Neidio i'r cynnwys

Brechlynnau i blant 0-5 oed

Mae’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio (brechu) ar gyfer babanod a phlant yn 2025 a 2026.

Mae rhaglenni brechu yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod plant yn cael yr amddiffyniad gorau rhag clefydau ataliadwy trw frechu, fel y frech goch a llid yr ymennydd. Gall y rhaglenni hyn newid o ganlymniad i ymchwil neu pan fydd brechlynnau newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ewch i dudalen newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.

Cael ein brechu yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hunain a’n plant rhag salwch difrifol. Mae brechiadau yn atal miliynau o farwolaethau ar draws y byd bob blwyddyn. Yn aml, babanod a phlant sydd fwyaf agored i niwed oherwydd clefydau y gallai brechlynnau eu hatal.  

Mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws, a oedd yn arfer anablu neu ladd miliynau o bobl naill ai wedi diflannu neu’n brin iawn ers i’r brechiad gael ei gyflwyno yn y DU. Mae clefydau eraill, fel difftheria a’r frech goch, wedi lleihau i nifer bach iawn o achosion. Fodd bynnag, mae achosion o’r frech goch wedi dechrau cynyddu eto yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder gan y gall y frech goch arwain at gymhlethdodau difrifol sy’n peryglu bywyd, fel meningitis

Gwybodaeth:

Rhowch y dechrau gorau mewn bywyd i’ch plant, a sicrhewch eu bod yn gyfredol gyda’u brechiadau arferol.

Bydd eich plant yn cael cynnig brechlynnau eraill pan fyddant yn cyrraedd oedran mynd i’r ysgol. Gweler yr amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn ar gyfer Cymru. 

Cwestiynau cyffredin 

Pam mae brechiadau mor bwysig i fabanod a phlant bach?

Mae brechiadau yn helpu i ddiogelu eich plentyn drwy baratoi ei system imiwnedd i ymladd yn erbyn gwahanol fathau o salwch sy’n lledaenu rhwng pobl (clefydau heintus). Mae rhai clefydau yn peri mwy o risg i fabanod a phlant bach oherwydd gall y symptomau fod yn fwy difrifol ac achosi niwed parhaol i’w hiechyd, neu arwain at farwolaeth hyd yn oed. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu hatal rhag dal y clefydau.

Mae’r rhaglenni brechu yn y DU yn effeithiol iawn. Mae hyn yn golygu bod clefydau fel y frech goch, polio a difftheria yn brin yn y DU. Fodd bynnag, os na chaiff babanod a phlant bach eu brechu rhag y clefydau hyn, gallant ddod yn fwy cyffredin eto. Gall llawer o’r clefydau hyn fod yn arbennig o ddifrifol ymhlith babanod a phlant bach.

Pam mae angen brechu babanod pan fyddant mor ifanc?

Gall rhai clefydau heintus wneud babanod yn ddifrifol wael. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod babanod yn cael eu diogelu cyn gynted â phosibl er mwyn eu diogelu rhag y clefydau hyn. Mae brechiadau yn helpu i roi dechrau iach mewn bywyd i’ch baban.

Sut fydd fy maban neu fy mhlentyn yn derbyn eu brechlynnau a sut byddaf yn gwybod pryd y disgwylir iddynt eu cael?

Ar gyfer y rhan fwyaf o frechiadau rheolaidd, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn anfon llythyr atoch pan fydd eich plentyn yn gymwys. Yna bydd eich plentyn yn cael gwahoddiad i gael ei frechlyn yn ei bractis meddyg teulu, neu leoliad brechu arall. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi methu’r gwahoddiad neu’r apwyntiad, cysylltwch â’ch practis meddyg teulu.

A all fy maban neu fy mhlentyn gael eu brechiadau os oes ganddynt alergeddau?

Gall eich baban neu blentyn gael eu brechiadau o hyd os oes ganddynt asthma, ecsema, clefyd y gwair, anoddefiadau bwyd neu alergeddau.

Gall y rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau gael brechiadau heb broblemau. Bydd yr unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn yn gwirio a yw’n ddiogel i’w roi. Cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs practis neu feddyg os oes gennych gwestiynau.

A oes rheswm pam na ddylai fy mhlentyn neu faban gael brechiad?

Ychydig iawn o resymau sydd pam na all plant gael eu brechu.

Ni ddylid rhoi brechlyn i blant sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i ddos ​​blaenorol o’r un brechlyn neu gynhwysyn yn y brechlyn. Os:

    • oes gan eich plentyn anhwylder gwaedu (er enghraifft hemoffilia, pan nad yw eu gwaed yn ceulo’n iawn), neu

    • yw eich plentyn wedi cael ffit nad oedd wedi’i achosi gan dymheredd uwch

siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd cyn i’ch plentyn gael brechiad.

Ni ddylai nifer fach o fabanod a phlant gael brechiad rheolaidd oherwydd rhesymau iechyd. Gall eich meddyg teulu neu nyrs roi rhagor o wybodaeth i chi ac ateb unrhyw bryderon sydd gennych am frechiadau.

Plant â system imiwnedd wan   

Mae gan nifer fach o blant system imiwnedd wan (system imiwnedd nad yw’n gweithio cystal ag y dylai). Gall hyn fod oherwydd problem iechyd neu driniaeth maen nhw’n ei chael ar gyfer cyflwr (fel canser) neu yn dilyn trawsblaniad. Ni ddylai’r plant hyn gael brechlynnau byw fel arfer. Mae brechlynnau byw yn cynnwys y brechlynnau MMR, rotafeirws a chwistrelliad trwynol rhag y ffliw.

Os oes gan eich plentyn system imiwnedd wan, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs neu ymwelydd iechyd cyn iddo gael ei frechu.

Nid oes rhesymau eraill pam na ddylai eich plentyn na’ch baban gael brechiad.  

Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?

Bydd y nyrs practis neu’r meddyg teulu yn egluro am y brechiadau ac yn ateb cwestiynau a fydd gennych. Rhoddir y brechlyn i fabanod trwy bigiad i’r glun. Ar gyfer plant dros 12 mis oed, fel arfer rhoddir pigiadau yn rhan uchaf y fraich.

Rwy’n poeni y bydd fy maban neu fy mhlentyn yn ofidus. Beth alla i ei wneud?

Gallwch ddal eich baban neu’ch plentyn ar eich pen-glin wrth iddynt gael eu brechu. Efallai y byddant yn ofidus am gyfnod byr yn syth ar ôl y brechiad, ond gallwch chi roi cwtsh iddyn nhw i’w helpu i deimlo’n well.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i dynnu sylw eich plentyn yn ystod y brechiad ar dudalen dulliau tynnu sylw wrth gael brechlyn.

A oes gan y brechlynnau hyn sgîl-effeithiau?

Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael eu profi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn y caniateir iddynt gael eu defnyddio. Pan fyddant yn cael eu defnyddio, bydd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) (safle allanol) yn parhau i fonitro eu diogelwch. Yr MHRA yw awdurdod rheoleiddio’r DU ar gyfer meddyginiaethau a brechlynnau.

Er y gall pob meddyginiaeth achosi rhai sgîl-effeithiau, mae brechlynnau ymhlith y rhai mwyaf diogel o’r holl feddyginiaethau. Mae ymchwil byd-eang yn dangos mai’r ffordd fwyaf diogel o amddiffyn iechyd eich plentyn yw trwy ei frechu.

Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau brechiadau yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Gall gwahanol frechiadau gael sgîl-effeithiau gwahanol.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sgîl-effeithiau pob brechlyn yn dudalen rhestr o frechiadau A i Y.

A yw’n iawn i fy maban neu blentyn gael sawl brechlyn ar yr un pryd?

Mae ymchwil yn dangos ei bod yn ddiogel i fabanod gael mwy nag un brechiad ar yr un pryd. Bydd hyn yn golygu eu bod yn cael eu hamddiffyn rhag rhai heintiau difrifol.

Mae babanod yn arbennig o agored i glefydau heintus. Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth eu bod yn cael eu holl frechlynnau rheolaidd ar yr amser a argymhellir.

O’i enedigaeth ymlaen, mae baban yn dod i gysylltiad â miliynau o germau bob dydd. Mae systemau imiwnedd babanod yn gweithio drwy’r amser i’w hamddiffyn rhag germau (bacteria a feirysau) yn yr amgylchedd. Mae brechlynnau’n llawer llai o her i’r system imiwnedd na’r holl germau y mae babanod yn dod i gysylltiad â nhw bob dydd.

A oes unrhyw frechiadau eraill y dylai fy maban neu blentyn eu cael?

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni brechu dethol neu frechlynnau ychwanegol ar gyfer pobl â chyflyrau meddygol sylfaenol, gweler yr amserlen gyflawn.

Beth y dylwn i ei wneud os credaf fod fy mhlentyn wedi colli ei frechiadau?

Cysylltwch â’ch meddygfa os credwch fod eich plentyn wedi colli unrhyw frechiadau.

Beth os byddaf yn colli’r apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os na fyddwch yn gallu mynd. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gall eich plentyn gael ei frechiadau o hyd, ond bydd yn gorfod mynd am gyfnod hwy heb ei ddiogelu.

Beth os bydd fy maban neu fy mhlentyn yn sâl ar ddiwrnod yr apwyntiad?

Os bydd gan eich plentyn salwch ysgafn heb dymheredd uchel (twymyn), fel annwyd, dylai gael ei frechiadau yn ôl yr arfer. Os bydd eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel (dros 38˚C) ar ddiwrnod y brechiad, dylech ohirio’r brechiad nes y bydd yn well.

Rydym yn teithio dramor. A oes angen unrhyw frechiadau eraill ar fy mhlentyn?

Os byddwch yn teithio dramor, mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol arnoch chi a’ch plentyn yn dibynnu ar y wlad rydych yn ymweld â hi.

O leiaf wyth wythnos cyn i chi deithio, siaradwch â’ch meddyg teulu neu glinig teithio preifat i ganfod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi a’ch plentyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am frechiadau teithio drwy fynd i dudalen ganllaw Llywodraeth Cymru (safle allanol).

Rydym wedi symud i’r DU o dramor yn ddiweddar. A oes angen unrhyw frechiadau eraill ar fy mhlentyn?

Os ydych wedi symud i’r DU o dramor, gallwch gofrestru â meddygfa leol. Gallwch ymweld â’ch meddyg teulu neu nyrs am ddim i drafod pa frechiadau y gall fod eu hangen arnoch chi neu eich plant.

Ar ôl i’ch plentyn droi’n 5 oed 

Dysgwch am y brechlynnau a gaiff eu cynnig i’ch plentyn pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol drwy edrych ar y dudalen imiwneiddio-mewn-ysgolion.

Gallwch ddal eich baban neu’ch plentyn ar eich pen-glin wrth iddynt gael eu brechu. Efallai y byddant yn ofidus am gyfnod byr yn syth ar ôl y brechiad, ond gallwch chi roi cwtsh iddyn nhw i’w helpu i deimlo’n well.  Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i dynnu sylw eich plentyn yn ystod y brechiad ar dudalen dulliau tynnu sylw wrth gael brechlyn.

Adnoddau pellach  

  • Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac, i’w helpu ar hyd y ffordd, mae GIG Cymru wedi lansio Pob Plentyn Cymru (safle allanol).