Gwybodaeth iechyd rhywiol - Pornograffi
Gall pornograffi achosi problemau difrifol i bobl ifanc. Mae ysgolion yn cael eu hannog i ddefnyddio Addysg Perthnasoedd a Rhyw APRh i adnabod rhai o’r effeithiau negyddol y gall p ornograffi eu cael ar wylwyr.
Dyma’r negeseuon allweddol a gyflwynir drwy APRh:
- gall pornograffi gyflwyno syniadau camarweiniol am ymddygiad rhywiol
- gall pornograffi niweidio’r ffordd mae pobl yn gweld eu hunain
- gall pornograffi gael effaith negyddol ar sut mae pobl ym ymddwyn tuag at eu partneriaid rhywiol
- dim ond rhyw fel gweithred gorfforol mae pornograffi yn ei ddangos, nid yng nghyd-destun perthynas gariadus
Os yw pornograffi’n cael ei wylio fel ffordd o ddysgu am ryw a deall ymddygiad rhywiol, gall roi disgwyliadau ffug, afrealistig a threisgar yn aml o ryw. N id yw’r disgwyliadau ar gyfer dynion ac ar gyfer merched yn ardd angos feydd cywir yn aml o sut mae cwpl heterorywiol neu hoyw yn ymddwyn yn ystod rhyw. Ni ddylech fyth deimlo dan bwysau i gyflawni unrhyw weithred rywiol na chymryd rhan mewn unrhyw ymddygiad rhywiol nad ydych yn hapus ag ef, neu sy’n eich gwneud yn anghyfforddus.
Hefyd mae’n bwysig cofio, ym myd porn, bod y dynion a’r merched yn aml yn anarferol o hardd a lluniaidd, sy’n gallu rhoi delwedd ffug o sut mae corff “normal” yn edrych ac yn gallu achosi delwedd corff gwael.
Dylai oedolion fod yn ymwybodol o ba mor hawdd ydyw i blant a phobl ifanc weld porn a sut i’w hamddiffyn rhag ymddygiadau afrealistig mewn pornograffi. Mae angen iddynt fod yn barod i siarad â phobl ifanc am hyn a darparu’r wybodaeth gywir, os yw pobl ifanc yn ddryslyd a/neu os oes ganddynt gwestiynau am ryw/ymddygiad rhywiol neu berthnasoedd.
Hefyd dylai oedolion fod yn ymwybodol y gall pornograffi arwain at ganlyniadau negyddol, gan gynnwys caethiwed, llai o foddhad rhywiol, gwneud i rai arferion rhywiol ymddangos yn fwy deniadol nag y byddent fel arall, mwy o hunanwrthrycholi a chywilydd o’r corff, a gall roi pwysau ar berson i gyflawni gweithredoedd rhywiol nad ydynt eisiau eu cyflawni.
Nid yw’r rhan fwyaf o fideos pornograffig yn dangos rhyw diogel. Mewn llawer o fideos ni ddangosir yr actorion yn gwisgo condomau, ond mae’r actorion hyn yn cael prawf STIs yn rheolaidd iawn. Mae’n bwysig iawn gwybod mai condomau yw’r unig ffordd o amddiffyn eich hun rhag Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025