosedd neu bethau eraill. Yr enw ar hyn yw datgeliad.

Does dim rhestr benodol o swyddi neu fathau o swyddi a fydd yn arwain at yr heddlu’n dweud wrth eich cyflogwr, neu sefydliad ble rydych yn gwirfoddoli, os cewch eich arestio. Yn hytrach, mae gan yr heddlu bŵer i benderfynu pa wybodaeth i’w datgelu, ac i bwy – daw hyn o dan y cynllun Datgeliad Heddlu’r Gyfraith Gyffredin (CLPD) (Saesneg yn unig).

Dim ond os yw’n datgan ‘risg sylweddol’ ddylai’r heddlu ddatgelu gwybodaeth, neu os oes angen cymdeithasol â ‘brys mawr’ i roi sylw iddo. Dywed Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) y gall ‘angen cymdeithasol brys fod yn ddiogelu neu warchod rhag niwed unigolyn neu grŵp o unigolion neu gymdeithas yn gyffredinol’. Mae gan yr heddlu ddyletswydd i sicrhau cydbwysedd rhwng budd cyhoeddus â’ch hawliau, gan gynnwys sut gall datgeliad effeithio ar eich bywyd preifat.

Os ydych chi mewn swydd neu rôl wirfoddol sy’n cynnwys bod mewn sefyllfa o ymddiriedaeth neu gyfrifoldeb gyda’r cyhoedd, bydd yr heddlu yn ystyried gwneud datgeliad yn sicr. Bydd eu penderfyniad yn seiliedig ar y canlynol:

  • eich swydd/math o waith
  • y drosedd yr ymchwilir iddi
  • unrhyw amgylchiadau penodol
  • asesiad o’r risg i unigolyn neu grŵp o bobl

Rhaid i unrhyw ddatgeliad gael ei awdurdodi gan swyddog profiadol.

Nid yw’r heddlu’n gallu gwneud penderfyniad am beth sy’n digwydd gyda’ch swydd chi – dim ond rhoi’r wybodaeth i’ch cyflogwr fel ei fod ef yn gallu penderfynu beth i’w wneud, os oes angen gwneud unrhyw beth. Dylai eich cyflogwr fod â pholisïau yn eu lle ar gyfer penderfynu beth i’w wneud, os unrhyw beth. Dylai eich cyflogwr fod â pholisïau yn eu lle ar gyfer sut i ddelio â’r sefyllfa hon.

A fydd yr heddlu’n dod os bydd ambiwlans yn cael ei galw?

Mae’r heddlu’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans i weld pryd mae angen iddyn nhw fynychu pan gânt eu galw.

Maent yn debygol o fynychu os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae amheuaeth bod trosedd wedi’i chyflawni
  • efallai y bydd rhaid gorfodi mynediad (i eiddo) er mwyn i griw yr ambiwlans fynd i mewn
  • efallai bod y claf yn beryglus iddo’i hun
  • efallai bod y claf yn beryglus i griw yr ambiwlans

Mae llawer o resymau penodol i heddlu allu mynd i mewn i eiddo (a chwilio ynddo) heb warant. Hefyd mae gan yr heddlu bŵer cyffredinol i fynd i mewn ac arestio rhywun neu ‘achub bywyd’. Felly, er enghraifft, os bydd criw ambiwlans yn cyrraedd ac os bydd y preswylydd yn gwrthod mynediad, byddant yn ffonio’r heddlu am help.

Wedyn gall yr heddlu ddefnyddio eu pŵer os ydyn nhw’n teimlo bod rhaid iddyn nhw gael mynediad i achub neu warchod bywyd rhywun. Fodd bynnag, os yw’r Gwasanaeth Ambiwlans eisoes y tu mewn yn delio gyda’r sefyllfa, ni fyddai’r pŵer i achub bywyd yn berthnasol, oherwydd ni fyddai’n angenrheidiol er mwyn mynd i mewn i’r eiddo.

Mae’n bosib y bydd gwrthod mynediad yn edrych yn amheus, ond mae gennych chi hawl i ddweud na.

Y gyfraith sy’n delio gyda throseddau cyffuriau yw Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (Saesneg yn unig).

Sut i wneud cemryw yn fwy diogel

Mae gan y sefydliad LHDT rywfaint o gynghorion ar gyfer lleihau’r risgiau os ydych chi’n cael cemryw (Saesneg yn unig), gan gynnwys y canlynol:

  • Defnyddio condoms a lube
  • Gosod rheolau sylfaenol pan rydych chi’n sobor am beth rydych chi eisiau ac ddim ei eisiau
  • Peidio â rhannu nodwyddau nac unrhyw offer cymryd cyffuriau
  • Cymryd PrEP i warchod rhag HIV
  • Cael profion rheolaidd am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

Hefyd dylech osgoi cymysgu cyffuriau gydag alcohol neu unrhyw gyffuriau eraill a cheisio defnyddio gyda phobl eraill o’ch cwmpas chi y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw.

Rhyngweithio â meddyginiaeth HIV

Mae llawer o ryngweithio’n bosib rhwng cyffuriau hamdden a meddyginiaeth HIV, ac mae rhai’n gallu bod yn beryglus. Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth HIV, gallwch wirio am ryngweithio ar y siart rhyngweithiad cyffuriau gan Brifysgol Lerpwl (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Medi 2025