HPV (papiloma dynol)
Mae HPV yn feirws cyffredin iawn nad oes ganddo unrhyw symptomau fel arfer. Bydd dros 70% o bobl nad ydynt wedi cael y brechlyn HPV yn cael HPV ar ryw adeg yn eu bywyd.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HPV yn clirio’r feirws o’u corff, ond gall eraill ddatblygu amrywiaeth o ganserau yn ddiweddarach mewn bywyd a achosir gan y feirws HPV.
Mae HPV fel arfer yn cael ei ledaenu drwy gysylltiad rhywiol agos. Nid yw condomau’n darparu amddiffyniad llwyr. Gall rhai pobl hefyd ddatblygu defaid gwenerol, sy’n gallu bod yn anodd eu trin.
Sut ydw i’n gwybod bod gen i HPV?
Mae cael prawf sgrinio serfigol yn bwysig oherwydd nid yw’r feirws fel arfer yn achosi unrhyw symptomau, hyd yn oed os oes newidiadau i gelloedd ceg y groth.
Gall HPV fod yn segur am flynyddoedd lawer ac mae’n bosibl na fydd byth yn achosi unrhyw newidiadau i’r celloedd. Os caiff ei ganfod ar brawf sgrinio, ni fydd yn bosibl dweud pa mor hir y mae wedi bod yno. Gall y feirws achosi newidiadau i’r celloedd flynyddoedd lawer yn ddiweddarach.
Dysgwch mwy
Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlyn HPV neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, edrychwch ar y wybodaeth a restrir isod.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 Cymru neu eich meddygfa i gael cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mwy o wybodaeth
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn